Datganiad: Newidiadau i ofynion adrodd am reoleiddio'r Post Brenhinol
- Dechrau: 20 Medi 2022
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 01 Tachwedd 2022
Mae Ofcom eisiau i bobl gael mynediad at wasanaethau post syml, fforddiadwy a dibynadwy sy'n diwallu eu hanghenion.
Ym mis Gorffennaf 2022, bu i ni gyhoeddi ein datganiad adolygiad o reoleiddio'r post. Roedd hyn yn cynnwys penderfyniad i gryfhau ein cyfundrefn fonitro i sicrhau bod y gwasanaeth post cyffredinol yn gynaliadwy ac yn effeithlon.
Bydd yn ofynnol yn awr i'r Post Brenhinol gyflwyno trosolwg blynyddol o gynaladwyedd ariannol y gwasanaeth cyffredinol dros gyfnod o bum mlynedd. Bydd hefyd yn ofynnol iddo ddarparu rhagolwg manwl o effeithlonrwydd bob pum mlynedd; ac i gyhoeddi dau fesur o'i ddisgwyliadau o ran effeithlonrwydd o'r rhagolwg hwnnw. Bydd yn ofynnol iddo adrodd ar gynnydd yn erbyn y disgwyliadau hynny ar sail flynyddol.
Bu i ni ymgynghori ar ein cynigion manwl ar gyfer y rhagolygon hyn a'r adrodd blynyddol, ac mae'r datganiad hwn yn cadarnhau nhw. Bydd y newidiadau i'r gofynion adrodd yn dod i rym ar ddechrau blwyddyn ariannol 2023/24.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
CCNI (PDF File, 530.2 KB) | Sefydliad |
GCA (PDF File, 248.7 KB) | Sefydliad |
Royal Mail (PDF File, 545.0 KB) | Sefydliad |