Dyfarnu grantiau 2021-22 Rownd 2

17 Chwefror 2022

Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom ('y Panel') ddydd Gwener 4 Chwefror 2022 i ystyried ceisiadau yn yr ail rownd gyllido ar gyfer 2021-22.

Bu i'r Panel ystyried pob cais a dyfarnu cyllid yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd, a chan gyfeirio at nodiadau arweiniad y Gronfa Radio Cymunedol ('y Gronfa'). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid o gwbl.

Yn y cyfarfod:

  • ystyriwyd 69 o geisiadau am grant
  • y cyfanswm cyllid y gofynnwyd amdano yn y ceisiadau hyn oedd £1,029,650
  • dyfarnwyd grantiau i 26 o ymgeiswyr, cyfanswm o £390,689 ac
  • ni ddyfarnwyd grant i 43 o ymgeiswyr.

Amrywiodd y grantiau a ddyfarnwyd o £6,384 hyd at £22,166 ar gyfer swyddi unigol, gyda swm cyfartalog o £15,027. Ceir crynodeb o'r dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad hwn.