16 Chwefror 2021

Gwasanaethau cyfnewid fideo brys – ymgynghoriad ar gynigion ychwanegol

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer darparu gwasanaethau cyfnewid fideo i bobl fyddar i’w helpu i wneud galwadau i’r gwasanaethau brys.

Mae gwasanaethau cyfnewid fideo yn ffordd o alluogi pobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gyfathrebu’n effeithiol â phobl nad ydynt yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae’r defnyddiwr byddar yn gwneud galwad fideo drwy ddefnyddio dyfais gysylltiedig i alw dehonglwr BSL mewn canolfan alwadau. Mae’r dehonglwr yn cyfieithu’r hyn y mae’r defnyddiwr byddar yn ei ddweud i Saesneg llafar er mwyn i’r gwasanaethau brys glywed, ac yn arwyddo’r hyn y mae’r gwasanaethau brys yn ei ddweud wrth y defnyddiwr byddar.

Rydym wedi ymgynghori o’r blaen ar gynlluniau i fynnu bod darparwyr cyfathrebiadau’n cynnig gwasanaeth cyfnewid fideo 24/7 am ddim i ddefnyddwyr BSL sydd angen ffonio’r gwasanaethau brys.

Rydym yn awr yn ymgynghori ar rai ychwanegiadau i’r rheolau a gynigir. Mae hyn yn cynnwys mynnu bod darparwyr naill ai’n darparu’r gwasanaeth cyfnewid fideo eu hunain neu’n contractio sefydliad arall i wneud hynny. Rydyn ni hefyd yn cynnig bod unrhyw ddata mae cwsmeriaid yn ei ddefnyddio i wneud yr alwad fideo yn cael ‘cyfradd sero’ ac felly mae’r gwasanaeth yn parhau i fod am ddim i’r defnyddiwr – yn yr un modd â galwadau brys eraill.

Rydym yn gwahodd ymatebion i’r ymgynghoriad erbyn 30 Mawrth 2021 a byddwn yn cadarnhau ein penderfyniadau yr haf hwn.

See also...