26 Chwefror 2024

Beth yw'r Bil Cyfryngau a beth mae'n ei olygu i Ofcom?

Mae tirwedd cyfryngau’r DU yn un o’r rhai mwyaf bywiog yn y byd, a gall cynulleidfaoedd fwynhau ystod gynyddol o wasanaethau, newyddiaduraeth a rhaglennu.

Mae'r cynnydd mewn gwasanaethau fideo ar-alw a ffrydio wedi trawsnewid sut rydym yn gwylio ac yn gwrando ar gynnwys. Er bod gwasanaethau teledu a radio darlledu byw yn cael eu gwerthfawrogi’n eang, mae newidiadau technolegol wedi mynd law yn llaw â lleihad mewn gwylio a gwrando llinol. Roedd pobl yn y DU yn gwylio 30% yn llai o deledu wedi’i ddarlledu ar gyfartaledd yn 2022 o gymharu â 2014, tra bod dwy ran o dair o gartrefi bellach yn tanysgrifio i o leiaf un gwasanaeth fideo ar-alw.

Beth yw'r Bil Cyfryngau?

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno darn newydd o ddeddfwriaeth i sicrhau fframwaith cyfoes ar gyfer diogelu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus (PSBs) ac ar yr un pryd, meithrin arloesedd. Mae'r Bil yn gwneud rhai newidiadau i gyfrifoldebau presennol Ofcom fel rheoleiddiwr cyfryngau darlledu. Mae'r mesurau'n cynnwys:

  • Diwygio a symleiddio gofynion darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fel y gallant ganolbwyntio ar greu rhaglenni o ansawdd uchel sy'n gwasanaethu cynulleidfaoedd.  Mae hyn yn cynnwys diogelu gallu pobl i wylio digwyddiadau o ddiddordeb cenedlaethol am ddim, megis digwyddiadau chwaraeon mawr.
  • Cod fideo ar-alw sydd wedi'i reoleiddio gan Ofcom ar gyfer llwyfannau ffrydio mawr fel Netflix, Amazon Prime a Disney+. Bydd y gwasanaethau hyn yn ddarostyngedig i safonau golygyddol tebyg i'r rhai sy'n amddiffyn pobl rhag cynnwys niweidiol ar deledu wedi'i ddarlledu. Mae hyn yn golygu y byddwn yn ymdrin â chwynion am gynnwys a ddangosir ar y llwyfannau hyn. Bydd gwasanaethau ffrydio hefyd yn destun gofynion hygyrchedd megis is-deitlo, fel y gall mwy o bobl anabl gael mynediad at y cynnwys hwn.
  • Rheolau newydd i sicrhau bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus ar gael, yn amlwg ac yn hawdd ei gyrraedd ar lwyfannau teledu cysylltiedig, fel setiau teledu clyfar a ffyn ffrydio. Mae hyn yn golygu y bydd y chwaraewyr ar-alw y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn dosbarthu rhaglenni gwasanaeth cyhoeddus arnynt (er enghraifft ITVX) yn dod yn fwy gweladwy ar lwyfannau teledu cysylltiedig.  Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni sefydlu codau, canllawiau a phrosesau datrys anghydfod newydd sydd wedi'u dylunio i sicrhau system deg a chynaliadwy sy'n gwasanaethu cynulleidfaoedd.
  • Mae'r Mesur yn rhoi'r gallu i Channel 4 gynhyrchu mwy o'i rhaglenni ei hun a gwneud elw ohonynt. Byddem yn adolygu hyn i sicrhau nad yw’r sector ehangach yn cael ei effeithio’n ormodol.
  • Dileu beichiau rheoleiddio hen ffasiwn ar wasanaethau radio, tra'n diogelu a chryfhau darpariaeth newyddion lleol. Mae hyn yn cynnwys mesurau diogelu newydd i sicrhau bod gorsafoedd y BBC, a'r rhai masnachol a chymunedol ledled y DU yn parhau i fod yn hygyrch i wrandawyr drwy seinyddion clyfar.

Beth sy nesaf? Ein map

Y Bil Cyfryngau yw’r diweddariad mawr cyntaf i ddeddfwriaeth y DU yn y maes hwn ers 20 mlynedd. Ei nod yw sicrhau bod gan gynulleidfaoedd y DU fynediad at ystod eang o deledu byw ac ar-alw o ansawdd uchel, tra'n amddiffyn pobl rhag deunydd niweidiol neu dramgwyddus.

Rydym wedi nodi ein map sy'n manylu ar sut y byddwn yn mynd ati i roi'r newidiadau hyn ar waith mewn ffordd sy'n deg, yn gymesur ac yn effeithiol.

Bydd ein cynllun a’n hamserlen yn cael eu pennu gan amseriad taith y Bil drwy Senedd y DU.

Yn ein dull o weithredu’r Bil, byddwn yn ymgynghori’n agored ac yn defnyddio’r ystod o dystiolaeth ac ymchwil sydd ar gael i ni i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl ledled y DU.