27 Ebrill 2021

Arwerthiant sbectrwm Ofcom: cyhoeddi'r canlyniadau terfynol

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi canlyniadau terfynol yr arwerthiant ar gyfer sbectrwm yn y bandiau 700 MHz a 3.6-3.8 GHz, ar ôl i'r camau terfynol gael eu cwblhau.

Ym mis Mawrth, bu i ni gyhoeddi canlyniadau'r prif gam, a bennodd faint o sbectrwm yr oedd pob un o'r pedwar cynigiwr – EE Limited, Hutchison 3G UK Limited, Telefónica UK Limited a Vodafone Limited – wedi'i sicrhau yn y ddau fand, a faint yr oeddent wedi ymrwymo i'w dalu.

Galluogodd y cam aseinio dilynol, yr ydym yn cyhoeddi ei ganlyniadau heddiw, i'r cwmnïau gynnig am y safleoedd amledd penodol sy'n well ganddynt ar gyfer y tonnau awyr hyn. Cyflwynodd nifer o'r cwmnïau dan sylw gynigion yn ystod y cam aseinio, a ddefnyddiodd y rheol ail bris i bennu cynigion llwyddiannus. O ganlyniad i hyn, codwyd £23 miliwn ychwanegol.

Canlyniadau'r cam aseinio

Ar ôl cwblhau'r cam aseinio, rydym wedi rhoi trwyddedau i'r pedwar cynigydd ar gyfer yr amleddau a ganlyn ar draws y ddau fand:

  • EE Limited - 723-733 MHz a 778-788 MHz;738-758 MHz; a 3680-3720 MHz.
  • Hutchison 3G UK Limited - 713-723 MHz a 768-778 MHz.
  • Telefónica UK Limited - 703-713 MHz a 758-768 MHz; a 3760-3800 MHz.
  • Vodafone Limited - 3720-3760 MHz.

Cyfnod Cyd-drafod

Roedd gan enillwyr sbectrwm yn y band 3.6-3.8 GHz y cyfle i gyd-drafod eu safleoedd sbectrwm ymysg eu hunain. Dyma gam pwysig tuag at helpu cwmnïau i ddod â'u daliannau sbectrwm yn y band 3.4-3.8 GHz yn agosach at ei gilydd trwy roi cyfle iddynt gyd-drafod cyd-fasnachu ar ôl yr arwerthiant i gyfuno sbectrwm a enillir yn y band 3.6-3.8 GHz a'r tonnau awyr yr oeddent eisoes yn eu dal yn y band 3.4-3.6 GHz. Ymgymerodd Telefónica UK Limited a Vodafone Limited â chytundeb yn ystod y cam cyd-drafod.

Gyda thrwyddedau ar gyfer y tonnau awyr hyn bellach wedi'u rhoi, gall y pedwar cwmni symudol symud ymlaen yn awr i hysbysu Ofcom am unrhyw gyd-fasnachu y maent yn bwriadu ei wneud.

Meddai Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp, Sbectrwm yn Ofcom: “Nawr bod yr arwerthiant wedi'i gwblhau, gall y cwmnïau hyn ddefnyddio'r tonnau awyr hyn i gyflwyno gwasanaethau symudol gwell ar garlam i bobl ar draws y DU. Bydd y sbectrwm ychwanegol hwn hefyd yn cefnogi lansiad parhaus cysylltiadau 5G newydd i bobl a busnesau. Mae'n bwysig bod gan y cynigwyr yr hyblygrwydd i gyd-fasnachu, er mwyn iddynt optimeiddio'r defnydd o'r sbectrwm y maent wedi'i ennill yn yr arwerthiant gyda'u tonnau awyr presennol."

Cyfanswm refeniw yr arwerthiant, gan gynnwys y £23 miliwn a godwyd yn y cam aseinio, yw £1,379,400,000. Telir yr holl arian i Drysorlys EM.

Related content