25 Mai 2021

Rydym wedi diweddaru ein teclyn gwirio symudol a band eang

Rydym wedi gwneud newidiadau i'n teclyn gwirio darpariaeth symudol a band eang (cliciwch ar Gymraeg), i'w wneud yn fwy hygyrch ac i gynnig gwybodaeth am ba gwmnïau sy'n cynnig gwasanaethau yn eich ardal.

Mae'r teclyn gwirio darpariaeth symudol a band eang yn galluogi chi i:

  • wirio argaeledd symudol dan do ac awyr agored ar gyfer gwasanaeth galwadau ffôn a rhyngrwyd symudol gan yr holl brif ddarparwyr;
  • gweld argaeledd band eang ar gyfer unrhyw gyfeiriad yn y DU; a
  • chael awgrymiadau ar sut i wella'ch cysylltiad rhyngrwyd neu ddarpariaeth symudol.

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw nodi eich cod post a chyfeiriad, ac fe gewch fanylion y ddarpariaeth symudol sydd wedi'i darogan fesul darparwr, yn ogystal ag argaeledd gwasanaethau band eang - safonol, cyflym iawn a gwibgyswllt.

Mae'r data symudol yn seiliedig ar ragfynegiadau o lefelau signal a ddarperir gan bedwar darparwr rhwydwaith symudol y DU.

Mae'r data band eang yn seiliedig ar argaeledd a data am ragfynegiadau cyflymder a ddarperir gan brif ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd y DU.

Gall signalau symudol a band eang gael eu heffeithio gan nifer o ffactorau, megis nifer y dyfeisiau sy'n defnyddio rhwydwaith ar yr un pryd. Felly mae'n bosib y bydd eich profiad gartref yn wahanol i'r rhagfynegiadau darpariaeth yn y teclyn gwirio.

Os, wrth chwilio am wasanaethau band eang, bydd y canlyniadau'n dangos na allwch dderbyn cyflymder lawrlwytho o 10Mdid yr eiliad, mae hyn yn golygu y gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol (USO) band eang.

O dan y USO, os na allwch chi dderbyn cyflymder lawrlwytho o 10 did yr eiliad a chyflymder uwchlwytho o 1 Mdid yr eiliad, gallwch ofyn am uwchraddiad i'ch cysylltiad. Gallwch wneud y cais hwn i BT, neu i KCOM os ydych yn byw yn ardal Hull. Nid oes angen i chi fod yn un o gwsmeriaid presennol BT neu KCOM i ymgeisio.

Ni all ein teclyn gwirio darpariaeth eich hysbysu am broblemau dros dro gyda gwasanaethau yn eich ardal. Fodd bynnag, dylai eich darparwr fedru rhoi'r wybodaeth hon i chi.

Related content