23 Ebrill 2021

Rhybudd drwgwedd: gochelwch rhag negeseuon testun cwmnïau cludo parseli ffug

Mae sgam neges destun sy'n heintio ffonau symudol Android gyda meddalwedd maleisus (drwgwedd) yn targedu pobl yn y DU.

Mae'r neges destun, sy'n ffugio iddi fod oddi wrth gwmni cludo parseli, yn cynnwys dolen sy'n honni caniatáu i chi dracio parsel.

Fodd bynnag, ymgais yw hwn i heintio'ch ffôn gyda drwgwedd, sy'n digwydd os byddwch yn clicio'r ddolen. Mae'r negeseuon testun dwyllodrus hyn wedi cael eu derbyn gan gwsmeriaid ar holl rwydweithiau'r DU. Mae un enghraifft o'r neges destun, sydd wedi'i dangos isod, yn honni dod gan DHL.

Screenshot of a text message which claims to be from DHL. In fact it is a scam text. The text reads: "DHL: Your parcel is arriving, track here:", followed by a link.Ciplun o'r neges destun ‘Flubot’ dwyllodrus

Gall y drwgwedd, o'r enw Flubot, alluogi troseddwyr i gael gafael ar wybodaeth bersonol yn eich ffôn, gan gynnwys manylion bancio ar-lein.

Os byddwch chi'n derbyn un o'r negeseuon testun hyn, dilynwch y camau a ganlyn:

  1. PEIDIWCH â chlicio'r ddolen
  2. Rhowch wybod am y neges trwy anfon hi ymlaen i 7726
  3. Dilëwch y neges o'ch ffôn

Os ydych yn credu i chi gael eich effeithio gan y sgam yma, cysylltwch â'ch darparwr mor fuan â phosib, yn ogystal ag Action Fraud, y ganolfan adrodd am dwyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dylid adrodd am dwyll neu unrhyw drosedd ariannol arall yn Yr Alban i'r Heddlu ar 101.

Mae Canolfan Seiberdroseddau Genedlaethol (NCSC) y DU wedi cyhoeddi cyngor ar gyfer pobl sydd efallai wedi cael eu heffeithio gan y sgam yma hefyd.

For more advice on scams...