Gorfodi


Yn unol â'r Siarter, mae’n rhaid i Ofcom fynnu bod y BBC yn cydymffurfio â gofynion penodedig. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion o ran cystadleuaeth, safonau cynnwys mewn perthynas â rhaglenni'r BBC a gofynion eraill a nodir yn y Cytundeb.

Efallai y bydd Ofcom yn ystyried cwynion mewn perthynas â chydymffurfiad y BBC â’r gofynion hyn, ac yn cynnal ymchwiliadau lle y bo’n ystyried bod hynny’n briodol. Hefyd, efallai y byddwn yn rhoi sancsiynau penodol ar y BBC os na fydd yn cydymffurfio â’r gofynion hyn.

Yn unol â’r Cytundeb, mae’n ofynnol arnom i bennu gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion ac ymchwiliadau.