30 Mehefin 2023

Ofcom yn cyhoeddi'r dyfarniadau amlblecs DAB graddfa fach diweddaraf

Heddiw mae Ofcom wedi dyfarnu trwyddedau amlblecs radio DAB graddfa fach ar gyfer pump ardal bellach yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Mae DAB graddfa fach yn dechnoleg flaengar sy'n darparu ffordd gost isel i wasanaethau cerddoriaeth masnachol, cymunedol ac arbenigol lleol ymuno â'r tonnau awyr digidol.

Bu i un o'n cydweithwyr yn Ofcom chwarae rôl bwysig wrth ddarparu'r dechnoleg y tu ôl i DAB graddfa fach, gan dderbyn MBE ar gyfer ei waith ym maes darlledu radio.

Gan ddilyn proses gystadleuol a welodd bob ymgeisydd yn cael ei farnu yn erbyn meini prawf penodol, mae trwyddedau amlblecs wedi'u dyfarnu ar gyfer yr ardaloedd a ganlyn:

  • Caerdydd: trwydded wedi'i dyfarnu i Cardiff DAB Limited
  • Caeredin: trwydded wedi'i dyfarnu i Edinburgh DAB Limited
  • King’s Lynn: trwydded wedi'i dyfarnu i North Norfolk Digital Limited
  • Leeds: trwydded wedi'i dyfarnu i Leeds Digital Media Limited
  • Norwich: trwydded wedi'i dyfarnu i Future Digital Norfolk Limited

Bydd dyfarniadau trwydded pellach ar gyfer y 11 ardal arall a hysbysebwyd yn rownd un yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau i ddod. Bydd ardaloedd trwydded rownd dau, ar gyfer Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd-ddwyrain Cymru'n cael eu hysbysebu ar 1 Mehefin 2021.

See also...