13 Chwefror 2020

Ofcom yn penodi Simon Saunders yn Gyfarwyddwr Technoleg Newydd

Mae Ofcom wedi cyhoeddi y bydd yr Athro Simon Saunders yn ymuno ag Ofcom fis nesaf fel Cyfarwyddwr Technoleg Newydd.

Mae Simon yn ymuno ag Ofcom o Google, lle’r oedd yn Bennaeth Partneriaethau Cysylltedd ar gyfer Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica. Mae wedi bod gyda’r cwmni technoleg ers 2015, gan weithio gyda gweithredwyr symudol yn fyd-eang ar wella cysylltedd di-wifr drwy dechnoleg uwch.

Mae Simon yn arbenigwr ym maes technoleg cyfathrebu ac mae ganddo gefndir technegol a masnachol, ar ôl gweithio yn y diwydiant gan gynnwys gyda Motorola a Philips, yn y byd academaidd ym Mhrifysgol Surrey a Choleg y Drindod Dulyn, ac fel cynghorydd ar systemau cyfathrebu ar gyfer defnyddwyr busnes, gweithredwyr a gwerthwyr technoleg.

Mae hefyd yn Athro Gwadd yng Ngholeg King’s, Llundain, ac roedd yn aelod o Fwrdd Cynghori Ofcom ar Faterion Sbectrwm rhwng 2007 a 2014. Mae wedi sefydlu a chadeirio nifer o fforymau a chymdeithasau technoleg.

Dywedodd Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: “Mae’n wych bod Simon yn ymuno ag Ofcom. Bydd yn dod â phrofiad sylweddol i’n gwaith ac yn helpu i sicrhau ein bod yn gallu delio â chyflymder cynyddol newidiadau technolegol”.

Dywedodd Simon: “Rydw i’n gyffrous iawn i ddechrau yn Ofcom sy’n rheoleiddiwr blaengar sy’n deall technoleg. Rydw i’n edrych ymlaen at helpu i lywio dyfodol gwaith Ofcom i wella cyfathrebiadau i bobl a busnesau yn y DU.”

See also...