Twrnamaint Rowndiau Terfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2023

04 Medi 2023

Mae Ofcom wedi rhoi ei gydsyniad i gais gan ITV i ddarparu darllediadau byw ecsgliwsif o Dwrnamaint Rowndiau Terfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2023 ("Cwpan Rygbi'r Byd 2023").

Fe wnaethom ymgynghori rhwng 26 Gorffennaf a 23 Awst 2023 ar gais ITV am ganiatâd i ddarparu darllediadau byw ecsgliwsif o Gwpan Rygbi'r Byd 2023, sy'n cael ei gynnal yn Ffrainc rhwng 8 Medi a 28 Hydref 2023.

Mae Rownd Derfynol Cwpan Rygbi'r Byd wedi'i dynodi'n ddigwyddiad rhestredig Grŵp A. Mae holl gemau eraill y twrnamaint wedi’u dynodi’n ddigwyddiadau rhestredig Grŵp B. O dan Ddeddf Darlledu 1996, rhaid cael caniatâd Ofcom i ddarparu darllediadau byw ecsgliwsif o ddigwyddiadau rhestredig Grŵp A a Grŵp B.

Mae ITV yn bwriadu darparu darllediadau byw llawn o Rownd Derfynol Cwpan Rygbi'r Byd ar ITV1 ac ar draws rhwydwaith Channel 3, gan gynnwys STV. Fel y nodir yn yr amserlen deledu a gyhoeddir ar wefan ITV, o’r 47 gêm arall yn y twrnamaint, mae ITV yn bwriadu darparu darllediadau byw llawn o 38 gêm ar ITV1 (ac ar draws rhwydwaith Channel 3, gan gynnwys STV), a 9 gêm ar ITV3 neu ITV4. (Mae ITV hefyd yn bwriadu sicrhau bod uchafbwyntiau ar gael ar gyfer pob gêm, gan gynnwys y Rownd Derfynol, ar ITVX.)

Eglurodd ein hymgynghoriad ein bod yn bwriadu rhoi caniatâd i ITV, a nododd ein barn dros dro bod darlledwyr gwasanaethau "sy’n cymhwyso" a gwasanaethau “nad ydynt yn cymhwyso" (at ddibenion y drefn digwyddiadau rhestredig) wedi cael cyfle i gaffael yr hawliau i ddarparu darllediadau byw o Gwpan Rygbi'r Byd 2023 ar delerau teg a rhesymol.

Cawsom un ymateb i'r ymgynghoriad gan unigolyn, a oedd yn nodi eu bod o blaid cais arfaethedig ITV i ddarparu darllediadau ecsgliwsif.

Rydym felly wedi penderfynu rhoi caniatâd i gais ITV i ddarparu darllediadau byw ecsgliwsif o Gwpan Rygbi'r Byd 2023, gan nodi bod y cynlluniau darlledu’n sicrhau bod y Rownd Derfynol a phob gêm arall yn y twrnamaint ar gael i'w gweld yn fyw ac am ddim gan gynulleidfaoedd ledled y DU.