3 Gorffennaf 2023

Pam mae rhai darparwyr band eang yn codi tâl am gyfeiriad e-bost?

Mae angen i rai darparwyr sy'n newid darparwr dalu os ydynt eisiau parhau i ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a roddwyd iddynt gan eu hen ddarparwr. Ar ôl i ni adolygu'r arfer hwn, mae'r ddau ddarparwr sy'n gwneud hyn wedi newid yr wybodaeth y maent yn ei rhoi i chi, er mwyn egluro beth yw eich opsiynau.

Nid yw Ofcom yn rheoleiddio gwasanaethau e-bost yn uniongyrchol, ond byddai gennym bryderon am unrhyw arfer a allai annog pobl rhag newid. Felly, rydym wedi bod yn edrych ar y mater hwn fel rhan o'n gwaith i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg gan eu darparwyr.

Beth sy'n digwydd i'ch cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn newid darparwr band eang?

Os byddwch yn newid eich gwasanaeth rhyngrwyd i gwmni arall, ond rydych eisiau parhau i ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a roddwyd i chi gan eich hen ddarparwr, byddant yn darparu gwasanaeth i chi o hyd. Mae rhai cwmnïau'n codi tâl am hyn.

Mae gan ddarparwyr band eang bolisïau gwahanol am beth sy'n digwydd i'ch cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn newid i ffwrdd ohonynt. Dyma beth sy'n digwydd gyda rhai o'r prif ddarparwyr:

Mae'n bosib na fydd cwsmeriaid yn ymwybodol o'r gwahaniaethau hyn, neu'r opsiynau sydd ar gael iddynt pan fyddant yn canslo eu contract. Mae'n bwysig bod yr opsiynau'n cael eu hesbonio'n glir yn yr wybodaeth y mae pobl yn ei derbyn am ddod â'u contract i ben.

Pan edrychom ar yr wybodaeth a roddwyd gan ddarparwyr, roedd gennym bryderon nad oedd BT a TalkTalk yn esbonio hyn yn ddigon clir. Yn sgil ein hadolygiad, mae'r ddau ddarparwr hwn yn awr wedi diweddaru'r ffordd y maent yn cyfathrebu hyn i gwsmeriaid.

Mae BT bellach yn egluro y bydd cwsmeriaid, pan fyddant yn newid darparwr, yn dal i fod â mynediad i wasanaeth e-bost sylfaenol trwy'r we am ddim yn ogystal â chael yr opsiwn o wasanaeth premiwm y telir amdano. Bydd cwsmeriaid sy'n newid i ffwrdd o BT yn cael mynediad am ddim i'r gwasanaeth am ddim trwy'r we fel yr opsiwn diofyn pan fyddant yn canslo eu contract.

Mae TalkTalk yn awr yn hysbysu cwsmeriaid y gallant gael mynediad o hyd i wasanaeth e-bost sylfaenol trwy'r we am ddwy flynedd os nad ydynt wedi dewis y gwasanaeth premiwm y telir amdano.

Ydych chi wedi ystyried sefydlu cyfrif gwebost am dim?

Datgelodd ein hymchwil, yn achos tuag 1% o bobl a ystyriodd newid ond a beidiodd â'i wneud, mai'r prif ffactor dros beidio â newid oedd bod nhw ddim eisiau colli'r cyfeiriad e-bost yr oedd ganddynt gyda'u darparwr presennol.

Ond mae llawer o wasanaethau e-bost am ddim amgen ar gael, y maent yn aml yn gyflym ac yn hawdd i'w sefydlu a all helpu chi i drosglwyddo gwybodaeth o'ch cyfrif e-bost presennol - fel y cysylltiadau a negeseuon sydd gennych eisoes. Gallwch sefydlu'r cyfrifon hyn yn yr ap 'Mail' ar eich ffôn clyfar neu lechen, er mwyn i chi gyrchu eich e-byst yn hwylus heb orfod mewngofnodi trwy borwr rhyngrwyd.

Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i'ch cyfeiriad e-bost eich clymu chi i'ch darparwr band eang. Yn wir, os yw eich mewnblwch yn llawn post marchnata dieisiau, mae newid eich cyfeiriad e-bost yn gyfle gwych i ddechrau o'r dechrau a sicrhau eich bod yn derbyn dim ond y post rydych ei eisiau.

See also...