15 Rhagfyr 2020

Penodi Maggie Carver yn Gadeirydd dros dro Ofcom o fis Ionawr

Mae Llywodraeth y DU wedi penodi Maggie Carver yn Gadeirydd dros dro Ofcom o 1 Ionawr 2021, gan ddilyn ymadawiad ein Cadeirydd presennol Yr Arglwydd Burns ar ddiwedd y flwyddyn yma.

Bydd Maggie yn cadeirio Bwrdd Ofcom wrth i’r Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gwblhau’r dasg o benodi Cadeirydd parhaol.

Ar hyn o bryd mae Maggie yn Ddirprwy Gadeirydd Ofcom, swydd mae hi wedi’i dal ers ymuno â Bwrdd Ofcom ym mis Medi 2018.

Mae hi hefyd yn Gadeirydd y Racecourse Association ac yn Gyfarwyddwr y British Horseracing Authority. Mae gan Maggie brofiad helaeth fel cyfarwyddwr anweithredol ar fyrddau 18 o gwmnïau – cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw.

Mae’r rhain yn cynnwys cadeirio’r darparwr newyddion a rhaglenni ITN, y gweithredwr amlblecs SDN, a British Board of Film Classification. Bu Maggie hefyd yn gyfarwyddwr ar fyrddau Channel 5 Television, RDF Media plc, Satellite Information Services, darlledwr y lluoedd arfog BFBS, a British Waterways. Roedd ei gyrfa gweithredol mewn bancio buddsoddi, cynhyrchu teledu, darlledu a manwerthu.

Meddai Maggie Carver: “Rwy’n falch o fod yn cymryd drosodd fel Cadeirydd dros dro gan Terry Burns, sydd wedi gwneud gwaith anhygoel dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol iawn i’r diwydiannau cyfathrebiadau, ond maen nhw wedi dangos cydnerthedd mawr a phrofi eu pwysigrwydd wrth gadw’r cysylltiad â phobl.

“Er gwaetha’r holl newid ac aflonyddwch eleni, mae blaenoriaeth Ofcom yn parhau heb ei newid – sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb. Rwy’n edrych ymlaen at barhau â fy ngwaith gyda Bwrdd Ofcom, a chydweithwyr eraill, i fwrw ‘mlaen gyda’r gwaith hwnnw yn 2021. Mae hynny’n cynnwys paratoi ar gyfer ein rôl yn y dyfodol fel y rheoleiddiwr niwed ar-lein, y mae’r Llywodraeth wedi’i chadarnhau heddiw.”

Lindsey Fussell yn ymuno â Bwrdd Ofcom

Ar wahân, mae Ofcom wedi penodi Cyfarwyddwr y Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau Lindsey Fussell fel Aelod Gweithredol o’n Bwrdd. Mae Lindsey yn arwain ar waith Ofcom yn y sectorau telathrebu, post a rhwydweithiau, lle mae gennym y nod o warchod buddiannau defnyddwyr a hyrwyddo cystadleuaeth.

Cyn ymuno ag Ofcom ym mis Ebrill 2016, roedd Lindsey mewn amrywiaeth o rolau arweinyddiaeth uwch mewn cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Trysorlys EM, lle bu’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae hi’n ymuno ag aelodau gweithredol presennol y Bwrdd, y Prif Weithredwr Y Fonesig Melanie Dawes, a Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr y Grŵp Darlledu a Chynnwys Ar-lein.

Meddai’r Arglwydd Burns, Cadeirydd Ofcom: “Mae wedi bod yn fraint i mi arwain Bwrdd Ofcom dros y tair blynedd ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi gweld newidiadau digynsail yn ein sectorau telathrebu a darlledu ac maent wedi dangos eu pwysigrwydd hanfodol i bobl, busnesau ac economi’r DU.

“Wrth i Ofcom baratoi ar gyfer dyletswyddau newydd o gwmpas niwed ar-lein, mae’r sefydliad mewn dwylo diogel o dan arweinyddiaeth Maggie, ein Cadeirydd dros dro newydd, a’n Prif Weithredwr Melanie Dawes. Mae’n bleser mawr hefyd gennyf ychwanegu profiad Lindsey Fussell at y Bwrdd ar gyfer y dyfodol hefyd.”

Penodi Martin Ballantyne yn Gwnsler Cyffredinol

Mae Ofcom hefyd wedi penodi Martin Ballantyne fel Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr y Grŵp Cyfreithiol newydd ar ôl proses gystadleuol.

Bu Martin yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol yn Ofcom ers 2011. Cyn hynny, gweithiodd Martin fel cyfreithiwr cystadleuaeth gyda Macfarlanes. Roedd Martin wedi gwasanaethu fel Cwnsler Cyffredinol dros dro yn sgil ymadawiad Polly Weitzman. Yn dilyn ei benodiad parhaol, fe fydd yn parhau i ddarparu cyngor ar gyfer yr holl feysydd polisi o fewn Ofcom, yn ogystal â goruchwylio cyfreithiad pan fydd her i’n penderfyniadau yn y llysoedd.

Related content