24 Mawrth 2021

Un o bob tri defnyddiwr rhannu fideos yn dod o hyd i iaith gasineb

  • Ofcom yn cyflwyno arweiniad i helpu gwasanaethau i ddiogelu yn erbyn fideos niweidiol ar-lein
  • Dylai rheoleiddio ddiogelu defnyddwyr ac ar yr un pryd cynnal rhyddid mynegiant

Mae un o bob tri o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau rhannu fideos ar-lein wedi dod ar draws cynnwys casineb yn ystod y tri mis diwethaf, yn ôl astudiaeth newydd gan Ofcom.

Daw'r newyddion hyn wrth i Ofcom gynnig arweiniad newydd ar gyfer gwefannau ac apiau a elwir yn llwyfannau rhannu fideos (VSPs), sy'n disgrifio camau ymarferol i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol.

Mae VSPs yn fath o wasanaeth fideos ar-lein sy'n galluogi defnyddwyr i uwchlwytho a rhannu fideos gydag aelodau eraill o'r cyhoedd. Maent yn galluogi pobl i ymwneud ag amrywiaeth eang o gynnwys a nodweddion cymdeithasol.

O dan ddeddfau a gyflwynwyd gan Senedd y DU y llynedd, mae'n rhaid i VSPs a sefydlir yn y DU gymryd camau i ddiogelu pobl dan 18 oed rhag cynnwys fideo sydd â'r potensial i fod yn niweidiol; a'r holl ddefnyddwyr rhag fideos sy'n debygol o annog trais neu gasineb, yn ogystal â mathau penodol o gynnwys troseddol.[1] Gorchwyl Ofcom yw gorfodi'r rheolau hyn a dal VSPs yn atebol.

Mae'r arweiniad drafft heddiw wedi'i ddylunio i helpu'r cwmnïau hyn i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt o dan y rheolau newydd, ac i esbonio sut y gallant gyflawni eu rhwymedigaethau mewn perthynas â diogelu defnyddwyr rhag niwed.

Datgelu profiadau niweidiol

I gyfeirio ein hymagwedd, mae Ofcom wedi ymchwilio i sut mae pobl yn y DU yn defnyddio VSPs, a pha mor agored y maent i gynnwys a allai fod yn niweidiol.[2] Dyma ein prif ganfyddiadau:Nid yw 60% o ddefnyddwyr VSP yn ymwybodol o fesurau diogelwch i'w diogelu rhag fideos neu ymddygiad tramgwyddus, treisgar neu amhriodol.

  • Iaith gasineb. Dywed traean (32%) o ddefnyddwyr iddynt weld neu brofi cynnwys casineb.[3] Gan mwyaf roedd cynnwys casineb wedi'i gyfeirio at grŵp hil (59%), wedi'i ddilyn gan grwpiau crefyddol (28%), pobl drawsryw (25%) a'r rhai o gyfeiriadedd rhywiol penodol (23%).
  • Bwlio, camdriniaeth a thrais. Mae chwarter (26%) o ddefnyddwyr yn honni iddynt weld bwlio, ymddygiad ymosodol a bygythiadau, ac roedd yr un gyfran wedi dod ar draws cynnwys treisgar neu ysgytwol
  • Cynnwys hiliol. Dywed un o bob pump (21%) o ddefnyddwyr iddynt weld neu brofi cynnwys hiliol, gyda'r lefelau'n uwch ymysg y rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (40%) o'i gymharu â defnyddwyr o gefndir gwyn (19%)
  • Mae'r mwyafrif o ddefnyddwyr yn profi fideos o ryw fath a allai fod yn niweidiol: Dywed y rhan fwyaf (70%) o ddefnyddwyr VSP iddynt gael profiad a allai fod yn niweidiol dros y tri mis diwethaf, gan godi i 79% ymysg pobl ifanc 13 i 17 oed.[4]
  • Ni fydd 31% o ddefnyddwyr yn rhoi gwybod am niwed posibl gan nad ydynt yn credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Mae 30% yn teimlo nad yw'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol, tra bod 25% yn honni nad oeddent yn gwybod beth i'w wneud na phwy i roi gwybod amdano.
  • Ymwybyddiaeth isel o fesurau diogelwch. Nid yw chwech o bob 10 o ddefnyddwyr VSP yn ymwybodol o fesurau diogelwch a gwarchod ar lwyfannau, a dim ond chwarter sydd erioed wedi fflagio neu adrodd cynnwys niweidiol.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi dau adroddiad ymchwil gan academyddion blaenllaw o Sefydliad Alan Turing, gan gwmpasu casineb ar-lein; ac o Sefydliad Cymunedau Cysylltiedig Prifysgol Dwyrain Llundain, ar ddiogelu pobl ifanc ar-lein.

Arweiniad ar gyfer diogelu defnyddwyr

Wrth i Ofcom ddechrau ar ei rôl newydd o reoleiddio llwyfannau rhannu fideos, rydym yn cydnabod bod y byd ar-lein yn wahanol i sectorau eraill sy'n cael eu rheoleiddio. Gan adlewyrchu natur llwyfannau rhannu fideos, mae'r deddfau newydd yn y maes hwn yn canolbwyntio ar fesurau y mae'n rhaid i ddarparwyr ystyried eu cymryd i ddiogelu eu defnyddwyr - ac maent yn rhoi hyblygrwydd i gwmnïau o ran sut y maent yn gwneud hynny.

Mae'r maint enfawr o gynnwys ar-lein yn golygu ei fod yn amhosib atal pob achos o niwed. Yn lle hynny, rydym yn disgwyl i VSPs gymryd camau gweithredol yn erbyn deunydd niweidiol ar eu llwyfannau. Mae arweiniad newydd Ofcom wedi'i ddylunio i'w cynorthwyo wrth lunio barn ar y ffordd orau o ddiogelu eu defnyddwyr. Yn unol â'r ddeddfwriaeth, mae ein harweiniad yn cynnig y dylai pob llwyfan rhannu fideos ei ddarparu:

  • Rheolau clir ynghylch uwchlwytho cynnwys. Dylai fod gan VSPs delerau ac amodau clir a gweladwy sy'n gwahardd defnyddwyr rhag uwchlwytho'r mathau niweidiol o gynnwys a bennir gan y gyfraith. Dylai'r rhain gael eu gorfodi'n effeithiol.
  • Hwyluso fflagio a chwyno i ddefnyddwyr. Dylai cwmnïau weithredu offer sy'n galluogi defnyddwyr i adrodd neu fflagio fideos niweidiol yn gyflym ac yn effeithiol, dweud pa mor gyflym y byddant yn ymateb, a bod yn agored am unrhyw gamau a gymerir. Dylai darparwyr gynnig llwybr i ddefnyddwyr godi materion neu bryderon yn ffurfiol gyda'r llwyfan, ac i herio penderfyniadau trwy ddatrys anghydfod. Mae hyn yn hanfodol er mwyn diogelu hawliau a buddiannau defnyddwyr sy'n uwchlwytho ac yn rhannu cynnwys.
  • Cyfyngu mynediad i wefannau oedolion. Dylai VSPs sydd â lefel uchel o ddeunydd pornograffig roi systemau dilysu oedran effeithiol ar waith i gyfyngu mynediad pobl dan 18 oed i'r gwefannau ac apiau hyn.

Gorfodi'r rheolau

Bydd ymagwedd Ofcom at orfodi'r rheolau newydd yn adeiladu ar ein hanes o ddiogelu cynulleidfaoedd rhag niwed, ac ar yr un pryd cynnal rhyddid mynegiant. Byddwn yn ystyried nodweddion unigryw cynnwys fideo a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, ynghyd â hawliau a buddiannau defnyddwyr a darparwyr gwasanaeth, a'r buddiant cyhoeddus cyffredinol.

Os byddwn yn gweld bod darparwr VSP wedi mynd yn groes i'w rwymedigaethau i gymryd camau priodol i ddiogelu defnyddwyr, mae gennym y pŵer i ymchwilio i hynny a chymryd camau yn erbyn llwyfan. Gallai hyn gynnwys dirwyon, mynnu bod y darparwr yn cymryd camau penodol, neu, yn yr achosion mwyaf difrifol - atal neu gyfyngu ar y gwasanaeth. Gan gydweddu â'n hymagwedd gyffredinol at orfodi mae'n bosib, lle bo'n briodol, y byddwn yn ceisio datrys neu ymchwilio i faterion yn anffurfiol yn gyntaf, cyn i ni gymryd unrhyw gamau gorfodi ffurfiol.

Meddai Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Chynnwys Ar-lein Ofcom: “Nid yw rhannu fideos erioed wedi bod yn fwy poblogaidd, rhywbeth yr ydym wedi'i weld ymysg teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig. Ond nid yw'r math hwn o gynnwys ar-lein heb risg, ac mae llawer o bobl yn adrodd am ddod ar draws cynnwys casineb a deunydd a allai fod yn niweidiol.

“Er bod gwasanaethau fideo'n gwneud cynnydd wrth ddiogelu defnyddwyr, mae llawer mwy i wneud. Rydym yn amlinellu sut y dylai cwmnïau gydweithio â ni i roi trefn ar eu systemau - gan roi'r diogeliad y mae ei angen ar blant a defnyddwyr eraill, ac ar yr un pryd cynnal rhyddid mynegiant.”

Camau nesaf

Rydym yn gwahodd pob parti sydd â diddordeb, yn enwedig gwasanaethau a allai ddod o dan gwmpas y rheoleiddio, y diwydiant ehangach a chyrff y trydydd sector, i roi sylwadau ar ein canllawiau drafft arfaethedig. Y terfyn amser ar gyfer derbyn ymatebion yw 2 Mehefin 2021. Yn amodol ar adborth, ein bwriad yw cyhoeddi canllawiau terfynol yn ddiweddarach eleni. Byddwn hefyd yn adrodd bob blwyddyn am y camau a gymerir gan VSP i gydymffurfio â'u dyletswyddau i ddiogelu defnyddwyr.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae Ofcom wedi derbyn pwerau newydd i reoleiddio VSPs a sefydlir yn y DU. Mae rheoleiddio VSP yn ceisio diogelu defnyddwyr gwasanaethau VSP rhag mathau penodol o ddeunydd niweidiol mewn fideos. Daw deunydd niweidiol o fewn dau gategori bras o dan y Fframwaith VSP, sydd wedi'u diffinio fel:
    1. Deunydd Cyfyngedig, sy'n cyfeirio at fideos sydd wedi derbyn tystysgrif R18 neu a fyddai'n debygol o gael un, neu y gwrthodwyd tystysgrif iddynt neu y mae'n debygol y bydd tystysgrif yn cael ei gwrthod iddynt. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw ddeunydd arall a allai amharu ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl dan 18 oed.
    2. Deunydd Niweidiol Perthnasol, sy'n cyfeirio at unrhyw ddeunydd sy'n debygol o annog trais neu gasineb yn erbyn grŵp o bobl neu aelod o grŵp o bobl yn seiliedig ar nodweddion penodol. Mae hefyd yn cyfeirio at ddeunydd y byddai ei ddangos yn drosedd o dan ddeddfau gysylltiedig â therfysgaeth; deunydd cam-drin plant yn rhywiol; a hiliaeth a senoffobia.
    Mae'r Ddeddf Cyfathrebiadau'n gosod y meini prawf ar gyfer pennu awdurdodaeth VSPs, sydd wedi'u modelu'n agos ar ddarpariaethau'r Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled. Bydd VSP o dan awdurdodaeth y DU os oes ganddi'r cysylltiad gofynnol â'r DU. Mater i ddarparwyr gwasanaethau yw asesu a yw gwasanaeth yn bodloni'r meini prawf a hysbysu Ofcom eu bod yn dod o dan gwmpas y rheoleiddio. Yn ddiweddar bu i ni gyhoeddi arweiniad ar y meini prawf i'w cynorthwyo wrth wneud yr asesiad hwn. Ym mis Rhagfyr 2020, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i benodi Ofcom yn rheoleiddiwr y drefn niwed ar-lein sydd ar ddod. Ail-ddatganwyd ei bwriad i'r Fframwaith VSP gael ei ddisodli gan y fframwaith rheoleiddio mewn deddfwriaeth Diogelwch Ar-lein newydd.
  2. Cyflawnwyd y gwaith maes ymchwil gyda defnyddwyr VSP rhwng mis Medi a mis Hydref 2020. Mae ‘y tri mis diwethaf’ yn cyfeirio at y tri mis cyn y cyfweliad. Ymchwiliodd yr ymchwil i amrywiaeth o wefannau ac apiau a ddefnyddir gan bobl yn y DU i wylio a rhannu fideos ar-lein. Nid yw'r ymchwil yn ceisio nodi pa wasanaethau a fyddai'n dod o dan gylch gwaith rheoleiddio Ofcom, nac i bennu ymlaen llaw p'un a fyddai unrhyw wasanaeth penodol yn cael ei ddosbarthu'n VSP o dan y diffiniad rheoleiddio ai beidio. Hunan-adroddwyd y dystiolaeth yn yr ymchwil hon gan ymatebwyr. Gan hynny, cyfyngir ar y dystiolaeth gan ryddid ymatebwyr i benderfynu p'un a oeddent am gymryd rhan ai beidio, eu gallu i gofio digwyddiadau, cywirdeb yr atgof hwnnw a pha brofiadau y gwnaethant ddewis eu datgelu.
  3. Mae'r ffigurau ar gynnwys casineb yn seiliedig ar y data cyfunedig ar gyfer gweld fideos neu gynnwys sy'n annog casineb at eraill, fideos neu gynnwys sy'n annog trais tuag at eraill, a fideos neu gynnwys sy'n annog hiliaeth.
  4. Edrychodd y cwestiwn ymchwil hwn ar brofiadau defnyddwyr o 26 niwed ar-lein, sy'n cofnodi sbectrwm eang o ymddygiad a chynnwys y gallai defnyddwyr o bosib ystyried bod ganddynt y potensial i achosi niwed. Aeth y niweidiau posib hyn y tu hwnt i'r categorïau penodol o ddeunydd niweidiol yn y ddeddfwriaeth VSP. Gellir gweld dadansoddiad llawn o hyn yn yr Adroddiad ar Brofiadau Defnyddwyr o Niweidiau Ar-lein Posib o fewn Llwyfannau Rhannu Fideos (PDF, 4.6 MB). Cyfeirir at y niweidiau fel 'niwed/niweidiau ar-lein posib' gan nad oedd yr ymchwil yn ceisio rhoi barn ar ba niwed, os o gwbl, sy'n cael ei ystyried yn niweidiol, na pha niwed, os o gwbl, a gododd o'r profiadau hynny. Nid yw darparwyr VSP o dan rwymedigaeth reoleiddio o dan y Fframwaith VSP i roi mesurau ar waith sy'n ymwneud ag unrhyw gynnwys neu ymddygiad y tu hwnt i'r meysydd deunydd niweidiol penodedig yn y ddeddfwriaeth.

Related content