24 Mawrth 2022

Cadarnhau'r Arglwydd Grade fel Cadeirydd newydd Ofcom

Bydd yr Arlgwydd Grade yn cael ei benodi fel Cadeirydd newydd Ofcom yn dilyn ei ymddangosiad ym Mhwyllgor Dethol yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Mae penodiad yr Arglwydd Grade fel Cadeirydd yn dechrau ar 1 Mai 2022 ac mae am dymor o bedair blynedd.

Bydd Maggie Carver, sydd wedi bod yn Gadeirydd Dros Dro Ofcom ers mis Ionawr 2021, yn ailddechrau ei rôl fel dirprwy gadeirydd.

Mae'r Cadeirydd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o lywodraethu Ofcom, goruchwylio ein cyfrifoldebau statudol, a phennu ein cyfeiriad strategol.

Gwybodaeth am yr Arglwydd Grade

Mae'r Arglwydd Grade wedi cael gyrfa hir ym maes darlledu, sy'n cynnwys London Weekend Television, y BBC, ITV, yn ogystal â thros naw mlynedd fel Prif Weithredwr Channel Four Television. Bu'n Gadeirydd y BBC rhwng 2004 a 2006, a Chadeirydd Gweithredol ITV rhwng 2006 a 2009.

Cynnwys Cysylltiedig