21 Mawrth 2023

A all gwleidyddion gyflwyno sioeau teledu a radio? Sut mae ein rheolau yn berthnasol

Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Chynnwys Ar-lein, sy’n esbonio'r rheolau ar gyfer gwleidyddion sy'n cyflwyno ac sy’n ymddangos ar raglenni teledu.

Mae llawer o drafodaethau wedi bod yn ddiweddar ar wleidyddion yn cyflwyno ac yn ymddangos ar raglenni teledu a radio.

Felly, dyma gyfle i egluro ein rheolau ynghylch y maes hwn.

Yn gyffredinol, ni all gwleidyddion sy’n gwasanaethu ymddangos ar unrhyw raglen newyddion fel darllenydd newyddion, cyfwelydd na gohebydd. Fodd bynnag, mae ganddyn nhw hawl i gyflwyno rhaglenni eraill, gan gynnwys materion cyfoes. Weithiau gall y rhaglenni hynny fod ar sianeli sydd hefyd yn darlledu newyddion. Bydd rhaglenni materion cyfoes fel arfer yn cynnwys esboniad a/neu ddadansoddiad o ddigwyddiadau a materion cyfoes. Bydd newyddion hefyd yn aml yn cynnwys yr un math o esboniad. Fodd bynnag, mae ffactorau ychwanegol yn debygol o fod yn bresennol er mwyn i raglen gael ei hystyried yn rhaglen newyddion.

Mae’r hawl i ryddid mynegiant yn ffactor pwysig iawn yma. Dylai darlledwyr gael y rhyddid i wneud dewisiadau golygyddol a chreadigol. Fel rhan o’r gynulleidfa, mae gennych chi’r hawl i gael gwylio neu wrando ar amrywiaeth o wybodaeth a syniadau.

Fodd bynnag, ni all gwleidydd gyflwyno os mai rhaglen newyddion ydyw. Hefyd, yn ystod cyfnod etholiad, mae ymgeiswyr wedi cael eu gwahardd rhag cyflwyno unrhyw fath o raglenni.

Beth yn union yw rhaglen newyddion?

Mae pob rhaglen yn wahanol, ac rydyn ni’n asesu pob achos ar sail ei ffeithiau. Dyma rai ffactorau nodweddiadol a allai ein harwain ni i bennu bod cynnwys yn rhaglen newyddion:

  • darllenydd newyddion yn cyflwyno’n uniongyrchol i’r gynulleidfa;
  • llawer o gynnwys disgrifiadol am ddigwyddiadau diweddar;
  • trefn y rhaglen neu restr o straeon, yn aml ar ffurf fer;
  • defnyddio gohebwyr i gyflwyno pecynnau neu adroddiadau byw; a/neu
  • cymysgedd o eitemau fideo ac adroddiadau gan ohebydd.

Mae’r ffactorau a allai ein harwain ni at bennu bod cynnwys yn faterion cyfoes (nid ‘newyddion’ mewn geiriau eraill), yn cynnwys:

  • rhaglen ar ffurf hir;
  • trafodaethau, dadansoddiadau neu gyfweliadau helaeth gyda gwesteion, yn aml yn fyw; a/neu
  • adroddiadau fideo ar ffurf hir.

Mae’r set gyflawn o reolau sy’n rheoli Cod Darlledu Ofcom a gwasanaethau teledu, radio ac ar-alw ar gael ar ein gwefan.

Related content