Addewid i recriwtio mwy o fenywod i rolau technoleg uwch

23 Tachwedd 2023

Ynghyd mewn Technoleg

Mae Ofcom a rhai o brif sefydliadau telathrebu a thechnoleg y DU wedi llofnodi Women in Tech, addewid sy’n ymrwymo i hyrwyddo rôl menywod mewn swyddi technoleg yn y sector telathrebu.

Dim ond canran fach o’r gweithlu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) craidd sy'n fenywod, ac mae’r sector telathrebu’n cydnabod yr her o gyflawni amrywiaeth rhwng y rhywiau mewn rolau technoleg.

Mewn ymdrech i fynd i’r afael â’r her yma, mae Ofcom a phrif sefydliadau telathrebu a thechnoleg y DU wedi dod ynghyd i addo helpu mwy o fenywod i adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil yn y diwydiant telathrebu. Nod yr addewid yw denu, cadw a dyrchafu menywod mewn rolau technolegol, gan ategu ymdrechion presennol y sector. Drwy weithio ar y cyd, byddwn yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth ac ysgogi newid cadarnhaol

.

Pwy sydd wedi ymrwymo i'r addewid?

  • BT
  • CityFibre
  • GCHQ
  • NCSC
  • Openreach
  • Sky
  • TalkTalk
  • Three
  • Virgin Media O2
  • Vodafone
  • Vorboss
  • Zen Internet

Yr addewid yn llawn

  • Rydym wedi ymrwymo i gynyddu’r gynrychiolaeth o fenywod mewn swyddi uwch sy’n ymwneud â thechnoleg yn y sector telathrebu dros y 3 blynedd nesaf; ac i gynyddu cynrychiolaeth gyffredinol menywod yn ein sector.
  • Byddwn yn buddsoddi ein hymdrechion i ddenu a chadw menywod yn ein sefydliadau, gan greu amgylcheddau cynhwysol iddynt ragori a gwneud eu gorau.
  • Fel diwydiant, byddwn yn dod at ein gilydd bob blwyddyn i rannu arferion da a dangos i’r byd y menywod talentog sydd gennym ym maes technoleg yn y sector telathrebu.
  • Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am yr effaith mae ein mentrau wedi’i chael ar ein huchelgeisiau ar y cyd yn ogystal ag yn erbyn strategaethau Amrywiaeth a Chynhwysiad ein sefydliadau. Ein nod yw cyhoeddi gwybodaeth am ein cynlluniau er mwyn ysbrydoli eraill yn y sector.