29 Chwefror 2024

Penodi Syr Clive Jones yn Aelod o Fwrdd Ofcom ar ran Cymru

Sir Clive JonesMae Gweinidogion Cymru wedi penodi Syr Clive Jones CBE yn Aelod o Fwrdd Ofcom ar ran Cymru.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r penodiad ar ôl ymgynghori ag Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg.

Am y rhan fwyaf o’i yrfa, mae Syr Clive Jones wedi bod yn ffigwr amlwg yn y diwydiant darlledu.Bu'n Brif Swyddog Gweithredol Central Television ac yna'r Carlton Television Group, cyn cyfuno’r cwmni gyda Granada i greu ITV plc.  Bu’n hyfforddi fel newyddiadurwr gyda'r Yorkshire Post ar ôl graddio o'r LSE. Clive yw cadeirydd Sightsavers, sef y drydedd elusen fwyaf yn y DU, ac Ymddiriedolaeth Runnymede, sef prif felin drafod cydraddoldeb hiliol y DU.

“Rwy’n hynod falch o gael ymuno â Bwrdd Ofcom fel Aelod ar ran Cymru ar adeg mor gyffrous, ac edrychaf ymlaen at gyfrannu at waith y Bwrdd. Mae gan Ofcom enw da fel rheoleiddiwr ac mae ei gyfrifoldebau wedi cynyddu dros amser. Mae’r Bil Diogelwch Ar-lein yn gosod cyfrifoldebau newydd sylweddol ar Ofcom, a bydd y Bil Cyfryngau yn dilyn cyn bo hir. Byddaf yn sicrhau bod pryderon a blaenoriaethau defnyddwyr yng Nghymru yn cael eu clywed yn glir gan y Bwrdd.”

Syr Clive Jones

“Rydw i wrth fy modd bod Clive wedi cael ei gadarnhau fel Aelod newydd o Fwrdd Ofcom ar ran Cymru. Mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd a fydd yn werthfawr dros ben.

Bydd ei benodiad yn sicrhau bod gan y Bwrdd lais cryf wrth gynrychioli Cymru, a bydd yn adeiladu ar y gwaith da a wnaed gan ei ragflaenydd, sef David Jones.”

Yr Arglwydd Grade, Cadeirydd Ofcom

Llongyfarchiadau i Syr Clive Jones ar ei benodiad. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’n gilydd er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli’n llawn ar fwrdd Ofcom.

Mae'r adroddiad diweddar gan y Panel Arbenigol ar Ddarlledu yn cydnabod y pwysigrwydd o gynnal berthynas gref ac effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru ac Ofcom, ac edrychwn ymlaen at adeiladu a datblygu'r berthynas gadarnhaol hon wrth i'r dirwedd gyfathrebu ledled Cymru a'r DU newid mor gyflym.

Bydd ein deialog barhaus yn helpu i sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn y gwasanaethau y mae’n eu haeddu, sy’n addas i’r diben, yn ddiogel ac wedi’u rheoleiddio i’r safonau uchaf.

Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Nodiadau i olygyddion:

  • Ofcom yw rheoleiddiwr annibynnol ac awdurdod cystadleuaeth diwydiannau cyfathrebiadau’r DU. Mae gennym gyfrifoldebau ar draws teledu, radio, fideo ar-alw, diogelwch ar-lein, telegyfathrebiadau, cyfathrebiadau di-wifr a gwasanaethau post.
  • Fel y nodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Senedd Cymru a’r Swyddfa Gyfathrebiadau[1], mae adran 1 Deddf y Swyddfa Gyfathrebiadau 2002, fel y’i diwygiwyd gan adran 68 Deddf Cymru 2017, yn darparu bod gan Weinidogion Cymru y pŵer i benodi aelod o Fwrdd Ofcom.
  • Roedd Cytundeb Dydd Gŵyl Dewi yn nodi’n glir y dylai’r unigolyn hwn fod yn berson sy’n gallu cynrychioli buddiannau Cymru. Bydd gan y sawl sy’n cael ei benodi yr un cyfrifoldebau DU-gyfan ag aelodau anweithredol eraill Ofcom.
  • Gan fod Ofcom yn gorff cyhoeddus ar draws y DU, caiff y penodiad ei wneud yn unol â Chod Llywodraethu Swyddfa’r Cabinet ar Benodiadau Cyhoeddus.
  • £42,000 am hyd at ddeuddydd yr wythnos fydd y tâl ar gyfer y rôl hon. Bydd y penodiad yn para am bedair blynedd, gan ddechrau ar 29 Chwefror 2024.

Related content