25 Tachwedd 2020

Rhaid i ddarlledwyr edrych y tu hwnt i Lundain a chyrraedd y DU gyfan

    • Mae Ofcom yn galw ar y diwydiant i adlewyrchu amrywiaeth ehangach o gefndiroedd daearyddol a chymdeithasol
    • Mae cydweithwyr anabl a du yn dal i gael eu tangynrychioli ar y teledu a’r radio
    • Mae'r BBC yn perfformio’n dda ar y cyfan, ond rhaid darparu gwerth gwell i wylwyr a gwrandawyr nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol

    Mae Ofcom yn galw ar y diwydiant teledu a radio cyfan i ehangu cyfansoddiad daearyddol a chymdeithasol ei weithlu.

    Mae ein hastudiaeth flynyddol o amrywiaeth y diwydiant yn dangos nad oes dealltwriaeth dda o gefndir dosbarth cymdeithasol a daearyddol gweithwyr teledu a radio.[1]

    Er bod darlledwyr yn casglu rhagor o wybodaeth am gefndir economaidd-gymdeithasol eu gweithwyr nag oeddent flwyddyn yn ôl, nid oes gwybodaeth o'r fath ar gael ar gyfer tua 60% o weithwyr o hyd.

    Mae dadansoddiad Ofcom yn dangos bod gweithwyr teledu a radio tua dwywaith mor debygol o fod wedi cael eu magu mewn cartref proffesiynol o’u cymharu â phoblogaeth y DU (58%/61% o’i gymharu â 33%) a dwywaith mor debygol o fod wedi cael addysg breifat (13%/16% o’i gymharu â 7%). Mae’r rhan fwyaf o weithlu darlledwyr yn dal wedi’u lleoli yn Llundain yn bennaf, er bod pedwar o bob pump o’r boblogaeth yn byw mewn mannau eraill.

    Mae cynulleidfaoedd yn dweud yn gyson eu bod yn disgwyl gweld rhaglenni sy’n bortread go iawn o fywyd modern ar draws y Deyrnas Unedig a'i gwledydd a’i rhanbarthau.[2] Er mwyn cyflawni hynny, mae gofyn i ddarlledwyr adlewyrchu’r gymdeithas gyfan maen nhw’n ei gwasanaethu.

    Felly, mae Ofcom yn herio darlledwyr i wella eu dulliau mesur a’u dealltwriaeth o ddosbarth cymdeithasol a daearyddiaeth ar draws eu gweithlu - gan gynnwys sut mae’r nodweddion hyn yn gorgyffwrdd ac yn rhyngweithio â nodweddion eraill fel ethnigrwydd ac amrywiaeth.

    Dywedodd Vikki Cook, Cyfarwyddwr Polisi Darlledu Ofcom: “Dylai’r drws i’r diwydiant darlledu fod yn agored led y pen i bawb, dim ots o ba ran o’r wlad rydych chi’n dod nac i ba ysgol yr aethoch chi.

    “Rydyn ni’n galw ar y prif ddarlledwyr i edrych y tu hwnt i Lundain a denu’r doniau gorau o amrywiaeth o ardaloedd a chefndiroedd, er mwyn i'r rhaglenni maen nhw’n eu creu deimlo’n berthnasol i bob rhan o gymdeithas.”

    Gall y BBC arwain y ffordd

    Mae gan y BBC gyfle i fod ar y blaen o ran sicrhau gwell cynrychiolaeth, fel darlledwr cenedlaethol y Deyrnas Unedig.

    Mae adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw, yn canfod bod y gorfforaeth yn gwasanaethu gwylwyr a gwrandawyr yn dda ar y cyfan, gydag amrywiaeth ac ansawdd ei rhaglenni [3]. Ymatebodd yn effeithiol ac yn gyflym i bandemig Covid-19, er enghraifft, drwy gynnig llawer iawn o gynnwys addysgiadol i lenwi'r bwlch pan oedd yr ysgolion ar gau, a darparu rhagor o raglenni newyddion.

    Mae cyrhaeddiad cyffredinol y BBC yn dal yn uchel iawn, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi bod yn disgyn o un flwyddyn i'r llall, gyda bron i naw oedolyn o bob deg yn defnyddio ei gynnwys bob wythnos. Mae gan fwyafrif sylweddol o oedolion (64%) argraff gyffredinol gadarnhaol o’r BBC hefyd.

    Ond mae rhai gwylwyr a gwrandawyr yn dal i deimlo nad ydynt yn cael eu cynrychioli ddigon na’u portreadu’n gywir ar raglenni’r BBC. Yn benodol:

  • Mae pobl sy’n byw yn yr Alban, a’r bobl yng ngorllewin a de-orllewin Lloegr, yn teimlo’n llai cadarnhaol am amrywiaeth a dilysrwydd rhaglenni’r BBC am eu hardaloedd. I’r gwrthwyneb, canfyddiadau’r bobl sy’n byw yn ne Lloegr a Llundain yw’r mwyaf ffafriol.
  • Mae oedolion anabl hŷn yn teimlo mai nhw yw’r lleiaf amlwg ar y BBC.Mae llai na hanner (44%) y bobl anabl 65 oed neu hŷn yn credu bod y BBC yn eu cynrychioli’n dda mewn rhaglenni. Yn yr un modd, dim ond tua thraean (34%) sy’n teimlo'n gadarnhaol ynghylch sut maen nhw’n cael eu portreadu.
  • Mae pobl o gefndir dosbarth gweithiol yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu’n ddigonol gan y BBC. Mae llai na hanner (48%) yn canmol y BBC am ‘ddangos amrywiaeth dda o raglenni sy’n cynnwys pobl fel fi’. Mae llai fyth (43%) yn teimlo’n gadarnhaol ynghylch pa mor ddilys mae’r BBC yn eu portreadu. Mae pobl o gartrefi mwy cefnog, ar y llaw arall, yn llawer mwy tebygol o ganmol y BBC am yr agweddau hyn (60% a 52% yn y drefn honno).
  • Er bod cynulleidfaoedd du yn rhoi sgôr uwch na’r cyfartaledd i’r BBC am gynrychiolaeth (60%), maen nhw’n llawer llai bodlon â sut maen nhw’n cael eu portreadu (45%).

Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd, Tim Davie, wedi cydnabod nad yw’r BBC yn gwasanaethu pob cynulleidfa’n gyfartal ac mae wedi pennu ei flaenoriaethau ehangach ar gyfer newid, ac rydym yn croesawu'r rhain. Rydym nawr yn annog y BBC i gyflwyno cynlluniau manwl ar gyfer cyflawni'r blaenoriaethau hyn, gan gynnwys sut mae’n bwriadu cyrraedd ac adlewyrchu cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, a sut bydd yn mesur llwyddiant.

Adeiladu ar gynnydd a sbarduno newid

Yn 2020, rydym wedi gweld ymrwymiad newydd gan uwch arweinwyr y prif ddarlledwyr i drawsnewid cyfansoddiad eu sefydliadau. Mae rhywfaint o gynnydd i’w weld yn ein hadroddiadau.

Mae cyfran uwch o fenywod (48%) a phobl lleiafrifoedd ethnig (14%) yn cael eu cyflogi ar draws y diwydiant teledu a radio, o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Roedd cyfran y menywod mewn uwch swyddi radio wedi codi o 36% i 43% o un flwyddyn i'r llall.

Ond mae’r cynnydd yn dal i fod yn rhy araf, ac mae rhai grwpiau’n dal i gael eu tangynrychioli’n gyson. Yn benodol:

  • Dim ond 7% weithwyr teledu a 6% o weithwyr radio sy’n anabl, o’i gymharu â 19% o’r boblogaeth oed gweithio, ac nid yw pethau wedi gwella fawr yn y blynyddoedd diwethaf.
  • Dim ond 8% o’r rheini sydd mewn swyddi uwch reolwyr yn y maes teledu sy’n dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, o’i gymharu â 12% o’r boblogaeth oed gweithio a 35% ar draws y gweithlu yn Llundain.
  • Dim ond 1% o uwch reolwyr sy’n gweithio yn y maes teledu sy’n ddu, er gwaethaf y ffaith fod cydweithwyr du yn cyfrif am 3% o’r boblogaeth oed gweithio yn genedlaethol.

Mae Ofcom yn dymuno gweld cynnydd cyflymach mewn tri maes blaenoriaeth - cynyddu cyfran y grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn y diwydiant; atebolrwydd gan uwch swyddogion ar gyfer pennu amcanion amrywiaeth a chyflawni yn unol â nhw; a gwell gwybodaeth a chynrychiolaeth o ran daearyddiaeth a dosbarth cymdeithasol.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein sefyllfa i ddylanwadu ar newid, gan gynnwys cynnal digwyddiad arbennig i'r diwydiant y flwyddyn nesaf er mwyn rhoi hwb i’r cynnydd. Fel cyflogwr, byddwn yn gweithredu gyda’r un tryloywder â’r sefydliadau rydym yn eu rheoleiddio. Cyn bo hir byddwn yn pennu ein map amrywiaeth ein hun ar gyfer y blynyddoedd i ddod, a fydd yn cynnwys targedau newydd, ymestynnol a chynlluniau ar gyfer ehangu cyfansoddiad daearyddol a dosbarth cymdeithasol Ofcom. 

NODIADAU I OLYGYDDION

[1] Mae gan Ofcom ddyletswydd i hybu cyfle cyfartal mewn perthynas â chyflogaeth yn y sector darlledu. Gallwn ofyn i ddarlledwyr ddarparu gwybodaeth am eu polisïau cyfle cyfartal a chyfansoddiad eu gweithlu.

Mae ein hadroddiad ar gyfer 2020 yn cyflwyno canfyddiadau ynghylch amrywiaeth y darlledwyr rydym yn eu rheoleiddio, gan gynnwys yr wyth prif sefydliad teledu a radio.  Mae adnoddau rhyngweithiol, a gyhoeddir ochr yn ochr â’r prif adroddiad heddiw, yn cynnwys rhagor o wybodaeth fanwl am y canlynol: data am y gweithlu ar draws diwydiannau teledu a radio’r DU; data am y gweithlu sydd gan yr wyth prif ddarlledwr; a gwybodaeth ansoddol a ddarparwyd gan y darlledwyr ynghylch y gwaith maen nhw wedi’i wneud i wella amrywiaeth a chynhwysiant yn eu sefydliadau. Mae’r holl ddata’n cyfeirio at y cyfnod rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020.

[2] https://www.smallscreenbigdebate.co.uk/cymru/research

[3] Dyma Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC, ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020. Mae Siarter Brenhinol y BBC yn ei gwneud yn ofynnol i Ofcom gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn sy’n nodi sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac sy’n asesu a yw’r BBC wedi cydymffurfio â’i Drwydded Weithredu a gofynion rheoleiddiol eraill. Ar wahân i hynny, mae’n ofynnol i ni adrodd o leiaf yn flynyddol ar berfformiad y BBC yn erbyn y mesurau rydym wedi’u gosod ochr yn ochr â’r Drwydded Weithredu. Dyma’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein gwaith o asesu perfformiad y BBC yn erbyn ei ddibenion cyhoeddus.

Mae’r adroddiad heddiw yn asesu perfformiad y BBC o ran cyflawni ei Genhadaeth a'i Ddibenion Cyhoeddus. Mae’n egluro sut mae Ofcom wedi cyflawni ei swyddogaethau o ran diogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol pan fo’r BBC yn gweithredu, ac o ran cynnal safonau cynnwys yn rhaglenni’r BBC. Eleni mae Adroddiad Perfformiad rhyngweithiol manwl yn cyd-fynd â’n hadroddiad. Mae’r adroddiad yn cyflwyno data helaeth am bob un o’r Dibenion Cyhoeddus a pha mor dda mae’r BBC wedi eu cyflawni, ar draws amrywiaeth o wasanaethau a llwyfannau’r BBC.

[4] Yn ogystal ag ehangu ei gyrhaeddiad ac apelio at rychwant ehangach o bobl, mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi nifer o feysydd eraill i’r BBC ganolbwyntio arnynt. Er enghraifft, rydym hefyd yn dymuno gweld:

  • y BBC yn bod yn fwy pendant o ran didueddrwydd dyladwy
  • gwella sut mae’r BBC yn ymgysylltu â gwylwyr a gwrandawyr, ac â chwmnïau eraill, ar newidiadau mae’n bwriadu eu gwneud i’w wasanaethau; a
  • mwy o dryloywder ynghylch buddsoddiad, strategaeth a pherfformiad y BBC yn y gwledydd a’r rhanbarthau.

Rydym hefyd wedi ysgrifennu at y BBC (PDF, 193.7 KB) i fynegi pryderon ar ran cynulleidfaoedd ynghylch ei newidiadau arfaethedig i raglenni materion cyfoes a newyddion rhanbarthol, ac rydym wedi cyhoeddi ei hymateb (PDF, 176.0 KB) ochr yn ochr â’n hadroddiad blynyddol

[5] Y BBC 2019/20 ar gip:

Related content