Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Cynllun Blynyddol Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau

06 Ebrill 2023

Mae gallu cymryd rhan yn effeithiol ar-lein yn parhau i fod yr un mor bwysig ag erioed.

Rydyn ni wedi gwneud cynnydd i gyflawni ein nodau ers cyhoeddi ein Dull o ymdrin ag Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau (PDF, 1.3 MB) ym mis Rhagfyr 2021.

Rydyn ni wedi ceisio hyrwyddo gallu pobl i gymryd rhan yn effeithiol ac yn ddiogel, yn ogystal â’u cefnogi i ffynnu ar-lein, gan gynnwys ymgysylltu â’r rheini sydd wrthi’n darparu ymyriadau ac yn sbarduno rhaglenni newydd ar gyfer defnyddwyr nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol. Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer y sector ymwybyddiaeth o’r cyfryngau i wreiddio arferion gwerthuso mewn ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, ac rydyn ni wedi parhau i gyhoeddi amrywiaeth eang o ymchwil. Rydyn ni’n parhau i weithio gyda llwyfannau i ddylunio ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.

Mae ein Cynllun Blynyddol yn nodi’n glir yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni ers mis Rhagfyr 2021, yn ogystal â’n cynllun gwaith arfaethedig ar gyfer 2023/2024. Rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar bobl a llwyfannau – sicrhau bod cyfathrebiadau ar-lein yn gweithio i bawb drwy gefnogi’r rheini sydd ei angen fwyaf ac annog llwyfannau i wneud mwy ar-lein ac i gyllido mwy mewn cymunedau. Bydd ein rhaglen ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn ategu ein pwerau rheoleiddio newydd ar ôl i’r Bil Diogelwch Ar-lein ddod i rym.

Fe welwch chi gyhoeddiad gwreiddiol y Dull o ymdrin ag Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau Ar-lein o dan y Cynllun Blynyddol.

Cynllun Blynyddol Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau 2023-24 (PDF, 4.7 MB)