19 Rhagfyr 2023

Argaeledd band eang ffeibr llawn bellach yn cyrraedd dros hanner o gartrefi yng Nghymru

  • Mae gan 55% o gartrefi yng Nghymru fynediad at ffeibr llawn bellach, sef cynnydd o 40% y llynedd ac yn debyg i gyfartaledd y DU (57%)
  • Argaeledd ffeibr llawn yn amrywio ar draws y ddau ar hugain o awdurdodau lleol yng Nghymru
  • Darpariaeth symudol 5G yn parhau i dyfu yng Nghymru

Mae gan y nifer uchaf erioed o gartrefi yng Nghymru, 798,000, fynediad i fand eang ffeibr llawn - cynnydd o 15 pwynt canrannol neu 227,000 o safleoedd ychwanegol o gymharu â’r llynedd, yn ôl adroddiad Cysylltu'r Gwledydd diweddaraf Ofcom a gyhoeddwyd heddiw.

Mae 31% yn manteisio ar fand eang ffeibr llawn lle mae ar gael, sy’n cyfateb i 239,000 o safleoedd – tri phwynt canrannol yn fwy na'r llynedd, ac yn uwch na’r ffigur DU gyfan o 28%. Am y tro cyntaf, mae band eang ffeibr llawn ar gael i dros hanner o gartrefi ym mhob un o bedair gwlad y DU. Mae Gogledd Iwerddon ar flaen y gad, gyda thros naw o bob 10 cartref (91%) â mynediad i ffeibr llawn.

Mae band eang ffeibr llawn yn defnyddio ffeibr yr holl ffordd i'ch cartref. Mae'n fwy dibynadwy a chydnerth na chopr, a dengys ein dadansoddiad newydd fod rhai darparwyr yn profi llai o ddiffygion [1] ar eu rhwydwaith ffeibr o gymharu â rhwydwaith copr. Mae rhwydweithiau gigabit-alluog, sy'n cynnwys ffeibr llawn a chebl ill dau, hefyd yn darparu cyflymder lawrlwytho ac uwchlwytho uwch, gan wella'r profiad o chwarae gemau, gweithio a gwneud galwadau fideo.

Siart yn dangos cyfran yr eiddo preswyl sydd â darpariaeth gigabit-alluog, ffeibr llawn a chyflym iawn a chyfran yr holl safleoedd na allant gael mynediad at fand eang digonol ar gyfer y DU yn gyffredinol a phob un o’r pedair gwlad (Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon).Mae argaeledd band eang ffeibr llawn yng Nghymru yn uwch mewn ardaloedd trefol (59%) nag mewn ardaloedd gwledig (41%), ac mae'r adroddiad heddiw hefyd yn amlygu’r amrywiad yn argaeledd band eang ffeibr llawn ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Conwy a Bro Morgannwg sy'n arwain o ran argaeledd ffeibr llawn ar 79% a 77% yn y drefn honno, a Thorfaen ac Ynys Môn sydd â'r lefelau isaf ar 22% a 31%.

Mae’r cynnydd cyflym yn argaeledd band eang ffeibr llawn yn newyddion da i bobl a busnesau yng Nghymru, gyda miloedd yn fwy yn gallu elwa o ryngrwyd cyflym a dibynadwy sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn galonogol gweld, lle mae’r dechnoleg ar gael, bod pobl yn manteisio mwyfwy arni, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru.

Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru

Bu gostyngiad pellach yn nifer y cartrefi a busnesau yng Nghymru na allant gyrchu band eang 'digonol' [2] drwy linell sefydlog dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ostwng 8,000 i 36,000 o safleoedd yn y flwyddyn ddiwethaf. O'r safleoedd hyn, bydd rhai'n gallu cyrchu band eang digonol o wasanaethau mynediad di-wifr sefydlog (FWA), a ddarperir gan weithredwyr rhwydweithiau symudol ar rwydweithiau 4G a 5G, a chan ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd di-wifr.

O ystyried y ddarpariaeth uwch sydd ar gael gan wasanaethau FWA yng Nghymru o gymharu â gweddill y DU (31% o gymharu â 7%), mae hyn yn gadael tua 8,000 o safleoedd yng Nghymru heb wasanaeth band eang digonol ar rwydwaith llinell sefydlog neu ddi-wifr sefydlog. Bydd tua 1,000 o’r rhain yn cael eu cysylltu drwy gynlluniau a ariennir yn gyhoeddus erbyn y flwyddyn nesaf, gan ddangos bod mwy o gynnydd ar y ffordd wrth i Gymru ddod yn fwyfwy cysylltiedig.

Mae darpariaeth symudol 5G yn cael ei chyflwyno'n gyflymach, wrth i rwydweithiau etifeddol ddechrau cau i lawr

Mae argaeledd 5G yn parhau i dyfu yng Nghymru. Y ddarpariaeth awyr agored ar safleoedd yng Nghymru gan o leiaf un gweithredwr yw 72% [3], y trydydd mwyaf yn y DU y tu ôl i Loegr a'r Alban.

Mae’r ffeithlun hwn yn dangos darpariaeth 5G awyr agored yng Nghymru ar draws darparwyr rhwydwaith unigol. Mae hyn yn amrywio o 11-69%

Mae 4G yn parhau i fod yn sail i’r profiad symudol yng Nghymru gyda darpariaeth symudol ddaearyddol ar draws y wlad yn amrywio o 73-85%, gan ddibynnu ar y gweithredwr. Mae darpariaeth gan bob un o'r pedwar gweithredwr ar gael i 62% o Gymru, a hynny heb ei newid ers y llynedd.

Ar draws y DU, mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn dechrau diffodd eu rhwydweithiau 3G. Mae EE, Vodafone a Three yn bwriadu gwneud hyn y flwyddyn nesaf gyda Virgin Media O2 yn dilyn yn 2025. Dengys data gan Ofcom fod tua 2.4 miliwn o ddyfeisiau yn y DU yn dal i ddibynnu ar rwydweithiau 2G neu 3G, sydd wedi mwy na haneru o’r amcangyfrif o 5.5 miliwn y llynedd. O’r holl draffig data ar rwydweithiau, dim ond 3% sy’n defnyddio 3G, sef gostyngiad o dros ddwy ran o bump (44%) o flwyddyn i flwyddyn.

Mae Ofcom yn parhau â'i waith i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu trin yn deg ac y ceir cyn lleied â phosibl o aflonyddwch wrth i 3G gael ei ddiffodd. Gall defnyddwyr symudol sy'n dal i ddibynnu ar 3G ddarllen canllaw Ofcom.

Nodiadau:

  1. Dros y tair blynedd diwethaf, ar gyfer KCOM ac Openreach ill dau, roedd cyfradd y diffygion (fesul 1,000 o gysylltiadau) ar rwydwaith mynediad copr KCOM (ADSL) a rhwydweithiau mynediad copr Openreach (ADSL / VDSL) tua 50% yn uwch na chyfradd y diffygion ar eu rhwydweithiau FTTP.
  2. Diffinnir band eang 'digonol' gan Lywodraeth y DU fel isafswm cyflymderau lawrlwytho o 10 Mbit yr eiliad ac uwchlwytho o 1 Mbit yr eiliad.
  3. Mae hyn yn cyfeirio at hyder uchel iawn bod darpariaeth 5G ar gael yn yr awyr agored ar safleoedd yng Nghymru lle mae gan o leiaf un gweithredwr rhwydwaith symudol ddarpariaeth.

Related content