12 Mai 2021

Ofcom i gaffael pwerau diogelwch ar-lein newydd wrth i fesur Llywodraeth y DU gael ei gyhoeddi heddiw

Heddiw mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei Mesur Diogelwch Ar-lein drafft, sy'n rhoi cyfrifoldebau newydd i Ofcom i ddiogelu pobl pan fyddant ar-lein.

O dan y mesur drafft, mae'n rhaid i wasanaethau chwilio, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, a gwasanaethau ar-lein eraill sy'n cynnal cynnwys a grëir gan ddefnyddwyr, neu sy'n galluogi pobl i gyfathrebu ag eraill ar-lein, liniaru'r risg o niwed sy'n deillio o gynnwys anghyfreithlon, er enghraifft trwy isafu lledaeniad y fath gynnwys. Mae hyn yn cynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol a therfysgaeth. Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn cadarnhau heddiw y bydd yn ofynnol i'r gwasanaethau hyn fynd i'r afael â thwyll ar-lein a grëir gan ddefnyddwyr.

Bydd angen i wasanaethau sicrhau diogelwch plant ar-lein hefyd. Bydd yn ofynnol i rai llwyfannau, y mae’r Adran Dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi nodi fydd y safleoedd mwyaf a mwyaf peryglus – a elwir yn 'safleoedd Categori 1', gymryd camau yn achos cynnwys cyfreithlon a allai fod yn niweidiol i oedolion - megis seiberfwlio neu annog hunan-niweidio. Mae'n rhaid iddynt esbonio'n glir sut y byddant yn mynd i'r afael â'r problemau hyn, a byddwn ni'n dal nhw'n atebol am sut maen nhw'n gwneud hynny.

Mae'r mesur drafft heddiw hefyd yn ceisio sicrhau y gall pobl fynegi eu hunain yn rhydd ar-lein, a bydd yn mynnu bod llwyfannau'n ystyried pwysigrwydd rhyddid mynegiant wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae'r mesur drafft hefyd yn cyflwyno dyletswyddau newydd a phenodol ar gyfer gwasanaethau Categori 1 i amddiffyn cynnwys newyddiadurol a chynnwys sydd wedi'i ddiffinio'n 'ddemocrataidd bwysig'.

Bydd gan Ofcom y pwerau i roi dirwy hyd at £18 miliwn i gwmnïau, neu ddeg y cant o'u trosiant byd-eang blynyddol, os byddant yn methu yn eu dyletswydd gofal newydd.

Mae gan Ofcom brofiad eisoes o daclo cynnwys niweidiol a diogelu rhyddid mynegiant, trwy ein rôl o reoleiddio rhaglenni teledu a radio. Ni yw rheoleiddiwr llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU hefyd.

Ar ôl ei gyhoeddi, bydd y mesur drafft yn cael ei graffu gan gyd-bwyllgor o seneddwyr y DU cyn i fersiwn terfynol gael ei gyflwyno'n ffurfiol i Senedd y DU i gwblhau’r broses ddeddfwriaethol.  Mae datganiad i'r wasg ar gael gan DCMS sy'n darparu mwy o wybodaeth am y Mesur Diogelwch Ar-lein drafft.

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: "Mae'r Mesur heddiw yn mynd a ni gam yn agosach at fyd lle nad yw manteision bod ar-lein, ar gyfer plant ac oedolion, n cael eu tanseilio mwyach gan gynnwys niweidiol. Byddwn yn cefnogi Senedd y DU wrth graffu'r Mesur drafft, ac yn dweud mwy cyn bo hir am sut y gallai'r gyfundrefn newydd hon weithio'n ymarferol - gan gynnwys ein dull o sicrhau gwell atebolrwydd gan lwyfannau technoleg."

See also...