14 Mehefin 2021

Ofcom yn cefnogi'r Pythefnos Ymwybyddiaeth Twyll

Heddiw yw dechrau'r Pythefnos Ymwybyddiaeth Twyll, ymgyrch a anelir at helpu pobl i osgoi cael eu twyllo.

Yn ôl ffigurau gan Gyngor ar Bopeth a ryddhawyd i nodi dechrau'r ymgyrch, mae 36 miliwn o bobl yn y DU wedi cael eu targedu gan sgamwyr eleni.

Mae'r ffigurau hefyd yn dangos, er bod pobl dros 55 oed yn fwyaf tebygol o gael eu targedu, bod pobl 34 oed ac yn iawn bron pum gwaith yn fwy tebygol o gael eu twyllo gan sgam. Roedd pobl ifanc yn fwyaf tebygol o gael eu twyllo gan neges destun neu wasanaeth negeseuon (61%), ac roedd y rhai dros 55 oed yn fwyaf tebygol o gael eu targedu dros y ffôn (73%).

O'r holl bobl a gafodd eu targedu gan sgamiwr, roedd:

Nododd Cyngor ar Bopeth hefyd, o gymharu pum mis cyntaf 2021 â'r un cyfnod yn 2020, fod dros ddwywaith yn fwy o sgamiau, 123% yn fwy, wedi cael eu hadrodd iddynt.

Rydym yn cefnogi'r Pythefnos Ymwybyddiaeth Twyll i helpu pobl i ddeall sut i adnabod sgamiau ac aros yn ddiogel. Mae hyn yn hanfodol gan fod troseddwyr yn defnyddio dulliau cynyddol soffistigedig o sgamio pobl - gan achosi trallod a niwed ariannol difrifol.

Mae taclo hyn yn gofyn am ymdrech gan ystod o sefydliadau gwahanol ac rydym yn chwarae ein rhan - gan gydweithio'n agos â'r diwydiant, yr heddlu a rheoleiddwyr eraill.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom

O gynlluniau cyfoeth cyflym twyllodrus i negeseuon testun amheus, mae sgamwyr oportiwnistaidd yn parhau i fanteisio ar hyd yn oed y cwsmeriaid mwyaf gwybodus. Mae ein hymchwil yn dangos y gall unrhyw un gael ei dargedu ac y gall unrhyw un gael eu twyllo gyda sgamiau.

Mae'n bwysicach nag erioed i ni i gyd wneud ein rhan i adrodd am sgamiau pan fyddwn yn gweld nhw, i'n helpu ni i ddiogelu ein hunain a phobl eraill. Trwy ddysgu sut mae sgamwyr yn gweithio, a helpu ein gilydd i ddeall beth i gadw llygad allan amdano, gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd i atal twyllwyr a rhwystro eu gwaith.

Y Fonesig Clare Moriarty, Prif Weithredwr Cyngor ar Bopeth

Mae Ofcom yn cefnogi'r ymgyrch a arweinir gan Gyngor ar Bopeth ac mae gennym amrywiaeth o gyngor i'ch helpu i gadw llygad allan am sgamiau, yn ogystal â gwybodaeth am beth i'w wneud os cewch eich dal mewn sgam.

Mae'r rhain yn cynnwys canllaw i osgoi sgamiau diweddar mewn perthynas â phandemig y coronafeirws (Covid-19), a negeseuon testun y sgam cludiadau parsel, yn ogystal â sgamiau galwadau a gollwyd a'r rhai sy'n sbŵffio rhifau ffôn.

Gallwch gadw llygad ar ein ffrwd cyfryngau cymdeithasol ar Twitter, lle byddwn yn postio newyddion a gwybodaeth am sgamiau newydd rydym yn clywed amdanynt.

Related content