10 Mawrth 2021

Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol yn cyhoeddi ei gynllun gwaith blynyddol cyntaf

Heddiw, mae'r Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol (DRCF) wedi amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan nodi newid sylweddol yn y ffordd y caiff rheoleiddio ei gydlynu ar draws gwasanaethau digidol ac ar-lein.

Ffurfiwyd y DRCF gan Ofcom, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ym mis Gorffennaf 2020. Gan adeiladu ar y berthynas waith gref rhwng y sefydliadau hyn, sefydlwyd y DRCF i sicrhau mwy o gydweithredu rhyngddynt, o ystyried yr heriau unigryw a ddaw yn sgil rheoleiddio llwyfannau ar-lein.

Mae cynllun gwaith DRCF heddiw ar gyfer 2021/22 yn nodi map ffordd ar gyfer sut y bydd Ofcom, y CMA a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynyddu cwmpas a graddfa eu cydweithrediad. Bydd hyn yn golygu dwyn ynghyd eu harbenigedd a'u hadnoddau, gweithio'n agosach ar faterion rheoleiddio ar-lein sydd o bwys i'r ddwy ochr, ac adrodd ar ganlyniadau bob blwyddyn.

Rydym yn gwahodd sylwadau a thrafodaeth ar gynllun gwaith a blaenoriaethau'r DRCF ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dylid cyflwyno'r rhain i DRCF@ofcom.org.uk.

Related content