10 Mawrth 2021

Ymagwedd gydgysylltiedig at reoleiddio digidol

  • Y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol yn cyhoeddi ei gynllun gwaith blynyddol cyntaf

Heddiw, amlinellodd y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol (DRCF) ei flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan nodi newid sylweddol mewn cydlynu rheoleiddio ar draws gwasanaethau digidol ac ar-lein.

Ffurfiodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) a'r Swyddfa Gyfathrebiadau (Ofcom) y DRCF ym mis Gorffennaf 2020. Gan adeiladu ar y berthynas waith gref rhwng y sefydliadau hyn, sefydlwyd y fforwm i sicrhau mwy o gydweithredu, o ystyried yr heriau unigryw a achosir gan reoleiddio llwyfannau ar-lein.

Mae gwasanaethau ar-lein yn chwarae rhan fwy canolog fyth yn ein bywydau, ac mae'r dirwedd ddigidol yn datblygu'n gyflym. Mae angen dull rheoleiddio mwy cydlynol, cydgysylltiedig a chlir – er lles defnyddwyr y rhyngrwyd a'r cwmnïau sy'n eu gwasanaethu.

Mae cynllun gwaith y DRCF heddiw ar gyfer 2021/22 (PDF, 236.9 KB) yn pennu cynllun ar gyfer sut y bydd Ofcom, y CMA a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynyddu cwmpas a graddfa eu cydweithrediad yn sylweddol.  Bydd hyn yn golygu cyfuno arbenigedd ac adnoddau, cydweithio'n agosach ar faterion rheoleiddio ar-lein sydd o bwys i'r tri sefydliad, ac adrodd ar ganlyniadau bob blwyddyn.

Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi bod yn aelod arsylwi o'r DRCF ers y cychwyn cyntaf a bydd hefyd yn ymuno fel aelod llawn o fis Ebrill 2021.

Cydweithredu, cydgysylltu a dull rheoleiddio cydlynol

Ers ffurfio'r DRCF, bu sawl datblygiad mawr yn mynnu sylw'r rheoleiddiwr yn y dirwedd digidol ac ar-lein esblygol.

Er enghraifft, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y bydd Ofcom yn goruchwylio ac yn gorfodi dyletswydd gofal newydd ar gyfer niwed ar-lein. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd y bydd Uned Marchnadoedd Digidol (DMU) yn cael ei sefydlu yn y CMA i oruchwylio ei threfn newydd o blaid cystadleuaeth. At hynny, eleni, bydd Cod Dylunio sy’n Briodol i Oedran newydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn dod i rym.

Er mwyn ein helpu i baratoi'n effeithiol ar gyfer y cyfrifoldebau newydd hyn, mae ein cynllun gwaith yn nodi sut y byddwn, trwy'r DRCF, yn cydlynu ein dull rheoleiddio yn y flwyddyn i ddod - gan ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth:

  • Ymateb yn strategol i ddatblygiadau’r diwydiant a thechnolegol

    Byddwn yn lansio prosiectau ar y cyd ar faterion cymhleth a thrawsbynciol. Mae'r CMA eisoes wedi cyhoeddi ymchwil newydd ar algorithmau, gan ddangos sut y gallant leihau cystadleuaeth mewn marchnadoedd digidol a niweidio defnyddwyr os cânt eu camddefnyddio. Bydd yr ymchwil hon ac unrhyw adborth arni yn llywio gwaith y DRCF yn y dyfodol.  Bydd prosiectau eraill yn cynnwys ymchwil i fframweithiau dylunio gwasanaethau; deallusrwydd artiffisial; technolegau hysbysebu digidol ac amgryptio o'r dechrau i'r diwedd.
  • Gyda'n gilydd byddwn yn adeiladu darlun mwy cynhwysfawr o dueddiadau'r diwydiant a datblygiadau arloesol newydd mewn technoleg ddigidol er mwyn deall goblygiadau cyffredin ar gyfer rheoleiddio.

  • Datblygu dulliau rheoleiddio cydgysylltiedig

    Mae natur gwasanaethau digidol yn golygu y bydd gwahanol gyfundrefnau rheoleiddio yn cydgysylltu ac yn gorgyffwrdd. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn datblygu dulliau o sicrhau dull rheoleiddio cydlynol.
  • Bydd meysydd ffocws eleni ar y gydberthynas rhwng diogelu data a rheoleiddio cystadleuaeth, a'r Cod Dylunio Sy'n Briodol i Oedran a rheoleiddio Llwyfannau Rhannu Fideos a Niwed Ar-lein.

  • Adeiladu sgiliau a galluoedd a rennir
  • Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i adeiladu ein galluoedd technegol a dadansoddol cyfunol. Byddwn yn archwilio modelau gweithredol i gefnogi rhannu sgiliau ac arbenigedd yn fwy effeithlon yn y dyfodol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, adeiladu timau arbenigol ar draws rheoleiddwyr.

    Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n agos ag awdurdodau rheoleiddio eraill sydd â chyfrifoldebau dros farchnadoedd digidol, sy'n rhannu rhai o'r heriau a nodir yn ein cynllun gwaith.

Camau nesaf

Rydym yn gwahodd sylwadau a thrafodaeth ar gynllun gwaith a blaenoriaethau'r DRCF ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dylid cyflwyno'r rhain i DRCF@ofcom.org.uk.

Wrth edrych i'r dyfodol, efallai y bydd angen mesurau ychwanegol i gryfhau cydweithredu rheoleiddio digidol ymhellach. Yr ydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â sut y gellir cyflawni hyn.

Meddai’r Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom:

"Mae gwasanaethau ar-lein yn hanfodol i'r ffordd yr ydym yn rhyngweithio â'r byd o'n cwmpas. Ac rydym am sicrhau bod pobl yn parhau i fwynhau'r manteision niferus y mae'r llwyfannau a thechnolegau arloesol hyn yn eu cynnig, ar yr un pryd â chael tawelwch meddwl eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag y niwed a'r risgiau posib."

Wrth i ni baratoi ein hunain i ymgymryd â chyfrifoldebau newydd i reoleiddio diogelwch ar-lein, mae'r cynllun gweithredu heddiw yn nodi sut, trwy'r DRCF, y byddwn yn cryfhau ein cysylltiadau â'r CMA a'r ICO. Gyda'n gilydd byddwn yn gyrru dull cydlynol o reoleiddio ar-lein – er lles defnyddwyr y rhyngrwyd a'r cwmnïau sy'n eu gwasanaethu."

Meddai Andrea Coscelli, Prif Weithredwr CMA:

"Mae technoleg yn chwarae rhan hanfodol yn ein holl arferion bob dydd, boed hynny drwy ein helpu i weithio, galluogi ni i gadw mewn cysylltiad â’n perthnasau agosaf, neu ein galluogi i weld bargen ar-lein. Deallwn fod y camau yr ydym ni a rheoleiddwyr eraill yn eu cymryd yn y farchnad ddigidol yn cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl.

"Dyna pam nawr, yn fwy nag erioed, mae'n rhaid i ni gydweithio'n agos ag asiantaethau eraill – yn ddomestig ac yn rhyngwladol – i fynd i'r afael â'r problemau hyn gyda'n gilydd a gweithio gyda chwmnïau technoleg pwerus i lywio eu hymddygiad yn rhagweithiol."

Meddai Elizabeth Denham, Comisiynydd Gwybodaeth y DU:

"Mae rheoleiddio effeithiol yn cefnogi arloesedd digidol a datblygu economaidd. Mae'n rhoi ymddiriedaeth a hyder i bobl gefnogi arloesedd, gan fod yn hyderus bod gwiriadau a gwrthbwysau ar waith i'w diogelu.

"Trwy'r DRCF byddwn yn cydweithio'n agos â'r CMA ac Ofcom. Mae ein cynllun gwaith yn fap tuag at atebion pragmatig ac ymarferol i'r heriau sy'n deillio o'n byd cynyddol ddigidol. Bydd cydweithredu ymarferol rhwng rheoleiddwyr yn sbarduno canlyniadau gwell i fusnesau ac unigolion."

Nodiadau i Olygyddion

  1. Dogfennau lansio DRCF:

    https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0021/192243/drcf-launch-document.pdf (PDF, 169.8 KB)

    https://ico.org.uk/about-the-ico/news-and-events/news-and-blogs/2020/07/uk-regulators-join-forces-to-ensure-online-services-work-well-for-consumers-and-businesses/

    https://www.gov.uk/government/publications/digital-regulation-cooperation-forum

  2. Rydym yn bwriadu cydweithio’n agos â rheoleiddwyr domestig a rhyngwladol eraill fel y bo’n briodol.

Related content