Adroddiad gwasanaethau mynediad teledu ar gyfer chwe mis cyntaf 2023

23 Hydref 2023

Mae'r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau roedd sianeli teledu a ddarlledir yn cario isdeitlau, disgrifiadau sain a/neu iaith arwyddion (sef, at ei gilydd, "gwasanaethau mynediad") rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2023.

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae'n ofynnol i sianeli teledu a ddarlledir wneud cyfran benodol o'u rhaglenni yn hygyrch; mae'r Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu yn nodi'r rhwymedigaethau hyn.

Caiff y cwotâu blynyddol eu cyfrifo ar sail blwyddyn galendr, ac rydym yn disgwyl y bydd yr holl sianeli wedi cyflawni’r cwotâu hyn erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae Ofcom yn falch o weld nifer cynyddol o sianeli bellach yn darparu isdeitlo ar eu holl raglenni bron (dros 98%) rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2023. Ar gyfer 2023 roedd hyn yn 53 sianel, o gymharu â 40 yn yr un cyfnod y llynedd.

Mae gan sianeli domestig sydd â chyfran o’r gynulleidfa o rhwng 0.05% ac 1% yr opsiwn naill ai i ddarlledu 75 munud o raglenni a gyflwynir gydag arwyddion bob mis neu gymryd rhan mewn trefniadau amgen a gymeradwyir gan Ofcom sy'n cyfrannu at argaeledd rhaglenni a gyflwynir gydag arwyddion.

Lle nodir "BSLBT Contribution" yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y darlledwr wedi cyfrannu at Ymddiriedolaeth Ddarlledu Iaith Arwyddion Prydain (BSLBT), sy'n comisiynu rhaglenni a gyflwynir gydag arwyddion ac a ddarlledir ar sianeli Film4 a Together.

Lle nodir "Exempt" yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y sianeli hyn wedi'u heithrio rhag darparu disgrifiad sain. Mae hyn oherwydd natur y cynnwys sy'n cael ei ddarlledu ar y gwasanaethau hyn sy'n golygu nad oes llawer o le o fewn y deunydd sain i ddarparu disgrifiadau sain.

Fel yn adroddiad canol blwyddyn y llynedd, ni fyddwn yn adrodd ar hygyrchedd gwasanaethau rhaglenni ar-alw ("ODPS") ar hyn o bryd a byddwn yn cyhoeddi data ar gyfer blwyddyn gyfan 2023 yng Ngwanwyn 2024.

Adroddiad rhyngweithiol

Rydym wedi darparu'r adroddiad hwn mewn fformat rhyngweithiol fel y gallwch gymharu hygyrchedd gwasanaethau darlledu ac ar-alw ar draws amrywiaeth o lwyfannau.

Am y profiad gorau, ehangwch i'r sgrin lawn (cliciwch ar y botwm yn y gornel dde isaf).

Noder bod yr isod yn Saesneg yn unig.

Mae'r set ddata lawn hefyd ar gael i'w lawrlwytho mewn fformat CSV (Saesneg yn unig).

Os oes gennych ofynion hygyrchedd nad ydynt wedi'u diwallu gan y cyhoeddiadau hyn, ac os hoffech ofyn am yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol, gallwch anfon e-bost accessibility@ofcom.org.uk neu ffonio ein Tîm Cymorth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333.

Os ydych chi'n fyddar neu â nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef 020 7981 3043 neu 0300 123 2024.