24 Ionawr 2024

Ofcom: Rhaid moderneiddio'r gwasanaeth post cyffredinol

  • Ofcom yn galw am drafodaeth genedlaethol ar ddyfodol gwasanaeth post y DU, wrth i niferoedd llythyrau haneru ers 2011
  • Mae’r opsiynau ar gyfer diwygio’n cynnwys newid cyflymder neu ddyddiau danfon llythyrau, fel y mae gwledydd eraill wedi’i wneud, ond nid israddio targedau danfon
  • Bydd stampiau Ail Ddosbarth yn parhau i fod yn opsiwn fforddiadwy wrth i'r cap ar brisiau barhau

Mae yna berygl y bydd y gwasanaeth post cyffredinol yn mynd yn anghynaliadwy wrth i bobl anfon llai o lythyrau a derbyn mwy o barseli, gan olygu bod angen diwygio er mwyn sicrhau ei ddyfodol hirdymor, yn ôl tystiolaeth a gyhoeddir gan Ofcom heddiw.

Mae gwasanaethau post a gweithwyr post yn parhau i fod yn hanfodol i'r rhai sy'n dibynnu arnynt. Mae wyth o bob 10 o bobl (79%) yn dweud y bydd angen anfon rhai pethau drwy'r post bob amser.[1] Ac mae tri chwarter o'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau post (74%) yn dweud eu bod yn dibynnu ar y post am lythyrau.[2]

Fodd bynnag, er nad yw rhwymedigaethau'r Post Brenhinol[3] wedi newid ers 2011, mae niferoedd llythyrau wedi haneru ac mae danfon parseli wedi dod yn gynyddol bwysig. O ystyried y gost sylweddol i’r Post Brenhinol o ddarparu’r gwasanaeth cyffredinol[4], mae risg gynyddol y bydd yn mynd yn anghynaliadwy yn ariannol ac yn weithredol yn y tymor hir.

O ystyried yr heriau hyn, mae Ofcom heddiw yn gwahodd safbwyntiau ar ystod o opsiynau ar gyfer ailddylunio’r gwasanaeth post cyffredinol i sicrhau ei ddyfodol, a hefyd ei fod yn adlewyrchu’r ffordd y mae pobl yn ei ddefnyddio. O dan unrhyw un o'r sefyllfaoedd, mae'n rhaid i'r Post Brenhinol foderneiddio ei rwydwaith, cynyddu ei effeithlonrwydd a gwella ei lefelau gwasanaeth.

Dengys ymchwil gan Ofcom fod pobl eisiau cael yr hyn maen nhw'n talu amdano. Ond nid yw pobl yn derbyn gwasanaeth dibynadwy ar hyn o bryd oherwydd perfformiad gwael diweddar y Post Brenhinol, y rhoddodd Ofcom ddirwy o £5.6m i'r cwmni o ganlyniad iddo y llynedd. Byddwn yn parhau i ddwyn y Post Brenhinol i gyfrif ac yn disgwyl iddo wella'r sefyllfa fel mater o frys.

Opsiynau ar gyfer diwygio

Ar hyn o bryd, nid ydym yn ymgynghori ar gynigion penodol i newid y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO). O dan rai o’r opsiynau, y manylir arnynt yn llawn yn ein dogfen, byddai angen i Lywodraeth a Senedd y DU newid deddfwriaeth sylfaenol, er y gellid gwneud rhai newidiadau eraill drwy newidiadau i’n rheoliadau.[5]

Y ddau opsiwn sylfaenol rydym wedi’u nodi yw:

  1. Gwneud newidiadau i gynhyrchion Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth a busnes presennol fel bod y rhan fwyaf o lythyrau’n cael eu danfon drwy wasanaeth sy’n cymryd hyd at dri diwrnod neu fwy, gyda gwasanaeth diwrnod nesaf ar gael o hyd ar gyfer unrhyw lythyrau brys.
  2. Gostwng nifer y diwrnodau danfon llythyrau yn y gwasanaeth o chwech i bump neu dri. I wneud hyn byddai angen i Lywodraeth a Senedd y DU newid deddfwriaeth sylfaenol.

Amcangyfrifwn y gallai'r Post Brenhinol gyflawni arbediad cost net o £100m-£200m pe bai danfon llythyrau'n cael ei ostwng i bum niwrnod; a £400m-£650m pe bai'n cael ei ostwng i dri diwrnod. Pe bai'r mwyafrif helaeth o lythyrau'n cael eu danfon o fewn tri diwrnod, gallai sicrhau arbedion cost net o £150m-£650m.[6]

Nid yw israddio targedau danfon yn opsiwn ar gyfer diwygio. Yn wir, fe fydd yn bwysig ystyried a oes angen mesurau diogelu ychwanegol i sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu diwallu'n llawn. Rhaid i unrhyw newidiadau wella lefelau dibynadwyedd presennol.

Mae newid manyleb y gwasanaeth cyffredinol yn debygol o fod yn well na defnyddio cymhorthdal i gynnal lefelau presennol y gwasanaeth a'r cynhyrchion, o ystyried nad yw bellach yn cyfateb i’r ffordd y mae pobl yn ei ddefnyddio; er mai penderfyniad i Lywodraeth y DU fyddai hwn yn y pen draw.

Beth mae defnyddwyr post ei eisiau?

Gallai llai o ddiwrnodau danfon ddal i fodloni anghenion y rhan fwyaf o bobl, yn ôl yr hyn y mae defnyddwyr post wedi'i ddweud wrthym. Dywed naw o bob 10 o bobl (88%) mai dibynadwyedd sy'n bwysig o ran danfon llythyrau, o gymharu â 58% ar gyfer danfon ar ddydd Sadwrn (i lawr o 63% yn 2020).[7]

Roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn ein hymchwil[8] hefyd yn agored i leihau rhai gwasanaethau a safonau – yn enwedig ar gyfer llythyrau – er mwyn cadw prisiau i lawr a thalu dim ond am yr hyn sydd ei angen. Yn yr un modd, cafwyd cydnabyddiaeth gref nad oedd y rhan fwyaf o lythyrau'n rhai brys, ond bod angen i wasanaeth cyflymach fod ar gael i bobl o hyd ar gyfer ambell eitem frys, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu talu premiwm amdano.

Nid yw'r DU ar ei phen ei hun wrth orfod ymateb i'r heriau hyn. Ar draws Ewrop ac yn ehangach, mae rhwymedigaethau gwasanaeth post cyffredinol wedi cael eu diwygio, neu yn y broses o gael eu diwygio. Mae gwledydd eraill wedi gostwng amlder danfon neu ymestyn amseroedd danfon llythyrau - gan gynnwys Sweden yn 2018, Gwlad Belg ddwywaith ers 2020, a Norwy a Denmarc ddwywaith yr un ers 2016.[9]

“Mae gweithwyr post yn rhan o ffabrig ein cymdeithas ac yn hollbwysig i gymunedau ar hyd a lled y wlad. Ond rydyn ni'n anfon hanner cymaint o lythyrau nawr ag a wnaethom yn 2011, ac yn derbyn llawer mwy o barseli. Nid yw'r gwasanaeth cyffredinol wedi newid ers hynny, mae'n mynd yn hen a bydd yn dod yn anghynaladwy os na fyddwn yn gweithredu.

“Felly rydyn ni wedi nodi opsiynau ar gyfer diwygio fel y gellir cynnal trafodaeth genedlaethol am ddyfodol y gwasanaeth post cyffredinol. Yn y cyfamser, rydyn ni'n sicrhau y bydd prisiau’n parhau’n fforddiadwy drwy roi cap ar bris stampiau Ail Ddosbarth”

Y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom

Y camau nesaf

Rydym yn gwahodd barn ar ein dadansoddiad a’r opsiynau ar gyfer diwygio gan bartïon â diddordeb erbyn 3 Ebrill 2024, er mwyn deall yr effaith bosibl ar bobl a busnesau. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n agored i niwed, y rhai mewn rhannau gwledig ac anghysbell o wledydd y DU, yn ogystal â sefydliadau mawr sy’n defnyddio gwasanaethau post swmp.

Byddwn yn cynnal digwyddiadau yn y misoedd nesaf i drafod y dystiolaeth a’r opsiynau, gan ddod ag amrywiaeth o bobl a sefydliadau sydd â safbwyntiau gwahanol at ei gilydd. Ar ôl ystyried yr adborth yn ofalus, byddwn yn darparu diweddariad yn yr haf.

Capio pris stampiau Ail Ddosbarth

Er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth cyffredinol yn parhau i fod yn fforddiadwy, o bryd i'w gilydd mae Ofcom yn adolygu a ddylid capio prisiau stampiau. Wrth wneud hynny, rhaid i ni ystyried effaith unrhyw gap ar gynaladwyedd ariannol y gwasanaeth cyffredinol. Gwnaethom osod ein cap diwethaf yn 2019 ac rydym wedi adolygu prisiau ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2027.

Y Post Brenhinol yw'r unig gwmni o hyd sy'n danfon llythyrau o ddrws i ddrws ar raddfa genedlaethol yn y DU. Mae hyn yn golygu na allwn ddibynnu ar gystadleuaeth i sicrhau bod prisiau'n parhau'n fforddiadwy.

Felly, rydym wedi cadw cap diogelu ar lythyrau ail ddosbarth. Ar gyfartaledd, ni all y prisiau hyn godi mwy na chwyddiant (CPI) o brisiau heddiw.[10]

Yn dangos y lefelau gwasanaeth a'r cynhyrchion y mae'n ofynnol i'r Post Brenhinol eu cynnig o dan y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (6 diwrnod yr wythnos ar gyfer llythyrau, 5 diwrnod ar gyfer parseli), a chynhyrchion Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth. Nid yw hyn wedi newid ers 2011.  Yn y cyfamser, mae nifer y llythyrau wedi gostwng o 14.3 biliwn yn 2011/12 i 7.3 biliwn yn 2022/23, ac mae cyfrolau parseli wedi cynyddu o 2.6 biliwn yn 2018/19 i 3.6 biliwn. Mae'r ddelwedd hefyd yn dangos canfyddiadau ymchwil farchnad am yr hyn sy'n bwysig i bobl o ran llythyrau: fforddiadwyedd (91%); dibynadwyedd (88%); Danfon Llun-Gwener (79%); Danfon 6 diwrnod yr wythnos (63%); a Danfon dydd Sadwrn (58%). Hefyd, mae'n esbonio y bu cost net yr USO i'r Post Brenhinol yn £325-675m yn 2021/22.

Notes to editors

  1. Cynhaliodd Yonder Consulting arolwg ar ran Ofcom o sampl cynrychioliadol cenedlaethol o 2,024 o oedolion 16+ oed yn y DU ym misoedd Hydref a Thachwedd 2023.
  2. Traciwr Post Preswyl Ofcom 2022-23 – Cynhaliodd Jigsaw arolwg o sampl cynrychioliadol cenedlaethol o 5,664 o ddefnyddwyr y gwasanaeth post yn y DU rhwng mis Awst 2022 a mis Mehefin 2023.
  3. Ers 2011, mae rhwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol y Post Brenhinol wedi cynnwys cynnig danfon llythyrau o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a pharseli o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ogystal â chynnig dau gyflymder danfon ar gyfer ei brif gynnyrch gwasanaeth cyffredinol: Dosbarth Cyntaf (diwrnod nesaf) ac Ail Ddosbarth (o fewn tridiau).
  4. Rydym yn amcangyfrif mai cost net yr USO cyfan i’r Post Brenhinol oedd £325m-£675m yn 2021/22. Mae’r amrediad hwn yn seiliedig ar yr elw yr ydym wedi cyfrifo y gallai’r Post Brenhinol fod wedi’i wneud os na fu'n ddarostyngedig i’r USO a bod ganddo ryddid masnachol, o gymharu â’i sefyllfa wirioneddol yn y flwyddyn honno (er bod yr amrediad yn cynnwys colli budd yr eithriad rhag TAW). Nid yw'r amcangyfrif hwn o'r gost net o reidrwydd yn cynrychioli'r arbedion y byddai'r Post Brenhinol yn eu gwneud pe bai cwmpas yr USO yn cael ei newid.
  5. Sut y gellir gwneud diwygiadau i fanyleb yr USO:
    Yn dangos sut y gellir newid manyleb USO, gan bwy ac yn dilyn pa broses. Mae'r lleiafswm gofynion (gan gynnwys amlder danfon llythyrau yn cael ei osod gan ddeddfwriaeth a gellir ei newid gan Lywodraeth a Senedd y DU. Mae cwmpas manwl yr USO yn cael ei osod gan Ofcom mewn is-ddeddfwriaeth ac amodau rheoleiddiol.
  6. Yr arbedion y gallai’r Post Brenhinol fod wedi’u cyflawni yn 2021/22 pe bai’r newidiadau'n weithredol bryd hynny.
  7. Arolwg Yonder Consulting – dywedodd 88% o oedolion y DU wrthym ei bod yn bwysig y “Gallwch fod yn hyderus y bydd o leiaf 90% o lythyrau a anfonir yn cael eu danfon ar amser”.
  8. Cynhaliodd Jigsaw wyth trafodaeth grŵp ar-lein gyda defnyddwyr post cyffredin ym mis Awst a mis Medi 2023, a 38 o gyfweliadau manwl gyda defnyddwyr agored i niwed a dibynnol.
  9. Rhai cymaryddion yn Ewrop:
    Yn dangos amlder danfon llythyr safonol a chyflymder mewn detholiad o wledydd Ewropeaidd.
  10. Rhoddir rhywfaint o hyblygrwydd i'r Post Brenhinol osod prisiau ar gyfer cynhyrchion llythyr Ail Ddosbarth unigol, sy'n amrywio o ran maint, ond rhaid i'r pris cyffredinol cyfartalog wedi'i bwysoli ar gyfer y set o gynhyrchion yn y 'fasged' beidio â chodi uwchlaw chwyddiant. Yn seiliedig ar feintiau 2022/23, byddai llythyrau safonol yn cyfrif am gyfran uchel o'r fasged. Wrth gwrs, mae hyn yn cyfyngu'n llymach ar gynnydd mewn prisiau ar y llythyrau safonol a ddefnyddir yn fwy cyffredin nag ar lythrennau mawr, gan y byddai newid yn eu prisiau'n cael effaith fwy o lawer ar y cyfartaledd cyffredinol na newid mewn prisiau eraill

Related content