28 Hydref 2021

Mis Hanes Pobl Dduon: Dathlu pobl Dduon mewn teledu a radio

Mae mis Hydref yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon, pan fydd pobl a sefydliadau ledled y byd yn cymryd amser i fyfyrio ar ein hanes ac ar yr un pryd meddwl am y camau y gallwn eu cymryd tuag at sicrhau cymdeithas fwy cyfartal.

Mae ymchwil (PDF, 2.8 MB) gan Ofcom yn dangos bod pobl Dduon yn parhau i gael eu tangynrychioli'n sylweddol ym maes darlledu yn y DU – felly mae'n bwysicach nag erioed i daflu goleuni ar gyflawniadau a chyfraniadau pobl Dduon ar draws y diwydiant.

Roeddem am ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon drwy dynnu sylw at ychydig o'r bobl Dduon anhygoel sydd wedi gwneud neu sy'n gwneud pethau syfrdanol ym maes teledu a radio yn y DU. Mae rhai wedi creu hanes, ac mae rhai eraill yn gwneud gwaith ysbrydoledig sy'n cael effaith wirioneddol.

Moira Stuart

Ym 1981 Moira Stuart oedd y fenyw Ddu gyntaf a welwyd ar deledu Prydain yn gweithio fel darllenydd newyddion a chyflwynydd. Fe gyflwynodd hi bob math o fwletin newyddion ar y BBC yn ystod ei gyrfa pum mlynedd ym maes teledu a radio ac fe gyflwynodd hi raglenni gan gynnwys The Big Spell ar Sky 1, The Holiday Programme a Have I Got News For You! ar BBC One.

Ym mis Mawrth 2007 cyflwynodd hi'r rhaglen ddogfen In Search of Wilberforce ar gyfer teledu'r BBC, gan archwilio rôl yr ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth William Wilberforce ar adeg 200 mlynedd ers y bil Prydeinig a ddiddymodd y fasnach gaethwasiaeth.

Barbara Blake Hannah

Barbara Blake Hannah oedd y person Du cyntaf i ymddangos ar deledu'r DU mewn rôl na fu'n adloniant, ar ôl bachu swydd gohebydd ar gamera y sioe Today ar Thames TV ym 1968.

Yn ystod ei gyrfa, fe gyfwelodd â phobl nodedig gan gynnwys y prif weinidog Harold Wilson a'r actor Michael Caine. Yn anffodus cafodd ei diswyddo o'i rôl ar ôl naw mis yn unig, yn dilyn cwynion gan wylwyr.

Erbyn hyn, mae gan Wobrau Newyddiaduraeth Prydain wobr Barbara Blake Hannah i newyddiadurwyr o gefndir ethnig nad yw'n wyn.

Trevor McDonald

Ymunodd Trevor McDonald ag ITN ym 1973, gan godi drwy'r rhengoedd i fod yn unig gyflwynydd News at Ten ym 1992 ac yn wyneb adnabyddus ar sgriniau teledu Prydain. Aeth ymlaen i gael ei sioe ei hun, Tonight with Trevor McDonald.

Yn ogystal â bwletinau newyddion, cyflwynodd Trevor raglenni dogfen niferus ITV ar achosion troseddol enwog a Rhes yr Angau. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1999 am ei wasanaethau i newyddiaduraeth.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai Trevor fydd wyneb y fersiwn newydd o Gamesmaster ar E4, wrth i'r fformat ddychwelyd i sgriniau ar ôl 25 mlynedd.

Floella Benjamin

Cyflwynodd Floella Benjamin (bellach y Farwnes Floella Benjamin DBE) raglenni plant adnabyddus y BBC o 1976, gan gynnwys Play School, Fast Forward a Play Away.

Mae hi hefyd wedi gweithio ar raglenni radio niferus, o sioeau addysg ac adloniant plant i ddrama i oedolion. Bu'n gyflwynydd ei rhaglen materion cyfoes ei hun ar Radio London, 'Black Londoners', am nifer o flynyddoedd.

Mae'r Farwnes Benjamin yn Arglwydd yn Nhŷ'r Arglwyddi, mae hi'n gwneud cryn dipyn o waith gydag elusennau plant ac bu hi hefyd yn aelod o Fwrdd Cynnwys Ofcom.

Ade Adepitan

Mae Ade Adepitan yn gyflwynydd teledu adnabyddus ac yn chwaraewr pêl-fasged cadair olwyn. Ar ôl contractio polio yn ifanc, fe gollodd y defnydd o'i goes chwith, ond aeth ymlaen i fod yn Baralympydd, gan ennill medal aur.

Gwnaed Ade yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaethau i chwaraeon anabledd yn 2005. Bu'n un o brif gyflwynwyr Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Yn ystod ei daith bedair rhan o amgylch Affrica, Africa with Ade Adepitan, a ddarlledwyd ar y BBC yn 2019, fe adroddodd straeon am sut mae'r cyfandir yn newid.

Seyi Rhodes

Mae Seyi Rhodes yn gyflwynydd teledu Prydeinig ac yn newyddiadurwr ymchwil ar raglenni a ddarlledir ar BBC a Channel 4. Mae'n adnabyddus am ei rôl yn cyflwyno'r gyfres ddogfen Unreported World ar Channel 4 yn ogystal â Dispatches.

Mae wedi gohebu o wledydd ledled y byd, gan gynnwys cael mynediad i garchar drwgenwog yn Haiti. Yn y DU, mae wedi ymchwilio i dwyll mewn ysgolion a herio gweinidogion y llywodraeth ynghylch eu newidiadau i fudd-daliadau.

Yn 2009, enillodd adroddiad Unreported World Rhodes, Sierra Leone: The Insanity Of War, Wobr Cyfryngau Iechyd Meddwl MIND am y rhaglen ddogfen fer orau.

Trevor Nelson

Mae Trevor Nelson yn gyflwynydd radio, DJ ac yn gyflwynydd teledu, gan ddechrau ei yrfa ddarlledu gyda Kiss FM ym 1985.

Aeth ymlaen i gyflwyno sioeau ar BBC Radio One, BBC Radio Two ac 1Extra a dyfarnwyd y wobr aur cyflawniad oes arbennig iddo am wasanaethau i ddarlledu yn 2010 yng Ngwobrau Academi Radio Sony.

Dyfarnwyd MBE iddo yn 2002 am ei gyfraniad i raglen Gwirfoddolwyr y Mileniwm, sy'n ennyn diddordeb pobl ifanc mewn cyfleoedd gwirfoddoli.

Fis diwethaf, cynhaliodd Ofcom ddigwyddiad i drafod gorffennol, presennol a dyfodol amrywiaeth mewn darlledu a sut y gall y diwydiant fod yn fwy cynhwysol.

Gwyliwch uchafbwyntiau'r digwyddiad a mewnwelediadau o'n digwyddiad Dros Bawb.

Related content