26 Tachwedd 2020

Diwallu anghenion defnyddwyr post mewn oes ddigidol

  • Mae angen i’r Post Brenhinol fod yn fwy effeithlon a moderneiddio ei rwydwaith parseli
  • Mae ymchwil newydd gan Ofcom yn taflu goleuni ar newidiadau mewn agweddau at wasanaethau post
  • Byddai dim ond danfon llythyrau bum niwrnod yr wythnos yn dal i ddiwallu anghenion pawb a bob busnes bron
  • Ond ni fyddai newid dim ond y gofynion danfon yn cynnal y gwasanaeth cyffredinol yn y tymor hir

Mae Ofcom yn galw ar y Post Brenhinol i foderneiddio ei rwydwaith a dod yn fwy effeithlon, er mwyn cynnal y gwasanaeth cyffredinol a dal i fyny â newidiadau yn anghenion defnyddwyr post.

Mae’r farchnad bost wedi newid yn ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer y llythyrau mae pobl yn eu hanfon a’u derbyn wedi gostwng tua 5% bob blwyddyn ers 2015, wrth i bobl ddibynnu mwy a mwy ar e-bost a chyfathrebiadau ar-lein eraill.

Mae twf mewn siopa ar-lein wedi arwain at gynnydd cyffredinol yn nifer y parseli ar gyfradd o tua 10% y flwyddyn ers 2015. Ac mae’n ymddangos bod y tueddiadau hyn wedi cyflymu yn ystod pandemig y coronafeirws, gyda’r Post Brenhinol yn gweld cynnydd o 31% yn nifer y parseli yn y DU rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni.

Er bod y pandemig wedi gwneud 2020 yn flwyddyn arbennig o heriol i’r Post Brenhinol, roedd y problemau sy’n wynebu’r cwmni oherwydd newidiadau yn y farchnad ac ymddygiad defnyddwyr yn amlwg cyn i’r pandemig ddechrau cael effaith.

Dosbarthu parseli: Rhaid i’r Post Brenhinol foderneiddio a dod yn fwy effeithlon

Mae adroddiad monitro blynyddol Ofcom ar y farchnad bost yn cynnwys data a thueddiadau yn y sector post, ac mae’n edrych ar berfformiad y Post Brenhinol. Yn 2019/20, cafodd 2.8 biliwn o barseli eu hanfon a’u derbyn yn y DU – biliwn yn fwy nag yn 2013 – mewn marchnad sydd bellach werth dros £10bn o refeniw.

Mae ein dadansoddiad o effeithlonrwydd y Post Brenhinol yn dangos bod costau’r busnes sy’n gyfrifol am y gwasanaeth cyffredinol wedi cynyddu y llynedd. Methodd y cwmni â sicrhau enillion effeithlonrwydd na chyrraedd y targedau a osodwyd ganddo ar gyfer gwella cynhyrchiant.

Oni bai fod y Post Brenhinol yn gallu moderneiddio ei rwydwaith i addasu i newidiadau yn anghenion cwsmeriaid parseli, a gweithredu’n fwy effeithlon, gallai cynaliadwyedd y gwasanaeth cyffredinol fod mewn perygl yn y tymor hwy.

Danfon llythyrau: ydy’r gwasanaeth cyffredinol yn adlewyrchu anghenion defnyddwyr?

O dan ddeddfwriaeth, mae’r gwasanaeth post cyffredinol yn mynnu bod y Post Brenhinol yn danfon llythyrau chwe diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Sadwrn) a pharseli bum niwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener) i bob cyfeiriad yn y DU, am bris unffurf.

Gyda’r farchnad yn parhau i newid yn gyflym, mae Ofcom wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o anghenion defnyddwyr post ar draws y DU, i weld a yw gofynion danfon y Post Brenhinol yn adlewyrchu’r hyn sydd ei angen ar bobl a busnesau heddiw.[1]

Rydym wedi gofyn i bobl a busnesau sut maent yn teimlo am amrywiaeth o newidiadau damcaniaethol i’r gwasanaeth cyffredinol, i ganfod beth fyddai’n diwallu eu hanghenion. Dim ond y Llywodraeth a’r Senedd a allai wneud unrhyw newidiadau i ofynion sylfaenol y gwasanaeth cyffredinol, ond mae’r canfyddiadau’n rhoi cipolwg ar sut mae agweddau pobl at wasanaethau post wedi esblygu.[2]

Canfu ein hymchwil fod y gofyniad presennol i ddanfon llythyr chwe diwrnod yr wythnos yn diwallu anghenion 98% o ddefnyddwyr preswyl a 97% o fusnesau bach a chanolig yn y DU. Byddai lleihau hyn i bum diwrnod yr wythnos, ond gadael holl elfennau eraill y gwasanaeth fel y maen nhw ar hyn o bryd, yn dal i ddiwallu anghenion 97% o ddefnyddwyr preswyl a busnesau bach a chanolig.[3]

Mae hyn yn awgrymu y byddai lleihau amlder y gofyniad i ddanfon llythyrau i bum diwrnod yr wythnos, yn adlewyrchu anghenion rhesymol defnyddwyr. Byddai o bosibl yn caniatáu i’r Post Brenhinol wneud arbedion net o tua £125-225m y flwyddyn.

Fodd bynnag, mae’r Post Brenhinol yn dal i wynebu heriau ariannol sylweddol ac ni fyddai’r arbediad hwn ynddo’i hun yn ddigon i sicrhau cynaliadwyedd tymor hwy y gwasanaeth cyffredinol.

Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Ofcom: “Mae ein hymchwil yn awgrymu y byddai anghenion pobl yn dal i gael eu diwallu petai nifer y llythyrau sy’n cael eu danfon yn gostwng o chwe diwrnod yr wythnos i bump.

“Senedd y DU yn y pen draw fyddai’n penderfynu a oes angen y newid hwn. Fodd bynnag, rhaid i’r Post Brenhinol barhau i foderneiddio a dod yn fwy effeithlon, er mwyn cadw i fyny â newidiadau yn anghenion cwsmeriaid.”

Y camau nesaf

Rydym wedi ymchwilio i weld a yw gofynion sylfaenol y gwasanaeth cyffredinol yn adlewyrchu anghenion rhesymol defnyddwyr post. Llywodraeth y DU fyddai’n penderfynu a oes angen gwneud unrhyw newidiadau i’r gofynion sylfaenol hyn, ac yn cyflwyno unrhyw gynigion gerbron y Senedd.

Ar wahân, rydym yn adolygu’r fframwaith rheoleiddio post ar gyfer y dyfodol. Bydd yr adolygiad yn ystyried materion sy’n effeithio ar y sector post ehangach, wrth i ddibyniaeth pobl ar barseli barhau i gynyddu. Er enghraifft, byddwn yn edrych ar barhau â’r gofynion i’r Post Brenhinol ddarparu mynediad cyfanwerthol i’w rwydwaith, ac a oes angen rhagor o fesurau diogelu ar ddefnyddwyr yn y farchnad parseli. Byddwn yn ymgynghori ar y materion hyn y flwyddyn nesaf ac yn cwblhau’r adolygiad hwn yn 2022.

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Cafodd samplau cenedlaethol cynrychioliadol o 4,596 o oedolion yn y DU a 971 o fusnesau eu harolygu ddiwedd 2019. Ategwyd hyn gan grwpiau trafod ledled y DU. Yn dilyn hynny, cynhaliwyd arolwg gyda 2,366 o oedolion yn ystod haf 2020, i asesu i ba raddau y gallai safbwyntiau defnyddwyr fod wedi newid o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Mae ein hadolygiad wedi canolbwyntio ar ofynion sylfaenol y gwasanaeth cyffredinol, ond roeddem hefyd wedi gofyn am farn pobl am newidiadau damcaniaethol i nodweddion eraill. Roeddem wedi cynnal ein hadolygiad diwethaf o anghenion defnyddwyr post yn 2012/13.
  2. Mae Deddf Gwasanaethau Post 2011 yn nodi gofynion sylfaenol y gwasanaeth post cyffredinol a bod angen gallu darparu’r gwasanaeth hwnnw mewn ffordd gynaliadwy ac effeithlon yn ariannol. Gall Ofcom bennu nodweddion eraill y gwasanaeth cyffredinol, fel mynnu bod gwasanaeth dosbarth cyntaf ac ail ddosbarth ar gael, a gosod targedau gorfodadwy i’r Post Brenhinol er mwyn danfon cyfran benodol o eitemau ar amser bob blwyddyn. Nid ydym yn cynnig newid y nodweddion hyn.
  3. Ychydig iawn o amrywiad a welsom ym marn defnyddwyr ynghylch danfon llythyrau ar bum diwrnod ar draws y DU, gan gynnwys pedair gwlad y DU neu ba mor anghysbell yw lleoliadau defnyddwyr. Ychydig iawn o amrywiadau a gafwyd yn ôl nodweddion eraill hefyd, fel oedran, anabledd neu a oedd gan ddefnyddwyr fynediad i’r rhyngrwyd.

Related content