17 Awst 2022

Will Harding yn ymuno â Bwrdd Ofcom

Mae Will Harding yn ymuno â Bwrdd Ofcom fel Cyfarwyddwr Anweithredol.

Will Harding, Non-Executive Director

Mae gan Will bron i 30 mlynedd o brofiad yn niwydiant y cyfryngau. Dechreuodd ei yrfa fel ymgynghorydd rheoli gyda KPMG, cyn treulio pum mlynedd yn BBC Worldwide (BBC Studios erbyn hyn) lle bu'n gweithio ar draws gweithrediadau masnachol a rhyngwladol y BBC.

Yn ddiweddarach, fel helpodd i lansio ask.com yn y DU cyn symud i Sky, lle bu'n Gyfarwyddwr Masnachol a Gweithrediadau eu busnes cyfryngau newydd. Ymunodd â GCap Media plc yn 2006 fel Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth.

Ar ôl i Global Media & Entertainment Ltd gaffael GCap Media yn 2008, fe'i penodwyd yn Brif Swyddog Strategaeth Byd-eang ac ymunodd â'r prif fwrdd Byd-eang. Yn ystod ei gyfnod yn Global, roedd Will yn gyfrifol am sefydlu Academi Global, ysgol wladol i bobl ifanc o bob cefndir sydd eisiau cychwyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Safodd Will i lawr o fwrdd Global Media and Entertainment Ltd ym mis Rhagfyr 2020.

Ers 2021 mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol Primedia, y grŵp cyfryngau a hysbysebu blaenllaw â ffocws ar Affrica, ac yn Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Addysgol Baker Dearing.

Rwyf wrth fy modd â chael ymuno â Bwrdd Ofcom. Ni fu erioed amser pwysicach i sicrhau bod ein sector cyfryngau yn parhau'n fywiog ac yn gystadleuol, gan ddarparu cynnwys yn y DU y gall gwylwyr a gwrandawyr ymddiried ynddo.

Will Harding

Rydym yn falch iawn o fod yn ychwanegu profiad helaeth Will, ar draws amrywiaeth o sefydliadau a llwyfannau cyfryngau byd-eang, at Fwrdd Ofcom. Bu Will yn arloeswr yn sector y cyfryngau ers blynyddoedd lawer, ac mae hefyd yn dod ag ymrwymiad i ddatblygu sgiliau ac ehangu mynediad i'r diwydiant. Edrychwn ymlaen at gydweithio ag ef.

Yr Arglwydd Michael Grade, Cadeirydd Ofcom

Ynghylch Bwrdd Ofcom

Mae Bwrdd Ofcom yn darparu cyfeiriad strategol i Ofcom a'i weithrediaeth, sy'n rhedeg y sefydliad ac yn atebol i'r Bwrdd.

Mae gan y Bwrdd Gadeirydd anweithredol, aelodau gweithredol (gan gynnwys y Prif Weithredwr), ac aelodau anweithredol.

Mae Bwrdd Ofcom yn cwrdd o leiaf unwaith y mis (ac eithrio mis Awst). Mae agendâu, nodiadau cryno a chofnodion yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd ar ein gwefan.

Nodiadau i olygyddion

1. Yn unol â Chod Llywodraethu Swyddfa'r Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus, mae'n rhaid datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol sylweddol yr ymgymerwyd ag ef gan benodai dros y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn yn cynnwys dal swydd gyhoeddus, siarad yn gyhoeddus, gwneud rhodd cofnodadwy, neu fod yn ymgeisydd mewn etholiad.

2. £42,519 y flwyddyn yw cyflog aelodau Bwrdd Ofcom.