Rhaglen gorfodi telerau amrywio prisiau mewn-contract

1 December 2022

Ar gau

Gwybodaeth am y rhaglen Telerau amrywio prisiau ffôn (llinell sefydlog a symudol) a band eang preswyl mewn-contract ar gyfer contractau yr ymrwymwyd iddynt rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022.
Achos wedi’i agor 1 December 2022
Case closed 12 December 2023
Crynodeb

Bydd y rhaglen orfodi hon yn archwilio a fu i ddarparwyr ffôn a band eang wneud telerau amrywio prisiau mewn-contract yn amlwg ac yn dryloyw i gwsmeriaid ar yr adeg y gwnaethant ymrwymo i'w contract. Byddwn yn edrych ar gontractau yr ymrwymwyd iddynt rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022, pan gyflwynwyd gofynion ac arweiniad gwybodaeth gontract newydd.

Byddwn yn cywain gwybodaeth i asesu'r camau a gymerwyd gan ddarparwyr i wneud y telerau hyn yn amlwg ac yn dryloyw. Bydd y rhaglen yn ystyried a yw'r rhain yn codi materion cydymffurfio o dan yr Amodau Cyffredinol perthnasol, i benderfynu a oes angen unrhyw gamau pellach, gan gynnwys gorfodi.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Amodau Cyffredinol mewn grym rhwng 1 Mawrth 2021 a 16 Mehefin 2022, yn benodol C1.14 i C1.17 (C1.6 i C1.9 yn flaenorol).

Heddiw, rydym yn cau ein rhaglen orfodi i amlygrwydd a thryloywder telerau amrywio prisiau mewn contractau sydd wedi'u cynnwys mewn contractau ffôn preswyl (llinell sefydlog a symudol) a chontractau defnyddwyr band eang, yr ymrwymwyd iddynt rhwng 1 Mawrth 2021 ac 16 Mehefin 2022.

Rydym wedi derbyn gwybodaeth gan ystod o ddarparwyr cyfathrebu i archwilio a oeddent yn cydymffurfio â'r Amodau Cyffredinol perthnasol oedd mewn grym ar y pryd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • a oedd darparwyr wedi gwneud eu telerau amrywio prisiau'n ddigon amlwg a thryloyw i gwsmeriaid ar yr adeg y gwnaethant gytuno i'r pris; ac
  • Os nad oeddent, p'un a oedd darparwyr wedi rhoi o leiaf mis o rybudd i gwsmeriaid a'r hawl i adael eu contract yn ddi-dâl, cyn gweithredu cynnydd mewn prisiau.

Canfyddiadau

Ym mron pob achos, nododd darparwyr y term amrywio prisiau ar ryw adeg yn ystod gwerthiannau ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod perthnasol. Roedd faint o wybodaeth a roddwyd am y term a'r ffordd y cafodd ei gyflwyno yn amrywio o ddarparwr i ddarparwr, ond yn gyffredinol nododd darparwyr sut y byddai'r cynnydd mewn prisiau yn cael ei gyfrifo a phryd y byddai'n berthnasol, cyn i gwsmeriaid gytuno i'r pris.

Nid yw nodi'r teler amrywio prisiau yn ystod taith werthu, ar ei ben ei hun, yn golygu bod teler wedi'i wneud yn ddigon amlwg a thryloyw. Trwy gydol y rhaglen hon, gwnaethom nodi sawl ffordd y gallai darparwyr fod wedi cyfathrebu eu teler amrywio prisiau yn gliriach i'w cwsmeriaid. Er nad oeddem o'r farn bod angen ymchwilio pellach i'r materion hyn, rydym wedi rhannu ein canfyddiadau â'r darparwyr perthnasol ac wedi eu hannog yn gryf i adolygu eu telerau ac amodau presennol a'u teithiau gwerthu i ystyried a ellir gwneud unrhyw welliannau.

Mewn nifer fach o achosion, mae'n bosib na wnaeth darparwyr roi digon o wybodaeth i gwsmeriaid am y teler amrywio prisiau yn ystod rhai teithiau gwerthu na mis o rybudd i'r cwsmeriaid hynny a'r hawl i adael eu contract yn ddi-dâl cyn gweithredu'r cynnydd mewn prisiau, gan arwain at bryderon cydymffurfio posibl o dan yr Amodau Cyffredinol perthnasol. O ganlyniad i ymgysylltu'n anffurfiol â'r pryderon hyn, rydym wedi sicrhau rhywfaint o weithredu adferol, gan gynnwys ad-daliadau i rai cwsmeriaid yr effeithir arnynt. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â darparwyr ynghylch unrhyw bryderon gweddilliol, gan symud i gamau gorfodi ar wahân wedi'u targedu os oes angen.

Edrych tua'r dyfodol

Rydym bellach yn cau'r rhaglen orfodi hon, sydd wedi bod yn edrych ar gydymffurfiaeth darparwyr â'r rheolau a oedd mewn grym rhwng 1 Mawrth 2021 ac 16 Mehefin 2022. Newidiodd y rheolau ar 17 Mehefin 2022 ac mae'n ofynnol bellach i ddarparwyr cyfathrebu roi gwybodaeth berthnasol i gwsmeriaid a dogfennau contract cryno, sy'n cynnwys gwybodaeth allweddol am y cynhyrchion neu'r gwasanaethau sydd ar gael, cyn i'r cwsmer ymrwymo i gontract.

Mae Ofcom bellach yn ymgynghori ar reolau ac arweiniad newydd sy'n gwahardd codi prisiau'n unol â chwyddiant yng nghanol contractau. Mae ein cynigion yn cynnwys gofynion newydd i ddarparwyr dynnu sylw cwsmeriaid, ar y pwynt gwerthu, at unrhyw gynnydd mewn prisiau sydd wedi'i ymgorffori mewn contractau. Rydym yn annog unrhyw bartïon sydd â diddordeb i ymgysylltu â'r ymgynghoriad hwn.


Cyswllt Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)
Cyfeirnod yr achos CW/01264/11/22