8 Mawrth 2024

Dwy wefan yn y DU yn cyflwyno mesurau sicrhau oedran ar gyfer cynnwys i oedolion yn dilyn ymgysylltiad Ofcom

Mae dau lwyfan ar-lein wedi cyflwyno mesurau sicrhau oedran, ar ôl i Ofcom fynegi pryderon nad oeddent yn gwneud digon i atal plant rhag gallu cael gafael ar bornograffi ar eu gwefannau.

Mae AmPay Ltd – sy’n darparu SoSpoilt, llwyfan cymysg sydd â chynnwys i oedolion – a Visional Media Ltd – sy’n darparu Xpanded, gwasanaeth ffrwd fyw i oedolion – wedi gwneud newidiadau i ymateb i’n pryderon.

Erbyn hyn, mae’r ddau lwyfan yn mynnu bod defnyddwyr – wrth gael gafael ar gynnwys i oedolion – yn gorfod gwneud y canlynol:

  • dilysu eu hoedran drwy un o’r pedwar dull canlynol: cyflwyno manylion cerdyn credyd y gellir eu dilysu, caniatáu i’w hoedran gael ei amcangyfrif drwy ddull amcangyfrif oedran, cyflwyno prawf adnabod dilys, neu gael eu gwirio drwy’r gweithredwr rhwydwaith symudol; neu
  • mewngofnodi i gyfrif cofrestredig lle mae eu hoedran eisoes wedi cael ei ddilysu.

Bu Xpanded a SoSpoilt yn ymgysylltu’n rhagweithiol ag Ofcom, a byddwn yn monitro i weld a yw’r newidiadau hyn yn gweithio’n effeithiol ai peidio.

Related content