4 Chwefror 2020

Pryder ar gynnydd ymysg rhieni ynglŷn â phlant ar-lein (Cymru)

  • Hapchwarae a hunan-niweidio ymysg y pryderon mwyaf
  • Hanner y plant hŷn wedi gweld cynnwys casineb ar-lein
  • ‘Effaith Greta’ yn gyrru cynnydd mewn ymwybyddiaeth gymdeithasol ar-lein ymysg plant

Mae mwy nag erioed o rieni’r DU yn teimlo bod defnydd ar-lein plant yn cario mwy o risg nag o fanteision erbyn hyn, yn ôl astudiaeth flynyddol ddiweddaraf Ofcom o fywydau plant ar y cyfryngau ac ar-lein. [1]

Mae rhieni a gofalwyr yn dod yn fwy tebygol o ganiatáu mwy o annibyniaeth ddigidol i’w plant a hwythau’n iau [2]. Ond mae llawer llai’n credu bod manteision bod ar-lein yn fwy na'r risg i’w plentyn nag oedd bum mlynedd yn ôl (55% ar draws y DU, lawr o 65% yn 2015). Mae rhieni a gofalwyr yng Nghymru, fodd bynnag, yn fwy tebygol na chyfartaledd y DU o deimlo’n fwy cadarnhaol ynglŷn â’r rhyngrwyd, gyda dwy ran o dair (67%) yn cytuno bod y manteision i’w plant yn fwy na'r risg.

Daw hyn ar adeg pan mae plant yn fwy tebygol o weld cynnwys casineb ar-lein. Roedd hanner (51%) y rhai 12-15 oed ar draws y DU sy’n mynd ar-lein wedi gweld cynnwys casineb yn y flwyddyn ddiwethaf, wedi cynyddu o 34% yn 2016. Dywed llai o blant yng Nghymru eu bod yn gweld y math hwn o gynnwys (37%). [3]

Mae rhieni ar draws y DU yn mynd yn fwy a mwy pryderus y gallai eu plentyn weld cynnwys a allai ei annog i niweidio ei hun (45%, wedi codi o 39% yn 2018); mae hyn yn arbennig o wir ymysg rhieni yng Nghymru (65%). Yn yr un modd, mae problemau’n ymwneud â hapchwarae yn achosi pryder arbennig i rieni yng Nghymru; y pwysau o fewn gemau ar i’w plentyn brynu pethau fel ‘loot boxes’, rhith eitemau sy’n cynnwys gwobrau (55% o’i gymharu â chyfartaledd y DU o 42%) a’r posibilrwydd i’w plentyn gael ei fwlio drwy gemau ar-lein (51% o’i gymharu â chyfartaledd y DU o 36%).

Fodd bynnag, mae rhieni’r DU yn fwy tebygol nawr nag yn 2018 o siarad â’u plant am aros yn ddiogel ar-lein (85%, wedi codi o 81%). Mae rhieni yng Nghymru yn fwy tebygol o gael y sgyrsiau hyn (95%) na chyfartaledd y DU. Mae rhieni’r DU hefyd bron ddwywaith yn fwy tebygol o fynd ar-lein eu hunain i gael cymorth a gwybodaeth am gadw eu plant yn ddiogel nag oeddent flwyddyn yn gynt (21%, wedi codi o 12%). Eto, mae rhieni yng Nghymru yn fwy tebygol o wneud hyn na chyfartaledd y DU (33%).

Dylanwadwyr, gweithredu ar-lein a merched yn chwarae gemau ar-lein

O edrych ar yr hyn y mae plant heddiw yn ei wneud ar-lein, mae Ofcom wedi darganfod tri llinyn ar-lein amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf.

    18% o blant 12-15 oed yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gefnogi achosion a sefydliadau drwy rannu neu sylwebu ar y cynnwys

  • Effaith 'Greta'.  Rydym wedi gweld cynnydd mewn gweithredu cymdeithasol ar-lein ymysg plant. Mae un o bob pump bron, (18% wedi codi o 12% mewn blwyddyn) o'r rhai 12-15 oed ar draws y DU yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i fynegi cefnogaeth i achosion a mudiadau -amgylcheddol, gwleidyddol neu elusennol o bosibl -drwy rannu postiadau neu wneud sylwadau arnynt. Llofnododd un o bob 10 ddeisebau ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Twf ym mhoblogrwydd y 'blogiwr-fideo' drws nesaf'  Er bod sêr YouTube uchel eu proffil yn dal yn boblogaidd, mae plant yn cael eu denu’n gynyddol bellach at ddylanwadwyr tebyg iddyn nhw eu hunain. Yn aml, mae gan y bobl hyn, sy’n cael eu galw'n ‘ficro’ neu ‘nano’ ddylanwadwyr, lai o ddilynwyr. Maen nhw’n gallu bod yn lleol i ardal y plentyn, neu rannu diddordeb arbenigol â nhw. Disgrifiodd plant y dylanwadwyr hyn fel rhai haws closio atynt sy’n siarad yn uniongyrchol â’u dilynwyr, tra dywedodd eraill eu bod yn gallu efelychu eu cynnwys ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol nhw eu hunain.
  • Mwy o ferched yn chwarae gemau ar-lein. Mae bron i hanner (48%) y merched rhwng 5 a 15 oed ar draws y DU yn chwarae gemau ar-lein erbyn hyn – cynnydd mawr, o 39% yn 2018. Nid yw’r gyfran o fechgyn sy’n chwarae gemau ar-lein wedi newid (ar 71%), ond mae bechgyn yn treulio dwbl cymaint o amser bob wythnos â merched (14 awr 36 munud o’i gymharu â 7 awr 30 munud). Enwodd bechgyn FIFA, Crew 2, Destiny 2 a Fortnite fel enghreifftiau o'r gemau maen nhw’n eu chwarae. Mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol na chyfartaledd y DU o chwarae gemau ar-lein (67% o’i gymharu â 59%).

Y defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn fwy darniog

Mae'r astudiaeth heddiw yn canfod bod plant hŷn yn defnyddio ystod ehangach o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol nag erioed o’r blaen. Mae WhatsApp yn arbennig wedi tyfu mewn poblogrwydd ymysg blant 12-15 oed ers y llynedd, er bod iddo isafswm oedran o 16.

Caiff WhatsApp ei ddefnyddio gan bron i ddwy ran o dair o blant hŷn erbyn hyn (62%) – wedi codi o 43% yn 2018. Am y tro cyntaf, mae’n cystadlu â Facebook (69%), Snapchat (68%) ac Instagram (66%) fel un o’r prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i blant hŷn.

Poblogrwydd proffiliau cyfryngau cymdeithasol fesul cyfrwng rhwng 12-15 oed

Mae llwyfannau mwy newydd fel TikTok - sy’n galluogi defnyddwyr i greu fideos cydwefuso, comedi a thalent 15 eiliad - hefyd yn dod yn fwy poblogaidd. Mae tua un o bob saith plentyn hŷn ar draws y DU yn defnyddio TikTok (13%) - wedi codi o 8% yn 2018. Mae un o bob 20 plentyn hŷn yn defnyddio Twitch - y llwyfan ffrydio byw i’r rhai sy’n chwarae gemau. Mae’r gyfran o rai 8-15 oed yng Nghymru sy’n defnyddio TikTok (12%) a Twitch (7%) yn debyg.

Alexa – faint o blant sy'n defnyddio seinyddion clyfar?

Mae plant yn defnyddio mwy o ddyfeisiau wedi’u cysylltu nag erioed o’r blaen. Ymysg y rhain, yn y defnydd o seinyddion clyfar y gwelwyd y cynnydd mwyaf dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae mwy na chwarter y plant yn eu defnyddio erbyn hyn - wedi codi o 15% yn 2018 - mwy nag sy’n defnyddio radios (22%) am y tro cyntaf. Mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol na chyfartaledd y DU o ddefnyddio seinyddion clyfar (41%) a radios (33%). Cynyddodd defnydd plant y DU o setiau teledu clyfar hefyd o 61% i 67% yn 2019 - sy’n gyson â’r defnydd ymysg plant yng Nghymru (68%).

Darlun o ddefnydd plant o seinyddion clyfar yn erbyn radio a theledu clyfar

Mae arferion gwylio plant yn newid yn fawr hefyd. Mae bron ddwywaith cymaint o blant yn gwylio cynnwys wedi’i ffrydio nag oedd bum mlynedd yn ôl (80% yn 2019 o’i gymharu â 44% yn 2015). Yn 2019, gwyliodd llai o blant deledu wedi’i ddarlledu’n draddodiadol na chynnwys wedi’i ffrydio (74%), ac nid oedd chwarter yn ei wylio o gwbl. Mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol o wylio teledu sy’n cael ei ddarlledu (81%) na chyfartaledd y DU, ond mae’r gyfran sy’n gwylio cynnwys wedi’i ffrydio yn debyg i’r DU.

Oes annibyniaeth ddigidol

O ran mynd ar-lein, mae plant yn fwyaf tebygol o ddefnyddio dyfais tabled (68%), ond mae ffonau symudol yn dod yn fwyfwy poblogaidd ac mae plant yr un mor debygol o ddefnyddio ffôn symudol â gliniadur (55%) erbyn hyn. Mae plant yng Nghymru yn fwy tebygol na chyfartaledd y DU o ddefnyddio dyfais tabled i fynd ar-lein (79%), ond yr un mor debygol o ddefnyddio ffôn symudol (55%). [5]

Mae’r symudiad hwn tuag at ffôn symudol yn cael ei yrru gan blant hŷn yn y DU; iddyn nhw, 10 erbyn hyn yw’r oedran pan fyddant yn cael annibyniaeth ddigidol. Rhwng naw a 10 oed, mae cyfran y plant sy’n berchen ar ffôn clyfar yn dyblu o 23% i 50% – gan roi mwy o annibyniaeth ddigidol iddynt wrth baratoi i symud i’r ysgol uwchradd. Erbyn iddynt gyrraedd 15 oed, mae gan bob plentyn bron (94%) ffôn symudol.[6]

Darlun yn dangos bod 50 y cant o blant bellach yn berchen ar ffonau clyfar o gymharu gyda 30 y cant yn 2015

Yn ôl Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: “Nid yw plant heddiw erioed wedi byw heb y rhyngrwyd, ond erbyn hyn mae dau filiwn o rieni’n teimlo bod y rhyngrwyd yn achosi mwy o niwed na lles iddynt.

“Mae’n galonogol felly fod rhieni, gofalwyr ac athrawon yn cael mwy o sgyrsiau nawr nag erioed o’r blaen gyda phlant am ddiogelwch ar-lein. Bydd addysg a rheoleiddio cryfach hefyd yn helpu plant i gofleidio’u hannibyniaeth ddigidol, gan eu hamddiffyn rhag y risgiau yr un pryd.”

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Adroddiad Ofcom ar Agweddau Plant a’u Defnydd o Gyfryngau 2019 - yn seiliedig ar oddeutu 3,500 o gyfweliadau gyda phlant a rhieni ar hyd a lled y wlad. Data 2019 wedi’i gasglu o 2,343 o gyfweliadau gyda rhieni plant rhwng  5 a 15 oed a phlant rhwng 8 a 15 oed, ynghyd â 900 o gyfweliadau gyda rhieni plant 3-4 mlwydd oed. At ddibenion y datganiad newyddion hwn, mae ‘plant’ yn cyfeirio at blant yn y DU rhwng 5 a 15 oed, a ‘plant hŷn’ at blant rhwng 12 a 15 oed yn y DU. Rhoddir dadansoddiad ar lefel y DU gyfan, a dangosir canlyniadau am Gymru lle mae’n bosib.
  2. Adroddiad ymchwil ansoddol gan Revealing Reality, wedi’i gomisiynu gan Ofcom, yw Children’s Media Lives.  Mae’n darparu dealltwriaeth drylwyr o sut mae sampl o 18 plentyn, rhwng wyth a 18 oed, yn meddwl am gyfryngau digidol ac yn eu defnyddio, a sut mae hyn wedi newid dros amser.

    Rydyn ni’n fwy tebygol o ymddiried mewn plant i gael eu ffôn clyfar eu hunain nag oedden ni bum mlynedd yn ôl.



  3. Oed20152019
    7 6% 10%
    8 7% 11%
    9 14% 23%
    10 30% 50%
    11 47% 64%
    15 83% 94%

3. Mae ‘cynnwys casineb' yn cyfeirio’n benodol at gynnwys sydd wedi’i anelu at grŵp neilltuol o bobl, ar sail, er enghraifft, eu rhyw, eu crefydd, eu hanabledd, eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth o ran rhywedd.

4. Pan ofynnir i blant y DU ddewis un yn unig i’w wylio, maen nhw’n fwy tebygol o ddewis YouTube (44%) yn hytrach na gwasanaethau ffrydio fel Netflix, Now TV ac Amazon Prime Video (32%); neu sianeli teledu fel y BBC ac ITV (17%).

5. Mae plant yn y DU nawr yr un mor debygol o ddefnyddio’u ffôn symudol â gliniadur (55% y naill a'r llall). Mae chwarter (26%) yn gwylio’r teledu a ffilmiau ar eu ffôn, wedi codi o 20% flwyddyn yn unig yn ôl.

6. Perchnogaeth dyfeisiau ymysg plant y DU:

    Graff yn dangos poblogrwydd ffonau clyfar yn erbyn tabled fesul oed

    7. Caiff Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy Diogel ei gynnal ar 11eg Chwefror 2020 ar thema fyd-eang ‘Gyda’n gilydd o blaid gwell rhyngrwyd’, a theitl yr ymgyrch yn y DU eleni yw ‘Rhyddid i fod yn fi’. Yn cael ei gyd-drefnu yn y DU gan Ganolfan Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel y DU mae’r dathliad yn galw ar filoedd o sefydliadau i gymryd rhan i helpu i hyrwyddo defnyddio diogel, cyfrifol a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc. www.saferinternetday.org.uk #DiwrnodDefnyddio'rRhyngrwydYnFwyDiogel #RhyddidIFodYnFi