23 Awst 2022

A allai gwasanaeth cymharu prisiau eich helpu i gael bargen telathrebu gwell?

Gyda chostau byw ar gynnydd, mae llawer o bobl yn chwilio am ffyrdd o arbed arian ar y gwasanaethau rydym yn eu defnyddio bob dydd.

Yn ffodus, mae yna gamau y gallwch eu cymryd i ostwng faint rydych yn ei dalu ar hyn o bryd am eich pecynnau ffôn, band eang neu deledu-drwy-dalu - mae ein hawgrymiadau'n darparu mwy o wybodaeth am sut y gallai fod modd i chi wneud hyn.

Ac os ydych allan o gontract ar gyfer unrhyw un o'r gwasanaethau hyn, nid oes ond angen i chi ddilyn proses tri cham syml i gael bargen well.

Er na fu newid eich darparwr ffôn cartref, band eang, ffôn symudol neu deledu-drwy-dalu erioed yn symlach, sut allwch chi fod yn siŵr eich bod yn cymryd y cam cywir a allai arbed arian i chi ar yr un pryd â chynnig gwasanaeth sy'n iawn i chi?

Mae gwasanaethau cymharu prisiau yn arf defnyddiol iawn yn y broses hon. Maent yn eich helpu i wneud dewis gwybodus drwy nodi manylion gwasanaethau a bargeinion, gan eich helpu i gymharu yn ôl darparwr a chost a nodi pa un allai fod orau ar gyfer eich anghenion.

Mae Ofcom yn achredu nifer o wasanaethau cymharu prisiau. Dim ond y gwasanaethau sydd wedi bod yn destun archwiliad trylwyr, annibynnol all gael eu hachredu gennym - mae hyn yn sicrhau bod yr wybodaeth y maent yn ei darparu'n gywir, yn gynhwysfawr ac yn hawdd ei deall.

Bu i ni ddiweddaru rheolau ein cynllun yn ddiweddar, ac ers hynny rydym wedi achredu - neu ail-achredu - chwe gwasanaeth cymharu prisiau:

I gael rhagor o wybodaeth am ba wasanaethau sydd wedi'u hachredu, yr wybodaeth y maent yn ei chynnig, a sut mae ein cynllun achredu'n gweithio, ewch i dudalen cymharu prisiau ein gwefan.

Cynnwys cysylltiedig