18 Mawrth 2021

Cynyddu darpariaeth band eang ffeibr llawn

  • Ofcom yn creu cyfleoedd i rwydweithiau gynyddu darpariaeth band eang ffeibr llawn ar draws y wlad
  • Hyblygrwydd o ran prisiau ar gyfer gwasanaethau cyflymaf Openreach; prisiau band eang cyflym iawn i’w cadw ar yr un lefel mewn termau real
  • Mwy o gefnogaeth i uwchraddio hen gysylltiadau copr y DU sydd wedi bodoli ers degawdau i rwydweithiau ffeibr cyflymach
  • Mae rheolau Ofcom yn adeiladu'r achos busnes dros fuddsoddi hirdymor ac yn sicrhau bod gan gwsmeriaid opsiynau fforddiadwy

Bydd miliynau o gartrefi ledled y wlad yn cael eu huwchraddio i fand eang cyflymach a mwy dibynadwy, o dan reoliadau newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom i helpu siapio dyfodol ffeibr llawn y DU.

Mae pandemig y coronafeirws wedi tanlinellu pwysigrwydd cysylltiad rhyngrwyd dibynadwy. Mae rhwydwaith ffôn copr y DU – y gosodwyd rhai rhannau ohono dros 100 mlynedd yn ôl – wedi helpu i gyflwyno band eang cyflym iawn i 96% o gartrefi. Ac mae pobl wedi bod yn derbyn gwasanaethau gwell yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, heb wario mwy mewn termau real.[1]

Ond wrth i'r galw am ddata barhau i gynyddu, mae angen brys am uwchraddio isadeiledd y DU. Bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad preifat sylweddol mewn band eang ffeibr llawn, sy'n llawer mwy cyflym a dibynadwy na'r rhwydweithiau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu defnyddio heddiw.

Dyfodol ffeibr llawn i'r DU i gyd

Yn sgil ymgynghori â'r cyhoedd, mae Ofcom heddiw wedi cadarnhau sut y bydd yn rheoleiddio'r marchnadoedd telathrebu cyfanwerthol a ddefnyddir i ddarparu cysylltiadau band eang, symudol a busnes yn y DU, am y pum mlynedd nesaf a'r tu hwnt.

Mae cystadleuaeth rhwng rhwydweithiau wedi helpu darpariaeth ffeibr llawn i gynyddu ar ei gyfradd gyflymaf erioed dros y flwyddyn ddiwethaf - ac mae'r momentwm hynny wedi parhau trwy gydol y pandemig.[2] Mae ein rheoliadau'n adeiladu ar y momentwm hwn - gan symbylu buddsoddi masnachol a chefnogi'r gorchwyl o gau rhwydwaith copr 100 mlwydd oed y wlad; tra'n sicrhau ar yr un pryd bod defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag prisiau uchel.

Rydym yn credu y bydd yr ymagwedd hon yn golygu y bydd gan gwsmeriaid mewn tua 70% o'r DU ddewis o rwydweithiau yn sgil ymgyrch gyflwyno fasnachol gystadleuol. Mae Openreach wedi ymrwymo i ymestyn ffeibr llawn i 3.2 miliwn o eiddo pellach (10%) mewn ardaloedd mwy gwledig. Ac mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflenwi'r 20% sy'n weddill o'r wlad trwy gyllid cyhoeddus, i helpu sicrhau nad oes neb yn cael ei adael allan.

Symbylu buddsoddi cystadleuol

Sut rydym ni'n gwneud hyn:

Rheoleiddio prisiau cyfanwerthol mewn ffordd sy'n annog buddsoddi ac yn hyrwyddo cystadleuaeth

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gostwng y pris cyfanwerthol y mae Openreach yn ei godi ar ddarparwyr manwerthu am ei wasanaeth band eang copr cyflym iawn lefel mynediad (40 Mbit/s), yn unol â'i gostau gostyngol. Rydym bellach yn cadw'r pris hwn – a phrisiau pecynnau band eang copr arafach – ar yr un lefel mewn termau real.

Cau'r rhwydwaith copr

Wrth iddo osod ffeibr newydd i ddisodli gwifrau copr sy'n heneiddio, ni ddylai fod gan Openreach y costau diangen o redeg dau rwydwaith cyfochrog. Felly, pan fydd Openreach wedi cyflwyno ffeibr llawn mewn ardal benodol, byddwn yn dileu rheoleiddio ar ei gynhyrchion copr yn raddol dros nifer o flynyddoedd.

Mynediad i gwndidau a pholion

Rydym eisoes wedi lefelu'r cae chwarae trwy ei gwneud yn llawer rhatach, cyflymach ac yn haws i gystadleuwyr BT adeiladu eu rhwydweithiau, drwy roi gwell mynediad iddynt at gwndidau tanddaearol a pholion telegraff Openreach. Gall hyn haneru costau cychwynnol cysylltu cartref.

Atal ymddygiad gwrthgystadleuol

Byddwn yn atal Openreach rhag niweidio cystadleuaeth, drwy adolygu'r holl gytundebau disgownt hirdymor y mae'n eu cynnig i'w gwsmeriaid cyfanwerthol, a'u cyfyngu os oes cyfle y gallent rwystro buddsoddiad gan ei gystadleuwyr.

Bydd Openreach yn parhau i gael ei wahardd rhag cynnig gostyngiadau daearyddol ar ei wasanaethau band eang cyflym iawn cyfanwerthol ac rydym wedi penderfynu ymestyn hyn i ffeibr llawn.

Meddai'r Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, nid yw bod yn gysylltiedig erioed wedi bod yn bwysicach. Ond mae miliynau o gartrefi yn dal i ddefnyddio'r llinellau copr a osodwyd gyntaf dros 100 mlynedd yn ôl. Yn awr mae'r amser wedi dod i gynyddu'r broses o gyflwyno band eang gwell ledled y DU. Rydym yn chwarae ein rhan – gan greu'r amodau cywir i gwmnïau gamu i fyny a buddsoddi yn nyfodol ffeibr llawn y wlad. Dyma gyfle unwaith mewn canrif i helpu i wneud y DU yn economi ddigidol sy'n flaenllaw yn y byd."

Bydd y rheoliadau newydd heddiw yn berthnasol i BT o fis Ebrill 2021 tan fis Mawrth 2026.

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Mae cyflymderau cyfartalog y rhyngrwyd a'r defnydd o ddata wedi codi'n sylweddol, ac mae gwariant cyfartalog aelwydydd ar delathrebu wedi parhau'n weddol wastad mewn termau real dros y blynyddoedd diwethaf:

Siart sy’n dangos y cododd y cyflymder rhwydwaith cyfartalog a’r defnydd o ddata yn y DU yn sylweddol rhwng 2013 a 2019, tra yr arhosodd gwariant cyfartalog fesul aelwyd ar delathrebu ar yr un lefel yn fras mewn termau real dros yr un cyfnod.

2. Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddwyd ein cynigion ar gyfer rheoleiddio o blaid buddsoddi rhwng 2018 a 2021. Wedi hynny, cyhoeddodd nifer o gwmnïau band eang gynlluniau i fuddsoddi mewn band eang ffeibr llawn. Yna, tyfodd y ddarpariaeth ffeibr llawn o 3% i 10% rhwng 2017 a 2019. Mae band eang ffeibr llawn bellach ar gael i dros 5 miliwn o gartrefi yn y DU (18% o'r wlad) – cynnydd o 80% mewn blwyddyn, y cynnydd mwyaf hyd yma:

Siart sy’n dangos y tyfodd argaeledd band eang ffeibr llawn yn y DU o 1.7% yn 2016 i 18% yn 2020.

3. Mae penderfyniadau eraill rydym wedi'u gwneud heddiw fel rhan o'n hadolygiad yn cynnwys y canlynol:

  • Er mwyn sicrhau bod Openreach yn darparu gwasanaeth o'r ansawdd sydd ei angen ar gwsmeriaid, rydym yn cadw'r rheolau caeth presennol ar ba mor gyflym y mae'n rhaid iddo wneud gwaith atgyweirio a gosodiadau.
  • Rydym wedi nodi sut y byddwn yn rheoleiddio 'llinellau ar log' Openreach – cysylltiadau cyflym a ddefnyddir gan sefydliadau mawr, sydd hefyd yn ffurfio priffyrdd data rhwydweithiau symudol a band eang y DU.
  • Bydd yn rhaid i Openreach roi mynediad i gwmnïau at ei 'ffeibr tywyll' – ceblau sy'n cael eu 'goleuo' gan gystadleuwyr – mewn ardaloedd nad ydynt yn gystadleuol, am bris sy'n adlewyrchu ei gostau. Byddai hyn yn lleihau'n sylweddol y gost i weithredwyr ffonau symudol wrth gyflwyno eu rhwydweithiau 5G newydd.

Related content