26 Medi 2023

Dirwy o £40k i sianel deledu a ddarlledodd gynnwys gwrth-semitig

Heddiw mae Ofcom wedi gosod cosb ariannol o £40,000 ar Islam Channel Ltd am dorri ein rheolau darlledu’n ddifrifol ar sawl achlysur.

Mae Islam Channel yn orsaf teledu lloeren iaith Saesneg sy'n darlledu athrawiaeth grefyddol, materion cyfoes, rhaglenni dogfen ac adloniant o safbwynt Islamaidd.

Canfu ein hymchwiliad fod The Andinia Plan, rhaglen ddogfen awr o hyd a archwiliodd theori gynllwyn yn tarddu o gyhoeddiad neo-Natsïaidd, yn gyfystyr ag iaith casineb yn erbyn pobl Iddewig. Roedd y cynnwys gwrth-semitig hwn hefyd yn hynod sarhaus a heb gael ei gyfiawnhau’n ddigonol gan y cyd-destun.

Daethom i'r casgliad fod y rhain yn achosion difrifol ac ailadroddus o dorri ein rheolau a oedd yn cyfiawnhau gosod y sancsiynau statudol canlynol: cosb ariannol, i'w thalu gan Islam Channel Ltd i Dâl-feistr Cyffredinol EF; gorchymyn i beidio ag ailddarlledu’r rhaglen; a chyfarwyddyd i ddarlledu datganiad o'n canfyddiadau ar ddyddiad ac ar ffurf sydd i'w pennu gan Ofcom.

Related content