19 Medi 2023

Diweddariad ar ein hadolygiad o reolau hysbysebu

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, mae Ofcom wedi penderfynu peidio â dileu’r rheolau hysbysebion teledu llymach sydd ond yn berthnasol i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael eu cyllido’n fasnachol ar hyn o bryd.

Mae holl ddarlledwyr y DU yn ddarostyngedig i gyfyngiadau o ran faint o hysbysebion ac amserlennu hysbysebion ar eu sianeli. Ond mae’r sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus masnachol – ITV, STV, Channel 4, S4C a Channel 5 – yn ddarostyngedig i gyfyngiadau hysbysebu llymach na sianeli masnachol nad ydynt yn ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, fel ITV2, 5USA a Pick.

Er ein bod o’r farn o hyd y gallai fod o fantais cydgordio’r rheolau hysbysebion teledu drwy lacio’r cyfyngiadau ychwanegol ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, rydym wedi penderfynu cadw’r sefyllfa fel y mae hi am y tro.

Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, gwnaethom gydnabod bod y manteision posib i gynulleidfaoedd, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a’r farchnad ehangach yn ansicr. Gwnaethom hefyd ystyried y byddai bwrw ymlaen yn golygu y byddai gwylwyr yn debygol o weld mwy o hysbysebion yn ystod oriau “brig” yr hwyrnos sy’n cynnwys newyddion. Gallai hyn, yn ei dro, arwain at leihau munudau newyddion, sy’n peryglu gwanychu genre arbennig o bwysig o gynnwys darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ag iddo werth cymdeithasol uchel.

Yn hytrach, rydym o’r farn ei bod yn briodol ystyried effaith newidiadau i reolau hysbysebion teledu ar wylwyr yng nghyd-destun ehangach newidiadau eraill i’r system darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn y blynyddoedd nesaf – gan gynnwys rhoi’r Bil Cyfryngau ar waith.

Mae manylion pellach am ein penderfyniad ar gael.

Pennu telerau ariannol trwyddedau Channel 3 a Channel 5

Hefyd heddiw, rydym yn cyhoeddi ein datganiad ar y fethodoleg ar gyfer pennu’r telerau ariannol ar gyfer y cyfnod trwyddedu nesaf ar gyfer trwyddedau Channel 3 a Channel 5. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Related content