17 Rhagfyr 2020

Mae gan dros chwarter miliwn o gartrefi yng Nghymru fynediad at fand eang ffeibr-llawn

  • Mae ffigurau newydd yn datgelu darpariaeth symudol a band eang yng Nghymru
  • Mae bron i un cartref o bob pump yn gallu cael cysylltiadau ffeibr llawn – sy’n cynnig rhyngrwyd dibynadwy sy’n addas ar gyfer y dyfodol
  • Mae’r rhwydweithiau’n dal yn gadarn er gwaethaf y cynnydd yn y galw yn ystod y cyfnod clo

Mae Ofcom wedi canfod bod dros chwarter miliwn o gartrefi yng Nghymru nawr yn gallu cael mynediad at fand eang ffeibr llawn – cysylltiadau cyflym a dibynadwy sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Daw’r canfyddiad hwn o adroddiad blynyddol Cysylltu'r Gwledydd Ofcom sy’n dadansoddi’r gwasanaethau band eang a symudol sydd ar gael ledled y DU a’i gwledydd.

Daw adroddiad eleni wrth i filiynau o bobl barhau i weithio gartref o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, sydd wedi gweld newid sylweddol o ran pryd, ble a sut mae pobl yn mynd ar-lein ac yn gwneud galwadau.

Mae band eang ffeibr llawn yn gallu rhedeg ar gyflymder o hyd at 1 Gbit yr eiliad, sawl gwaith yn gyflymach na chyflymder band eang cyfartalog y DU heddiw. Gall y cysylltiad cyflymach hwn gefnogi aelwydydd sydd eisiau ffrydio, gweithio ac astudio ar-lein yn well – i gyd ar yr un pryd. Gallwch lwytho pennod o’ch hoff sioe i lawr mewn ychydig eiliadau, a gall chwaraewyr gemau fwynhau profiad gwell gydag ymatebion bron yn syth ar y sgrin.

Mae ffeibr llawn yn cyrraedd dros chwarter miliwn o gartrefi

Mae’r darlun hwn yn dangos darpariaeth band eang cyfradd-gigadid a darpariaeth band eang ffeibr-llawn ar draws y DU. Yng Nghymru, mae 19% yn gallu cael ffeibr llawn a 19% band eang ar gyfradd gigadid. Yn Lloegr, mae 16% yn gallu cael ffeibr llawn a 25% band eang ar gyfradd gigadid. Yng Ngogledd Iwerddon, mae 56% yn gallu cael ffeibr llawn a 56% ar gyfradd gigadid.

Band eang ffeibr llawn, sy’n defnyddio cysylltiadau ffeibr optig yr holl ffordd i’ch cartref – gan ddisodli’r gwifrau copr degawdau oed a osodwyd ar gyfer y rhwydwaith ffôn yn wreiddiol ac sy’n fwy tebygol o gael eu heffeithio yn ystod cyfnodau brig a thywydd garw.

Mae adroddiad heddiw yn dangos bod band eang ffeibr llawn bellach ar gael i 265,400 o gartrefi yng Nghymru (19%) sy’n gynnydd o 7 pwynt canran ers y llynedd ac 1% yn uwch na chyfartaledd y DU. Mae argaeledd yn y DU ar ei uchaf yng Ngogledd Iwerddon (56%).

Ers cwblhau prosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru a BT, a oedd yn defnyddio technoleg ffeibr i’r cabinet yn bennaf i gartrefi a busnesau, mae Openreach wedi dechrau cyflwyno gwasanaethau ffeibr i’r cartref i rai o’r ardaloedd anoddaf eu cyrraedd yng Nghymru. Ymhlith y datblygiadau diweddar mae pentref Llanymawddwy yng Ngwynedd, Paradwys yn Ynys Môn a Llancarfan ym Mro Morgannwg.

Un o brif fanteision ffeibr llawn dros dechnolegau hŷn yw ei ddibynadwyedd uwch. Mae hyn yn bwysig, gan fod cartrefi sy’n chwilio am ddata yn y DU yn defnyddio 429 gigabeit (GB) o ddata ar gyfartaledd bob mis yn 2020 – cynnydd o 36% ers y llynedd (315GB), a 225% o bedair blynedd yn ôl (132GB yn 2016).

Mae buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau ffeibr yn hanfodol i sicrhau bod rhwydweithiau Cymru yn gallu ymdopi â’r galw cynyddol hwn. Mae Ofcom wedi cyflwyno cynigion i hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad ychwanegol mewn ffeibr llawn, a byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol ym mis Mawrth.

Dywedodd Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: “Mae’r cyfnod clo wedi dangos i bawb pa mor hanfodol bwysig yw band eang cyflym a dibynadwy i deuluoedd a busnesau ledled Cymru. Mae’n galonogol bod argaeledd ffeibr llawn yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU, ond yr her fydd cynnal momentwm wrth i fand eang ffeibr llawn gynyddu ledled y DU.”

“Byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraethau, diwydiant ac eraill ledled Cymru a’r DU i gefnogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau a helpu i ddod â gwell gwasanaethau i bobl ac i fusnesau yng Nghymru.”

Cael pawb wedi cysylltu

Mae’r map hwn yn dangos bod band eang cyflym iawn ar gael i 94% o gartrefi yng Nghymru. Mae gan 19% ffeibr llawn ac mae gan 19% gysylltiad ar gyfradd gigadid. Ni all 1.2% dderbyn band eang digonol.

Mae'r mwyafrif helaeth (94%) o gartrefi yng Nghymru bellach yn gallu cael band eang cyflym iawn, sy'n darparu cyflymder llwytho i lawr o 30Mbit yr eiliad o leiaf ac sy'n diwallu anghenion presennol y rhan fwyaf o gartrefi. Ond mewn ardaloedd gwledig, mae hyn yn gostwng i 78%.

Ac mae 1.2% o eiddo yng Nghymru (tua 18,000) yn dal yn methu cael band eang ‘digonol’ – sy’n cael ei ddiffinio fel cynnig cyflymder llwytho i lawr o 10 Mbit yr eiliad a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr eiliad. Ers yn gynharach eleni, mae rhai pobl yn gallu cael help i gysylltu o dan wasanaeth band eang cyffredinol Llywodraeth y DU. Gwneir ceisiadau am y cysylltiadau hyn i BT a KCOM, a fydd yn asesu cymhwysedd eiddo ar gyfer y cynllun.

Mae adroddiad eleni hefyd yn tynnu sylw at y rôl bwysig a chwaraeir gan gwmnïau sy’n defnyddio technoleg Mynediad Di-wifr Sefydlog i ddarparu band eang yng Nghymru. Mae hyn yn caniatáu i eiddo sydd o fewn golwg mast gael gwasanaethau band eang drwy ddysgl microdon. Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi darparu’r gwasanaethau hyn ers blynyddoedd lawer, ond maent bellach yn cael eu cynnig gan dri o’r pedwar cwmni rhwydwaith symudol.

Cyflwyno 5G yn parhau

Mae holl weithredwyr rhwydweithiau symudol y DU wedi parhau i gyflwyno darpariaeth 5G newydd eleni, gyda thua 3,000 o drosglwyddyddion 5G bellach mewn lleoliadau ar draws y pedair gwlad – deg gwaith cymaint â’r llynedd.

Rydym yn amcangyfrif bod gwasanaethau 4G ar gael gan y pedwar rhwydwaith ar draws 60% o dirfas Cymru a dan do mewn 73% o eiddo. Yng Nghymru wledig, mae’r ffigurau’n gostwng i 57% a 43% yn y drefn honno ar gyfer 97.5% o eiddo’r DU. Ac er bod pobl yn gallu cael signal 4G gan o leiaf un rhwydwaith ar draws y rhan fwyaf o Gymru, mae ardaloedd sy’n cynnwys 10% o dirfas Cymru yn dal yn ‘fannau di-gyswllt’, heb unrhyw rwydwaith symudol ar gael.

Yn gynharach eleni, cytunodd y diwydiant symudol a Llywodraeth y DU i ddatblygu’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir, sy’n ceisio gwella darpariaeth 4G a helpu i fynd i’r afael â mannau di-gyswllt symudol. Bydd Ofcom yn monitro ac yn adrodd ar gynnydd y rhaglen ar y cyd yn adroddiadau Cysylltu’r Gwledydd y dyfodol.

Mae’r rhwydweithiau cyfathrebu’n gadarn

Mae llawer o alw wedi bod am rwydweithiau band eang a symudol drwy gydol y flwyddyn, gyda’r coronafeirws yn arwain at newidiadau mawr ym mhatrymau defnyddio pobl.

Roedd traffig yn ystod y dydd ar fand eang yn y cartref wedi cynyddu’n sylweddol wrth i lawer o bobl weithio gartref. Er bod rhwydweithiau symudol wedi gweld lefelau uwch nag erioed o draffig llais yn ystod y cyfnod clo cyntaf ledled y DU.

Mae gwasanaethau band eang a symudol wedi aros yn gadarn wrth i rwydweithiau roi mesurau ar waith i gynyddu capasiti a rheoli’r galw ychwanegol hwn. Mae ein data’n dangos bod nifer y problemau diogelwch a chadernid rhwydweithiau – gan gynnwys cyfnodau segur – y rhoddwyd gwybod i ni eu bod yn weddol debyg i’r blynyddoedd diwethaf, sy’n awgrymu bod y rhwydweithiau wedi ymdopi’n dda ar y cyfan yn ystod cyfnodau clo’r coronafeirws.

Ochr yn ochr â’r adroddiad Cysylltu’r Gwledydd ledled y DU, rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar sut mae gwasanaethau symudol a band eang yn cymharu ym mhob un o wledydd y DU.

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae fersiwn ryngweithiol o'r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw hefyd, yn galluogi pobl i weld sut mae’r ddarpariaeth yn cymharu yn eu hardal.
  2. Roedd Cerdyn Sgorio Band Eang Rhyngwladol yn cymharu argaeledd band eang a’r nifer sy’n ei ddefnyddio ar draws 17 gwlad wahanol.
  3. Er gwaethaf y cynnydd mewn traffig band eang yn ystod y dydd, arhosodd y defnydd uchaf gyda’r nos.

Related content