29 Rhagfyr 2023

Pen-blwydd Ofcom yn 20 oed – 20 ffaith ar gyfer ein 20 mlynedd

Heddiw yw pen-blwydd swyddogol Ofcom yn 20 oed. Dechreuodd ein gwaith fel y rheoleiddiwr cyfathrebu yn ffurfiol ar 29 Rhagfyr 2003.

Bu i ni gymryd drosodd y gwaith a wnaed yn flaenorol gan y Comisiwn Safonau Darlledu, y Comisiwn Teledu Annibynnol, Y Swyddfa Rheoliadau Telathrebu (Oftel), yr Awdurdod Radio a'r Asiantaeth Radiogyfathrebu, ac rydym yn dal i weithio'n galed i sicrhau bod cyfathrebiadau'n gweithio i bawb.

Mae llawer iawn wedi digwydd dros yr 20 mlynedd o'n bodolaeth, felly dyma grynodeb o rai o'r uchafbwyntiau a'r datblygiadau blaenllaw.

  1. Gwnaethom roi'r ddirwy fwyaf o'n 20 mlynedd yn 2018, sef cosb ariannol o £50m i’r Post Brenhinol am dorri cyfraith cystadleuaeth. Pan fyddwn yn rhoi dirwy fel hon, telir yr arian i Drysorlys EF.
  2. Y rhaglen deledu y cawsom y mwyaf o gwynion amdani dros yr 20 mlynedd diwethaf oedd pennod o Good Morning Britain, a ddarlledwyd ym mis Mawrth 2021. Cawsom 54,453 o gwynion am sylwadau a wnaed am Ddug a Duges Sussex
  3. Nokia 3300 from 2003 and the iPhone 15 plus the Samsung S23 from 2023Mae'n deg dweud bod ffonau symudol wedi gweld newidiadau aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn 2003 er enghraifft, ystyriwyd bod y Nokia 3300 ar flaen y gad. Wrth gamu ymlaen i 2023, yr iPhone 15 neu'r Samsung Galaxy S23 sydd fwy tebygol o fod yn nwylo'r rhai sy'n frwd dros dechnoleg..
  4. Un o agweddau mwyaf adnabyddus ein gwaith yw ein rôl ar draws safonau darlledu. Mae’r Côd Darlledu, a gyhoeddwyd yn 2005, yn rhan annatod o hyn. Roedd hwn yn disgrifio’r rheolau y mae’n rhaid i ddarlledwyr eu dilyn – ac mae’r rheolau hynny'n dal mewn grym heddiw. Gwnaethom hefyd gwblhau ein hadolygiad cyntaf o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus a ragwelodd sut y byddai gwylio’n symud i ffwrdd o deledu traddodiadol, gan ddweud bod ‘technolegau digidol newydd yn debygol o gael effaith helaeth ar y ffordd yr ydym yn gwylio teledu’.
  5. Rydym wedi gweld datblygiadau mawrion mewn cyflymder band eang ers 2003. Bryd hynny, roedd cwsmeriaid band eang cartref yn gallu cael cyflymder o tua 500 Kbit/e. Erbyn hyn, mae'r cyflymder hynny wedi esgyn i gyflymder lawrlwytho cyfartalog o 69.4 Mbit/e.
  6. Efallai mai teledu manylder uwch yw'r norm nawr, ond fe’i cyflwynwyd i deledu daearol yn y DU yn 2010.  Gwnaeth Ofcom chwarae rôl yn hyn o beth, gan weithio i aildrefnu’r sbectrwm a ddefnyddir i ddarlledu teledu digidol a chyflwyno safonau darlledu technegol newydd.
  7. Mae DAB ar raddfa fach, a lansiwyd yn 2020, yn dechnoleg radio flaengar sy’n darparu ffordd gost isel i wasanaethau bach ddarlledu i gynulleidfaoedd lleol. Ac ni fyddai wedi dod i'r amlwg heb waith un o'n cydweithwyr yn Ofcom, yr uwch arbenigwr darlledu Rash Mustapha. Ymchwiliodd Rash i’r dechnoleg a datblygodd offer prototeip. Gwnaeth hyn godi digon o ddiddordeb i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ar gyfer treialon. Pasiwyd deddfwriaeth yn ddiweddarach i sefydlu fframwaith ar gyfer trwyddedu gwasanaethau DAB ar raddfa fach. Oherwydd hyn, Rash oedd un o’r bobl gyntaf i gael ei sefydlu yn y 'Digital Radio Hall of Fame', ac fe'i cydnabuwyd yn ffurfiol hefyd gan gorff y diwydiant, Digital Radio UK.
  8. Yn 2017 dechreuodd Ofcom fel rheoleiddiwr allanol cyntaf y BBC, ar ôl i siarter newydd y BBC gael ei lansio ar 1 Ionawr y flwyddyn honno. Cyn hynny, Ymddiriedolaeth y BBC oedd yn gyfrifol am reoleiddio'r darlledwr.The first ‘CRIII’ cypher was featured on a post box on the Isle of Man.
  9. Yn 2023 gwelwyd newid nodedig i flychau post, yn sgil coroni Brenin Charles III. Rhoddwyd y seiffr 'CRIII' cyntaf ar flwch postio ar Ynys Manaw. Hwn oedd y newid cyntaf ers 1952, pan gyflwynwyd y seiffr 'EIIR' i nodi coroni'r Frenhines Elizabeth II.
  10. Y digwyddiad mwyaf y mae Ofcom wedi gweithio arno oedd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Oherwydd graddfa enfawr y gemau a phresenoldeb cannoedd o ddarlledwyr rhyngwladol roedd angen maint enfawr o gynllunio a chefnogaeth. Yn ogystal â gweithio cyn y digwyddiad, roedd ein cydweithwyr ar gael 24 awr y dydd am chwe wythnos y gemau, a bu i ni gydweithio'n agos gyda'n cyd-reoleiddwyr Ewropeaidd. Helpodd y profiad hwn hefyd i ni baratoi ar gyfer gwaith tebyg yn ystod gemau’r Gymanwlad yn Glasgow 2014 a Birmingham yn 2022.
  11. Ac yn 2023 chwaraeodd Ofcom rôl hanfodol wrth sicrhau yr aeth y Gystadleuaeth Caneuon Eurovision rhagddo'n ddidrafferth. Wedi’i chynnal yn Lerpwl – y tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal yn y DU ers 1998 – darlledwyd y gystadleuaeth i gynulleidfa ryngwladol o 162 miliwn o wylwyr.
  12. Y gân rhif un yn siartiau'r DU ar ddyddiad lansio Ofcom oedd Mad World, gan Michael Andrews gyda Gary Jules – cymerwyd y gân o drac sain y ffilm Donnie Darko. Y gân ar frig y siartiau adeg pen-blwydd Ofcom yn 20 oed yw Last Christmas gan Wham!, sydd wedi cyrraedd y safle uchaf yn syfrdanol 39 mlynedd ar ôl iddi gael ei ryddhau am y tro cyntaf.
  13. The most-watched TV show in the UK 2003 and 2023Yn 2003 y sioe deledu a wyliwyd fwyaf yn y DU oedd pennod o Coronation Street lle cyfaddefodd y dihiryn Richard Hillman i’w droseddau – bu iddi gyrraedd cynulleidfa o 19.4 miliwn. Yn 2023 y sioe â'r niferoedd gwylio uchaf oedd Coroni'r Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla, gyda chynulleidfa gyfartalog o 12.8 miliwn.
  14. Mae'r 20 mlynedd diwethaf wedi gweld datblygiadau enfawr mewn technoleg symudol. Er enghraifft, lansiwyd y rhwydwaith 3G masnachol cyntaf yn 2003, ond yn 2023 mae darparwyr yn paratoi i ddiffodd y rhwydwaith hwnnw i greu lle ar gyfer technolegau newydd a datblygol fel 4G a 5G.
  15. Yn 2011 fe wnaethom ymgymryd â rheoleiddio'r post, yr oedd Postcomm yn gyfrifol amdano'n flaenorol. Rydym yn monitro’r farchnad bost yn y DU, gan ein helpu i ddeall pa mor dda y mae’r Post Brenhinol yn perfformio fel busnes; newidiadau yn y marchnadoedd parseli a llythyrau; a phrofiadau cwsmeriaid o'r marchnadoedd post. Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi prif ganfyddiadau ein gwaith monitro.
  16. Yn 2021 fe wnaethom gyhoeddi ein ymchwil ddiweddaraf i agweddau pobl at iaith dramgwyddus ar y teledu a'r radio, gan ddangos sut mae agweddau wedi newid dros y blynyddoedd ers 2003 pan ddechreuom ar ein gwaith yn y maes hwn. Dangosodd ein canfyddiadau fod gan bobl bryderon cyfyngedig am iaith gref, cyhyd â'i bod yn cael ei darlledu ar ôl y trothwy a bod digon o rybuddion yn cael eu rhoi. Fodd bynnag, dywedodd cynulleidfaoedd fod ganddynt bryderon mwy difrifol am iaith wahaniaethol ar deledu a radio – yn enwedig o ran hil.
  17. Er yr oedd teledu realiti yn gymharol ifanc yn y DU yn 2003, mae wedi cynyddu'n aruthrol mewn poblogrwydd ac o ran y sylw a roddir iddo dros yr 20 mlynedd diwethaf. Diolch i Ofcom, mae pobl sy'n cymryd rhan mewn sioeau teledu realiti bellach yn cael eu hamddiffyn yn well gan reolau a gyflwynwyd yn 2020.
  18. Dechreuodd y broses pum mlynedd o ddiffodd signalau teledu analog er mwyn eu disodli â theledu digidol yn 2007. Ar 16 Hydref y flwyddyn honno, Copeland yn Cumbria oedd yr ardal gyntaf i gael ei newid drosodd. Y noson honno, diffoddwyd y trosglwyddiad BBC2 analog, gan ryddhau sbectrwm i ddechrau darlledu sianeli digidol ond gan ganiatáu i sianeli eraill barhau i ddarlledu mewn analog cyn i'r newid llawn ddigwydd ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Roedd teledu digidol yn cynnig mwy o ddewis i wylwyr, ac roedd sbectrwm gwerthfawr ar gael at ddefnyddiau eraill gan gynnwys 4G.
  19. Phone boxes around the UKMae nifer y blychau ffôn ar draws y DU wedi gostwng o tua 90,000 yn 2003 i 18,000 yn 2023. Yn 2022 fe wnaethom gyflwyno mesurau newydd i ddiogelu blychau ffôn, gan sicrhau bod ffonau talu mewn ardaloedd â signal symudol gwael neu gyfraddau damweiniau uchel yn cael eu gwarchod ar gyfer y bobl sydd eu hangen.
  20. Pan wnaethom ddod i fodolaeth yn 2003 roeddem yn gweithredu'n bennaf o'n swyddfa yn Llundain, ac rydym yno o hyd. Ond dros ein 20 mlynedd o fodoli rydym hefyd wedi sefydlu swyddfeydd yng ngwledydd y DU, sy'n hanfodol o ystyried bod ein gwaith yn cynrychioli pobl a busnesau ym mhob cwr o'r DU. Fe wnaethom agor swyddfeydd yn Belfast a Chaerdydd yn 2004, ac wedyn ein swyddfa yng Nghaeredin yn 2016. Mae gennym hefyd ganolfannau rhanbarthol yn Birmingham, Baldock a Warrington, a swyddfa ym Manceinion a agorwyd yn swyddogol yn 2021.