6 Hydref 2023

Diogelu pobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni realiti

Mae Big Brother yn dychwelyd i'n sgriniau teledu y penwythnos hwn, gan nodi dychweliad un o'r sioeau realiti mwyaf - a gellid dadlau yr un a helpodd y genre i ddod yn nodwedd dra amlwg yn amserlenni teledu'r DU.

Dros y blynyddoedd, mae Big Brother a'r rhaglenni realiti pellach yr helpodd i’w sbarduno wedi cynnwys cannoedd o gyfranogwyr a chystadleuwyr.

Mae lles y rhai sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni fel hyn ac wedi i’w cyfnod ynddynt ddod i ben yn hollbwysig.

Mae camau diogelu cryfach bellach ar waith

Ers mis Ebrill 2021, mae rheolau a gyflwynwyd gan Ofcom wedi helpu i sicrhau bod darlledwyr yn gofalu am bobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni teledu a radio.

Cyflwynom y rheolau hyn ar ôl adolygu sut roedd pobl oedd yn cymryd rhan mewn rhaglenni yn cael eu diogelu. Roedd hyn i gydnabod i ffaith bod iechyd meddwl a lles yn faterion roedd mwy o agoredrwydd a phryder yn eu cylch mewn cymdeithas, ynghyd â’r cynnydd graddol mewn cwynion yn ystod y blynyddoedd cynt am les pobl a oedd yn cymryd rhan mewn rhaglenni.

Ymgynghorom â darlledwyr, gwneuthurwyr rhaglenni, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a chyn-gyfranogwyr rhaglenni a'u cynrychiolwyr, i sicrhau bod modd rhoi'r rheolau cywir ar waith.

Cyfrifoldebau ar ddarlledwyr

O dan y rheolau, mae'n ofynnol i ddarlledwyr gymryd gofal dyladwy dros les pobl a allai fod mewn perygl o niwed sylweddol o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhaglen.

Nod y mesurau hyn yw diogelu pobl agored i niwed ac eraill nad ydynt yn gyfarwydd â bod yn llygad y cyhoedd.

Mae angen i ddarlledwyr gymryd gofal dyladwy lle, er enghraifft: mae rhaglen yn debygol o ddenu lefel uchel o ddiddordeb yn y cyfryngau neu ar gyfryngau cymdeithasol; mae'r rhaglen yn cynnwys gwrthdaro neu sefyllfaoedd emosiynol heriol; neu os yw'n gofyn i berson ddatgelu agweddau ar eu bywyd sy’n drawsnewidiol neu’n breifat.

Nid yw'r mesurau'n berthnasol pan fo'r pwnc yn ddibwys, neu os yw cyfranogiad unigolyn yn fach - na phan fo'r darlledwr yn gweithredu er budd y cyhoedd, fel sy'n debygol o fod yn wir am y rhan fwyaf o raglenni newyddion a materion cyfoes.

Hefyd, o dan y rheolau mae'n rhaid i bobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni gael gwybod am unrhyw risgiau posibl i’w lles a allai godi yn sgil eu cyfranogiad, ac unrhyw gamau y mae'r darlledwr neu wneuthurwr y rhaglen yn bwriadu eu cymryd i liniaru'r rhain.

Mae'r rheolau hyn ond yn berthnasol i raglenni a wnaed ar ôl mis Ebrill 2021; ni allwn eu cymhwyso'n ôl-weithredol i raglenni a wnaed cyn hynny.

Related content