Sut i ddefnyddio’r Cod

19 Chwefror 2024

Mae’r Cod wedi’i osod ar ffurf egwyddorion, ystyron a rheolau ac, yn achos Adrannau saith (Tegwch) ac wyth (Preifatrwydd), mae hefyd yn cynnwys cyfres o "arferion i'w dilyn" gan ddarlledwyr. Mae’r egwyddorion wedi’u cynnwys er mwyn helpu darllenwyr i ddeall amcanion y safonau ac i gymhwyso’r rheolau. Rhaid i ddarlledwyr sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau fel y maent wedi’u nodi yn y Cod. Mae’r ystyron yn helpu i egluro beth y mae Ofcom yn ei olygu wrth rai o’r geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Cod. Mae’r ddeddfwriaeth ar ddarlledu sy’n fwyaf perthnasol wedi’i nodi o dan bennawd pob adran fel y gall darllenwyr droi at y ddeddfwriaeth os dymunant.

Wrth gymhwyso’r Cod i gynnwys, dylai darlledwyr fod yn ymwybodol bod cyd-destun ynglŷn â ble y mae’r deunydd yn ymddangos yn allweddol. Wrth lunio'r Cod hwn, mae Ofcom wedi ystyried y canlynol (yn unol â gofynion adran 319(4) y Ddeddf):

(a) graddau’r niwed a thramgwydd sy’n debygol o gael ei achosi drwy gynnwys unrhyw fath penodol o ddeunydd mewn rhaglenni’n gyffredinol, neu mewn rhaglenni o fath penodol;

(b) maint a chyfansoddiad tebygol y gynulleidfa bosibl i raglenni sydd wedi’u cynnwys mewn gwasanaethau teledu a radio’n gyffredinol neu mewn gwasanaethau teledu a radio o fath penodol;

(c) disgwyliad tebygol y gynulleidfa o ran natur cynnwys rhaglen ac i ba raddau y gallai natur cynnwys rhaglen gael ei dwyn at sylw aelodau posibl y gynulleidfa;

(d) y tebygolrwydd y bydd pobl nad ydynt yn ymwybodol o natur cynnwys rhaglen yn dod yn agored yn anfwriadol, drwy eu gweithredoedd eu hunain, i’r cynnwys hwnnw;

(e) y dymunoldeb o sicrhau bod cynnwys gwasanaethau’n nodi pa bryd y ceir newid sy’n effeithio ar natur gwasanaeth y mae rhai’n ei wylio neu’n gwrando arno ac, yn benodol, newid sy’n berthnasol o ran cymhwyso’r safonau sydd wedi’u gosod o dan yr adran hon;

(f) y dymunoldeb o gynnal annibyniaeth y rheolaeth olygyddol dros gynnwys rhaglen.

Mae’r meini prawf hyn wedi cyfeirio ymagwedd Ofcom at osod y Cod ac felly mae'n rhaid i ddarlledwyr eu hystyried wrth ddehongli’r rheolau.

Nid yw'r Cod yn ceisio ymdrin â phob un achos a allai godi. Gallai darlledwyr wynebu nifer o sefyllfaoedd unigol nad oes cyfeiriad penodol atynt yn y Cod hwn. Nid yw’r enghreifftiau sydd yn y Cod yn hollgynhwysol. Er hynny, disgwylir y bydd yr egwyddorion, fel y maent wedi’u disgrifio yn yr adrannau canlynol, yn egluro pwrpas y Cod ac yn helpu darlledwyr i wneud y penderfyniadau angenrheidiol.

Wrth gymhwyso'r Cod i Wasanaethau Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC, dylid ystyried natur ar-alw y gwasanaeth. Caiff darpariaethau penodol eu gwneud mewn rhai rheolau ar gyfer Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC.

Er mwyn rhoi cymorth pellach i’r rhai sy’n gweithio ym maes darlledu, yn ogystal â gwylwyr a gwrandawyr sy’n dymuno deall safonau darlledu, bydd Ofcom hefyd yn cyhoeddi arweiniad i gyd-fynd â’r Cod ar wefan Ofcom a gaiff ei adolygu'n rheolaidd.

Dylai darlledwyr fod yn gyfarwydd â’u cynulleidfaoedd a sicrhau y gellir cyfiawnhau cynnwys rhaglenni bob amser ar sail cyd-destun ac anghenion golygyddol y rhaglen. (Yn y Cod, cymerir bod y gair ‘rhaglenni’ yn golygu rhaglenni teledu a rhaglenni radio, a rhaglenni sydd ar gael ar Wasanaeth Rhaglenni Ar-alw (ODPS) y BBC.)

Caiff darlledwyr wneud rhaglenni am unrhyw fater a ddewisant, ond disgwylir y bydd darlledwyr yn sicrhau bob amser fod eu rhaglenni’n cydymffurfio â’r gyfraith gyffredinol, yn ogystal â’r Cod.