20 Hydref 2023

Hwb i gyfraddau gwirfoddolwyr ar gyfer gorsafoedd radio cymunedol lleol

Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i redeg gorsafoedd radio cymunedol lleol. Heddiw felly, rydym wedi diweddaru ein harweiniad i gynyddu gwerth y gwirfoddolwyr y gall gorsafoedd eu defnyddio wrth adrodd ar eu trosiant blynyddol.

Mae gan y sector radio cymunedol reolau ariannu penodol iawn ar waith, sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth y DU. Mae Ofcom yn sicrhau bod trwyddedeion radio cymunedol yn glynu wrth y rheolau hyn drwy asesu ffrydiau refeniw yn y broses dychweliadau blynyddol. Mae ein harweiniad wedi'i ddiweddaru bellach yn caniatáu i orsafoedd radio cymunedol briodoli mwy o werth i'r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi yn eu datganiadau blynyddol.

Ar hyn o bryd mae dwy lefel o wirfoddolwyr mewn radio cymunedol:

  • Uwch wirfoddolwr: Mae gan y rhain gyfrifoldeb am allbynnau gorsafoedd a/neu allbynnau gwirfoddolwyr eraill. Fel arfer, rheolwr gorsaf fydd hwn.
  • Gwirfoddolwr safonol: Dim ond am eu hallbynnau eu hunain y mae ganddynt gyfrifoldeb.

Erbyn hyn gall gorsafoedd radio cymunedol hawlio cyfradd fesul awr o £15.23 ar gyfer uwch wirfoddolwyr, a £13.91 ar gyfer gwirfoddolwyr safonol. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o £9.38 yr awr ar gyfer gwirfoddolwr safonol, tra bod y gyfradd fesul awr ar gyfer uwch wirfoddolwyr wedi codi o £13.13.

Rhaid i orsafoedd radio sy'n hawlio gwerth am fewnbynnau gwirfoddolwyr ac sy'n cynhyrchu incwm pellach o ffynonellau masnachol ar yr awyr bob amser gynhyrchu o leiaf 25% o'r incwm sy'n weddill hwn o ffynonellau eraill - megis grantiau neu roddion.

Bydd trwyddedeion radio cymunedol yn gallu defnyddio’r cyfraddau diwygiedig ar gyfer gwirfoddolwyr safonol ac uwch wrth gyflwyno eu hadroddiadau blynyddol ar gyfer 2023.

Darllen yr arweiniad llawn.