16 Rhagfyr 2021

Band eang ffeibr llawn cyflym yn cyrraedd dros chwarter o gartrefi Cymru

  • Mae band eang ffeibr llawn bellach ar gael i dros 400,000 miliwn o gartrefi, wrth i osodiadau gynyddu  
  • Mae miloedd eisoes wedi rhoi hwb i'w band eang, ond mae llawer o rai eraill eto i weld y buddion
  • Mae safleoedd heb fynediad i fand eang digonol wedi gostwng i'r lefel isaf erioed, ond mae mwy i'w wneud o hyd i gael cysylltiad ar gyfer y cartrefi anoddaf eu cyrraedd

Mae cysylltiadau rhyngrwyd cyflym a dibynadwy bellach ar gael i fwy o bobl nag erioed o'r blaen, gan ganiatáu i filoedd o gartrefi yng Nghymru gael mynediad i'r cynnwys y maent ei eisiau yn gyflym, gan gynnwys lawrlwytho eu hoff ffilm Nadolig mewn llai na munud.

Gigabit-capable and full-fibre broadband in Wales

Mae adroddiad blynyddol Cysylltu'r Gwledydd Cymru - ar argaeledd gwasanaethau band eang a symudol yng Nghymru - yn datgelu bod technoleg ffeibr llawn sy'n addas at y dyfodol yn cael ei chyflwyno ar y gyfradd gyflymaf erioed.

Gall mwy na 400,000 o gartrefi yng Nghymru (27%) bellach gael band eang ffeibr llawn – cynnydd o 8 pwynt canrannol ers y llynedd, sy'n cyfateb i gyfartaledd y DU. Mae canran y rhai sy’n manteisio ar fand eang ffeibr llawn yng Nghymru hefyd yn cyfateb i gyfartaledd y DU o 24%.

Erbyn mis Medi 2021, roedd y ddarpariaeth cyfradd gigabit wedi cyrraedd 36% o safleoedd (0.5 miliwn) yng Nghymru ac mae hyn wedi cynyddu ymhellach ers i Virgin Media O2 gwblhau uwchraddio eu rhwydwaith. Mae hyn yn cynnwys rhwydweithiau cebl ffeibr llawn ac wedi'u huwchraddio a all ddarparu cyflymder lawrlwytho o 1 Gbit yr eiliad neu uwch.

Yn ogystal â darparu cyflymder lawrlwytho uwch, mae'r gwasanaethau hyn yn cynnig cyflymder uwchlwytho uwch ac maent yn fwy dibynadwy na thechnolegau band eang hŷn.

Mae argaeledd band eang cyflym iawn yng Nghymru yn parhau'n sefydlog ar 94% ac er gwaethaf cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r nifer sy'n manteisio ar y gwasanaethau hyn yng Nghymru ychydig yn is na chyfartaledd y DU, sef 63%.

Pam fyddwn i angen ffeibr llawn?

Gall cysylltiadau ffeibr llawn – ynghyd â rhwydweithiau cebl wedi'u huwchraddio – ddarparu cyflymder lawrlwytho o hyd at 1 Gbit yr eiliad.[1] Ar y cyflymder hwn, gall teuluoedd â gwasanaeth ffeibr llawn lawrlwytho un o'u hoff ffilmiau.

How long does it take to download Elf?

Gall ffeibr llawn gefnogi'r aelwydydd hynny sy'n llyncu data, lle mae angen i aelodau'r teulu ffrydio, gweithio, chwarae gemau, gwneud galwadau fideo ac astudio ar-lein i gyd ar yr un pryd, yn well. Ac mewn blwyddyn pan fo llawer o bobl yn parhau i weithio gartref oherwydd pandemig y coronafeirws, tyfodd y defnydd misol cyfartalog o ddata ledled y DU i 453 GB fesul cysylltiad - mwy na theirgwaith yr hyn yr oedd pum mlynedd yn ôl (132 GB).

Cysylltu'r aelwydydd anoddaf eu cyrraedd

Mae 15,000 (1%) o gartrefi a busnesau o hyd yng Nghymru nad oes ganddynt fynediad i wasanaeth band eang 'digonol' â chyflymder lawrlwytho o 10Mbit yr eiliad a chyflymder uwchlwytho 1Mbit yr eiliad o leiaf o rwydweithiau sefydlog neu ddiwifr sefydlog. Ar y cyflymder hwn, gallai gymryd hyd at awr a hanner i lawrlwytho ffilm HD.

Mae'n bosib bod y safleoedd hyn yn gymwys i gael cysylltiad o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol band eang (USO), ac os felly byddent yn cael mynediad i fand eang ffeibr llawn.  Mae'r ffigur hwn wedi gostwng o 18,000 o safleoedd yn ein hadroddiad yn 2020.

Mae ffeibr llawn yn helpu i fodloni gofynion cynyddol defnyddwyr, gyda miloedd yn fwy yn elwa o gyflymder uwch a chysylltiadau mwy dibynadwy. Ond mae rhai cartrefi mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd yn dal i brofi anhawster wrth gael band eang digonol ac mae mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod y cymunedau hyn yn cael y cysylltiadau sydd eu hangen arnynt.

Mae Ofcom yn chwarae ei rhan yn y broses hon ac mae'n cefnogi Tasglu Chwalu Rhwystrau Llywodraeth Cymru yn ei waith o geisio sicrhau bod defnyddwyr yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt, a'r cwmnïau cyfathrebu sy'n eu darparu. Credwn y bydd gwell dealltwriaeth o'r gwasanaethau a'r darparwyr sydd ar gael yn helpu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar wasanaethau ffeibr cyflymach a fydd yn addas at y dyfodol.”

Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru

Mae darpariaeth 4G yn parhau'n sefydlog wrth i 5G ddechrau ymddangos yng Nghymru

Mae'r ddarpariaeth symudol yn sefydlog ar y cyfan - mae gan 90% o Gymru fynediad at ddarpariaeth 4G ddaearyddol dda gan o leiaf un o'r gweithredwyr symudol ac mae gan 61% ddarpariaeth gan y pedwar gweithredwr. Mae darpariaeth 4G dda yn amrywio'n sylweddol rhwng awdurdodau lleol mewn rhannau trefol a gwledig o Gymru. Gwynedd a Chonwy sydd â'r lefelau isaf o ddarpariaeth gan bob gweithredwr ar 46%, ac yna Powys, ar 49%.

Mae gwasanaethau llais a thestun gan y pedwar gweithredwr ar gael ar draws 78% o fàs tir Cymru. Bydd y rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir y cytunwyd arni rhwng y Gweithredwyr Rhwydwaith Symudol a Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2020 yn ymestyn y ddarpariaeth y tu hwnt i hyn erbyn 2025.

Mae gosodiadau 5G yn parhau ar garlam, gyda nifer y trawsyryddion symudol sy'n darparu gwasanaethau 5G yn fwy na dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, i dros 6,000 o safleoedd. Mae 87% o'r rhain yn Lloegr, 8% yn yr Alban, 3% yng Nghymru a 2% yng Ngogledd Iwerddon, mewn ardaloedd trefol â phoblogaethau mawr yn bennaf.

Mae cysylltedd yn parhau i fod yn wael mewn rhai o'r ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd yng Nghymru.  Mae cyfanswm y mannau digyswllt llwyr ar gyfer llais a neges destun yn cyfrif am 5% o fàs tir Cymru. Amcangyfrifwn na all tua 7,850 o safleoedd yng Nghymru gael mynediad at wasanaeth band eang sefydlog digonol na gwasanaeth 4G da dan do. Mae bron i bob un o'r safleoedd hyn yng nghefn gwlad Cymru.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae fersiwn rhyngweithiol o'r adroddiad, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw, yn galluogi i bobl edrych ar gymariaethau rhwng darpariaeth yn eu hardal.
  2. Cymharodd y Cerdyn Sgorio Band Eang Rhyngwladol argaeledd band eang a'r nifer sy'n manteisio ar fand eang ar draws 17 o wahanol wledydd.
  3. Gwella eich profiad wifi.
  4. Rhai dangosol yw'r cyflymderau lawrlwytho yn y graffig Elf.