8 Rhagfyr 2020

Darlledu traddodiadol yn y DU mewn perygl heb ad-drefnu radical, yn ôl rhybudd gan Ofcom

  • Angen cyfreithiau a rheolau newydd er mwyn i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus oroesi yn y byd ar-lein
  • Rhaid i PSBs greu partneriaethau newydd i gystadlu'n well
  • Gellid ymestyn cylch gwaith gwasanaethau cyhoeddus i wneuthurwyr cynnwys ychwanegol

Mae darlledu traddodiadol yn y DU sydd wedi’i gynllunio i wasanaethu'r cyhoedd yn annhebygol o oroesi yn y byd ar-lein, oni bai bod cyfreithiau a rheoleiddio darlledu'n cael eu hailwampio, a bod darlledwyr yn trawsnewid yn gyflymach ar gyfer yr oes ddigidol.

Daw'r canfyddiad o Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr – adolygiad Ofcom o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB). Rydym yn ymchwilio i sut i gryfhau a chynnal y sefydliad diwylliannol ac economaidd gwerthfawr hwn dros y ddeng mlynedd nesaf a’r tu hwnt, yn wyneb newidiadau digynsail i dechnoleg, cyllido ac ymddygiad gwylwyr.

Mae Ofcom wedi siarad â chynulleidfaoedd o bob oedran a chefndir ym mhob cwr o’r DU. Rydym hefyd wedi cyfarfod â mwy na 70 o randdeiliaid, gan gynnwys darlledwyr, gwasanaethau ffrydio, academyddion a dadansoddwyr yn y DU a thramor.

Dyma ein prif ganfyddiadau, sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.

Sefydliad gwerthfawr sy'n wynebu heriau tyngedfennol

  • Mae cynnwys gwasanaethau cyhoeddus yn dal i fod yn bwysig iawn i bobl a chymdeithas. Mae pobl yn nodi mai newyddion dibynadwy a chywir yw'r agwedd bwysicaf ar gyfryngau gwasanaethau cyhoeddus. Mae mwy na saith o bob 10 o wylwyr yn ystyried bod newyddion rhanbarthol yn bwysig. Mae gwylwyr o bob oedran a chefndir yn gwerthfawrogi gallu’r PSBs i ddod â chymdeithas at ei gilydd, drwy ddarllediadau o ddigwyddiadau a rhaglenni y mae miliynau yn eu gwylio. Maent yn gwerthfawrogi cynnwys PSB sy’n cael ei wneud am y DU, ac yn ymfalchïo mewn gweld eu hardal eu hunain ar y sgrin.[1]

    Mae cynulleidfaoedd hefyd yn gwerthfawrogi cynnwys gwasanaeth cyhoeddus nad yw'r farchnad yn debygol o'i ddarparu. Y tu hwnt i'r PSBs, dim ond ychydig iawn o ddarlledwyr sy'n gwneud rhaglenni plant, addysg ffurfiol a chrefyddol gwreiddiol yn y DU, yn benodol ar gyfer y DU.

  • Mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ategu economi greadigol y DU. Maent yn gwario bron i £3 biliwn bob blwyddyn, gan sicrhau cryfder parhaus sector cynhyrchu'r DU, sy'n cael ei gydnabod a'i edmygu'n fyd-eang. Mae'r system yn cefnogi gweithlu medrus iawn ac yn helpu i ddatblygu doniau newydd, gan alluogi busnesau llwyddiannus i dyfu.

    Mae llwyddiant sector cyfryngau'r DU hefyd wedi'i ysgogi gan arloesedd a buddsoddiad gan y sector preifat. Mae cwmnïau fel Sky a Discovery yn gweithredu y tu allan i'r system PSB, gan gomisiynu ac yn cynhyrchu ystod eang o gynnwys o ansawdd uchel yn y DU, gan gynnwys newyddion, rhaglenni dogfen a chelfyddydau; ac maent yn buddsoddi mewn technoleg newydd sydd o fudd i wylwyr a'r farchnad.

  • Ond mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar adeg dyngedfennol. Mae cynulleidfaoedd yn troi fwyfwy oddi wrth y sianeli Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus traddodiadol – y BBC, ITV, STV, Channel 4, S4C a Channel 5 – o blaid ffrydio byd-eang a gwasanaethau ar-lein sy'n cynnig llyfrgelloedd enfawr a chynnwys wedi’i bersonoli. Y llynedd, dim ond 38% o wylio 16-34 oed (a 67% ymhlith yr holl oedolion) oedd yn gwylio cynnwys darlledu traddodiadol[2]. Dywed dau o bob pump o wylwyr y gallant ddychmygu peidio â gwylio teledu a ddarlledir o gwbl ymhen pum mlynedd.

    Hefyd, mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu bygythiad ariannol triphlyg o ostyngiadau mewn refeniw hysbysebu; costau tyfu gwasanaethau digidol tra'n cynnal y rhai traddodiadol; a'r pandemig coronafeirws, sydd wedi codi costau a chyflymu’r symudiad ymysg gwylwyr i lwyfannau ar-lein.

Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol

Er mwyn helpu i ddiogelu'r manteision hanfodol hyn, mae Ofcom wedi defnyddio cyfoeth o ymchwil a thystiolaeth i nodi sut y gall darlledu gwasanaeth cyhoeddus aros yn berthnasol a chyrraedd pawb yn y dyfodol:

  • Rhaid ailwampio cyfreithiau a rheoleiddio. Mae'r rheolau a'r cyfreithiau sy'n ymwneud â darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dyddio i raddau helaeth o ddyddiau cynnar y rhyngrwyd – ac maent yn parhau i ganolbwyntio ar ddarlledu traddodiadol. Heb newidiadau radical a fydd yn cefnogi PSBs i symud o ddarlledu traddodiadol i fod ar-lein, gallai’r heriau sy'n eu hwynebu fynd yn ddifrifol.

    Mae Ofcom yn galw am fframwaith newydd i bennu nodau clir ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gyda mwy o ddewis ynghylch sut y maent yn eu cyflawni, a chwotâu i ddiogelu meysydd hanfodol fel newyddion. Dylai fod yn ofynnol i gwmnïau ddisgrifio eu cynlluniau, eu mesur ac adrodd arnynt, gydag Ofcom yn eu dwyn i gyfrif.

    Rydym hefyd yn gwahodd sylwadau ar newidiadau i reolau a fydd yn sicrhau y caiff cynnwys PSB ei gario ar wahanol lwyfannau ar-lein. Yn y Flwyddyn Newydd byddwn yn lansio adolygiad o sut mae diwydiant cynhyrchu'r DU yn gweithredu.

  • Gallai cwmnïau eraill ddod yn ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Ochr yn ochr â'r cynnwys a ddarperir gan y PSBs sydd eisoes yn bodoli, gallai darparwyr newydd helpu i ddarparu cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol.

    Gallai'r cynnwys newydd hwn ganolbwyntio ar grwpiau penodol o bobl neu fathau o r rhaglen. Gallai darparwyr newydd gynnig sgiliau, arbenigedd a phrofiad ar-lein gwahanol – gan arwain at fanteision ehangach i gynulleidfaoedd a'r economi. Gellid rhoi buddion amlygrwydd ac argaeledd nad ydynt ond yn cael eu mwynhau ar hyn o bryd gan y PSBs presennol, a gallai fod ysgogiadau hefyd ar ffurf gostyngiadau treth a chyllid sydd ag elfen o gystadleuaeth.

  • Model newydd ar gyfer cyllido sefydlog. O ystyried pwysau ariannol, mae angen refeniw sefydlog ar gyfryngau gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi cymryd risgiau creadigol, arloesi a chynllunio hirdymor effeithlon. Mater i'r Llywodraeth yw penderfyniadau cyllid cyhoeddus, felly mae Ofcom heddiw wedi nodi amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys cymariaethau rhyngwladol, sy'n amlinellu'r manteision a'r anfanteision. Mae'r rhain yn cynnwys modelau tanysgrifio llawn neu rannol. Mae potensial hefyd ar gyfer cyllid ar draws cyfryngau – fel cronfa cyfryngau lleol neu ranbarthol, cefnogi cydweithio rhwng teledu, radio, ar-lein a chyhoeddwyr y wasg i gryfhau newyddion ymchwiliol lleol.
  • Gallai partneriaethau helpu PSBs i gystadlu'n well – yn ogystal â chysylltu â chynulleidfaoedd. Gallai perthynas ddyfnach rhwng PSBs a chwmnïau eraill – yn enwedig ar lwyfannau ac o ran dosbarthu – eu helpu i gystadlu'n fwy effeithiol â rhanddeiliaid byd-eang, a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Gallai ymchwil a datblygu a rennir, data perfformiad a gweithgareddau swyddfa gefn hefyd leihau costau, gwella effeithlonrwydd a helpu arloesedd.

Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: "Mae ein darlledwyr traddodiadol ymhlith y gorau yn y byd. Ond mae teledu wedi bod yn dyst i newid ac arloesedd, gyda chynulleidfaoedd yn troi at wasanaethau ar-lein sydd â chyllidebau mwy hael.

"Ar gyfer popeth rydym wedi'i ennill, mae perygl i ni golli'r math o gynnwys rhagorol yn y DU y mae pobl yn ei werthfawrogi'n fawr. Felly mae angen diwygio'r rheolau ar frys, ac adeiladu system gryfach o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a all ffynnu yn yr oes ddigidol.

"Gallai hynny olygu newidiadau mawr, fel ystod ehangach o gwmnïau sydd â'r dasg o ddarparu sioeau o ansawdd uchel a wnaed yn y DU, gyda’r DU yn eu cylch."

Camau nesaf

Mae Ofcom yn ymgynghori ar y cwestiynau yn y cynigion heddiw tan 16 Mawrth. Byddwn hefyd yn gwneud rhagor o waith ar gwmpas a thelerau'r rheolau a allai reoli argaeledd cynnwys gwasanaethau cyhoeddus. Ar wahân i hynny, byddwn yn adolygu sector cynhyrchu'r DU, i asesu a yw'r telerau presennol yn parhau'n effeithiol.

Byddwn wedyn yn gwneud argymhellion i'r Llywodraeth yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf.

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (PSB) y DU gyda'i gilydd yn cynrychioli'r ffynhonnell unigol fwyaf o gynnwys gwreiddiol y DU o bell ffordd. Mae'r pum prif sianel PSB (BBC One, BBC Two, ITV/STV, Channel 4 a Channel 5) a sianeli gwasanaeth cyhoeddus eraill y BBC yn dangos tua 32,000 o oriau o gynnwys gwreiddiol y DU y flwyddyn a ddarlledir am y tro cyntaf. Dangosodd ITV, Channel 4 a Channel 5 2,063 o oriau pellach o gynnwys gwreiddiol y DU a ddarlledir am y tro cyntaf ar eu sianeli portffolio masnachol yn 2018. Dangosodd y prif wasanaethau hefyd dros 2,700 awr o newyddion y DU a rhyngwladol yn 2019, a swm sylweddol o gynnwys a wnaed yn benodol ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU: 10,606 awr o raglennu gwreiddiol newydd yn 2018. Er bod gwasanaethau ffrydio byd-eang yn darparu cynnwys sy'n boblogaidd gyda chynulleidfaoedd y DU, gan gynnwys pobl ifanc, dim ond cyfran fach o'u llyfrgell sy'n gynnwys o’r DU. Ym mis Ebrill 2020, nid oedd yr un o'r 10 rhaglen a welwyd fwyaf ar Netflix yn dod o'r DU; a dim ond un oedd o Ewrop.
  2. Gan gynnwys teledu byw, teledu wedi'i recordio a gwylio dal i fyny.

Related content