Ryder Cup 2023


Mae Ofcom wedi rhoi ei gydsyniad i gais gan Sky i ddarparu darllediadau byw ecsgliwsif o Gwpan Ryder 2023.

Mae cystadleuaeth Cwpan Ryder yn cael ei chynnal yn yr Eidal rhwng 25 Medi a 1 Hydref 2023. Mae Sky yn bwriadu darparu darllediadau byw o Gwpan Ryder ar ei sianeli Sky Sports. Mae’r BBC wedi caffael hawliau darlledu eilaidd ac yn bwriadu dangos uchafbwyntiau dyddiol o Gwpan Ryder ar BBC One neu BBC Two. Mae gan y BBC hawliau radio cenedlaethol hefyd ac mae’n bwriadu darparu darllediadau radio byw ar orsaf sy’n darparu darllediadau cenedlaethol.

Mae Cwpan Ryder yn ddigwyddiad rhestredig Grŵp B at ddibenion Deddf Darlledu 1996 (“y Ddeddf”). Mae angen cydsyniad Ofcom i ddarparu darllediadau teledu byw ecsgliwsif o’r digwyddiad o dan adran 101 o’r Ddeddf.

Fodd bynnag, pan fydd ail ddarlledwr sy’n darparu gwasanaeth yng nghategori arall y gwasanaeth(au) lle mae’r darlledu byw yn digwydd yn darparu darllediadau eilaidd digonol o ddigwyddiad rhestredig Grŵp B, ac mae hawliau i ddarparu darllediadau radio cenedlaethol byw wedi’u caffael hefyd, yna gall Ofcom ganiatáu cydsyniad ‘awtomatig’ i ddarlledu, heb ymgynghori. Gweler paragraffau 1.18 i 1.21 o God Ofcom ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill sy’n darparu gwybodaeth bellach am yr hyn sy’n diffinio darllediadau eilaidd digonol. Yn yr achos hwn, mae sianeli chwaraeon Sky Sports Sky yn “wasanaethau nad ydynt yn cymhwyso” at ddibenion y Ddeddf, tra bod BBC One a BBC Two yn “wasanaethau sy’n cymhwyso”.

Wedi ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan Sky, a gwybodaeth atodol a ddaeth i law gan y BBC, mae Ofcom yn fodlon bod darpariaeth ddigonol wedi’i gwneud ar gyfer darllediadau eilaidd a darllediadau radio fel y nodir uchod, ac wedi penderfynu caniatáu cydsyniad awtomatig i gais Sky.