20 Mai 2021

Lansio 'Pasbortau Digidol' i helpu taclo niwed ar-lein i blant sy'n derbyn gofal

Heddiw, mae ‘Pasbort Digidol’ wedi cael ei lansio i helpu plant, pobl ifanc a'u gofalwyr i fanteisio i'r eithaf ar dechnoleg a mynd ar-lein.

Mae'r Pasbort Digidol wedi cael ei greu gan Weithgor Defnyddwyr Agored i Niwed UKCIS, grŵp o arbenigwyr sy'n gweithio ar y cyd i leihau'r risgiau y mae plant sy'n agored i niwed yn eu hwynebu ar-lein.

Er bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn mwynhau creu cysylltiadau, chwarae gemau, dysgu a chael hwyl ar-lein, mae ymchwil yn awgrymu eu bod mewn amgylchedd mwy gelyniaethus a'u bod yn fwy tebygol o brofi risgiau cynyddol ar-lein.

Mae'r un ymchwil yn nodi bod plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn cael y rhyddid a'r cyfleoedd y mae cysylltedd yn eu darparu'n arbennig o fuddiol.

Mae'r Pasbort Digidol yn offeryn cyfathrebu ar gyfer gofalwyr maeth a'u plant, a grëwyd i'w helpu i gael sgyrsiau rheolaidd a chefnogol, cytuno ar gamau y gallant oll eu cymryd i gadw plant yn fwy diogel ar-lein ac i gofnodi unrhyw sefyllfaoedd diogelu neu bryderus, yn ogystal â dathlu'r hyn y maent yn ei fwynhau ar-lein.

Beth mae'n ei gynnig?

  • Helpu i alluogi bywyd digidol y plentyn mewn ffordd gadarnhaol a chefnogol.
  • Offeryn ar gyfer gofalwyr i roi eglurhad a chefnogi sgyrsiau a dealltwriaeth am fywyd ar-lein.
  • Cefnogi cytundebau am fynediad i'r rhyngrwyd a'r defnydd o ddyfeisiau rhwng gofalwyr a phlant.
  • Cysondeb ar gyfer plentyn neu berson ifanc os byddant yn symud i leoliad neu amgylchedd cartref arall.
  • Cofnod sy'n gwella diogelu.
  • Offeryn i helpu manteisio i'r eithaf ar yr hyn y mae technoleg yn ei gynnig ac i agor cyfleoedd i fyny ar gyfer plant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai sy'n derbyn gofal neu'n gadael gofal.

Sut mae'n gweithio?

Gellir defnyddio'r Pasbort Digidol fel arf i drafod barn, teimladau a phrofiadau o gwmpas bywyd digidol y plentyn ac i gofnodi cytundebau a wnaed, yn ogystal â gwirio a ydynt yn dal i weithio ar gyfer y plentyn. Gall helpu hefyd i wirio a yw'r cytundebau'n dal i weithio ac i wneud newidiadau, yn ogystal â rhoi ffordd i blant mewn gofal gychwyn sgwrs am y ffordd orau o'u cefnogi nhw.

Mae dwy brif adran i'r Pasbort Digidol. Mae un yn dod â gwybodaeth ynghyd ar gyfer y gofalwr maeth a gweithwyr proffesiynol eraill am 'fywyd digidol' y plentyn. Mae'r llall ar gyfer y plentyn, i fynegi dyheadau a theimladau, gobeithion a diddordebau.

Pam mae angen hwn?

Y ffordd fwyaf effeithiol o gadw plant yn ddiogel ar-lein yw i'w gofalwyr fod â diddordeb yn eu bywydau ar-lein ac i'w cefnogi, ac i sgyrsiau fod yn bwrpasol ac yn rheolaidd.

Rydym yn gwybod hefyd bod llawer o ofalwyr maeth yn betrus ym maes technoleg a'u bod o bosib yn mynd i'r dewis diofyn o dynnu dyfeisiau i ffwrdd a chyfyngu ar fynediad digidol mewn sefyllfa ble, i lawer o bobl ifanc mewn gofal, mai dyna'r unig ffordd sydd ganddynt o gysylltu â ffrindiau a theulu.

Mae'r Pasbort Digidol yn gweithredu fel adnodd i gefnogi gofalwyr maeth wrth reoli'r sgyrsiau hollbwysig a fydd yn helpu nhw i ddeall, cefnogi a diogelu bwyd ar-lein eu plentyn.

See also...