15 Rhagfyr 2020

Ofcom yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar reoleiddio niwed ar-lein

Dywedodd Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: 

“Rydym yn falch iawn o ymgymryd â’r rôl newydd hon, a fydd yn adeiladu ar ein profiad fel rheoleiddiwr y cyfryngau. Mae bod ar-lein yn ildio buddion enfawr, ond mae gan bedwar o bob pump o bobl bryderon amdano. Mae hynny’n dangos bod angen rheolau synhwyrol a chytbwys sy’n gwarchod defnyddwyr rhag niwed difrifol, ond sydd hefyd yn cydnabod y pethau gwych am fywyd ar-lein, gan gynnwys mynegiant rhydd. Rydym wrthi’n paratoi ar gyfer y dasg trwy gaffael sgiliau technoleg a data newydd, a byddwn yn cydweithio â Senedd y DU wrth iddi gwblhau'r cynlluniau.”

Related content