Beth sy'n gweithio wrth gyflwyno rhaglenni cymunedol
13 Mehefin 2022
Bu i ni siarad â deg sefydliad ar draws y DU i ddarganfod beth sy'n gwneud menter gymunedol neu ymyriad cymunedol lwyddiannus. Y dysgu allweddol o'r project ymchwil cyflym hwn yw bod angen atebion lleol ar gymunedau lleol. Yn ei hanfod, mae angen i'r gymuned addysgu ei hun, a rôl y darparwr yw creu'r amodau cywir ar gyfer hynny. Bydd y dysgu hyn yn cyfeirio ein hymagwedd yn y dyfodol wrth gomisiynu ymyriadau cymunedol i wella ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ymhlith grwpiau sydd heb gael eu cynrychioli'n ddigonol.
Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau: Beth sy'n gweithio wrth gyflwyno rhaglenni cymunedol (PDF, 245.7 KB)
Community voices in media literacy (PDF, 85.4 KB) (Saesneg yn unig)