Pwerau Ofcom i gasglu gwybodaeth sy’n ymwneud â marwolaeth plentyn

27 Mawrth 2024

O dan adran 101 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, mae gan Ofcom y pŵer i gefnogi ymchwiliad procuradur ffisgal neu grwner i farwolaeth plentyn. Mae’r pwerau casglu gwybodaeth newydd hyn, o dan adran 101 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, yn dechrau ar 1 Ebrill 2024.

Gall marwolaeth plentyn gael effaith ddinistriol ar deuluoedd a chymunedau ledled y DU. Rydym yn deall y rôl bwysig y mae ymchwiliadau a gynhelir gan grwneriaid a phrocuraduriaid yn ei chwarae wrth geisio sefydlu achosion sylfaenol marwolaethau unigol. Gan weithio o fewn y fframwaith cyfreithiol a bennir gan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, rydym am sicrhau bod prosesau priodol ar waith i gefnogi ymchwiliad crwner neu gwest i farwolaeth plentyn.

O 1 Ebrill 2024 ymlaen, os bydd Ofcom wedi cael cais ffurfiol am wybodaeth gan brocuradur ffisgal neu grwner i gefnogi ymchwiliad neu gwest i farwolaeth plentyn, yna gall Ofcom benderfynu cyhoeddi cais adran 101 i gasglu gwybodaeth gan wasanaethau perthnasol er mwyn ymateb i’r crwner.

Yng Nghymru a Lloegr, bydd cais ffurfiol y crwner am wybodaeth yn cael ei anfon drwy hysbysiad Atodlen 5 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009. Bydd crwneriaid o Ogledd Iwerddon yn anfon cais ffurfiol am wybodaeth drwy eu pwerau 17A o dan Ddeddf Crwneriaid (Gogledd Iwerddon) 1959. Yn yr Alban, daw pŵer procuradur ffisgal i gyflwyno ceisiadau am wybodaeth i Ofcom o'u pŵer cyfraith gwlad cyffredin i ymchwilio i farwolaethau.

Er bod y pŵer hwn yn newydd, mae Ofcom eisoes wedi cefnogi a bydd yn parhau i gefnogi elfennau eraill o’r broses grwnerol. Mae hyn yn cynnwys ein dyletswydd gyfreithiol i ymateb i adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol mewn perthynas â marwolaeth unigolyn.

Os hoffai unrhyw Grwneriaid neu Brocuraduriaid Ffisgal wybod mwy am ein cynlluniau gweithredu adran 101, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost atom: CoronersSupport@ofcom.org.uk

Lawrlwytho ein taflen wybodaeth (PDF, 210.3 KB)