19 Gorffennaf 2021

Chwyldro graddfa fach mewn radio lleol

  • Technoleg arloesol i ddod â thros 500 o orsafoedd radio cerddoriaeth hyper-leol ac arbenigol i'r tonnau awyr digidol
  • Gwasanaethu newydd i lansio ym mhedair gwlad y DU
  • Trwyddedau pellach i'w dyfarnu'n ddiweddarach eleni

Mae miloedd o wrandawyr ar draws y DU gyfan ar fin elwa o amrywiaeth fwy cyfoethog ac eang o raglennu radio diolch i dechnoleg newydd flaengar o'r enw DAB graddfa fach.

Mae DAB graddfa fach, dyluniad blaengar gan gynllunydd sbectrwm yn Ofcom, yn darparu dull cost isel i wasanaethau cerddoriaeth masnachol, cymunedol ac arbenigol lleol ymuno â'r tonnau awyr digidol.

Bydd 25 o drwyddedau DAB graddfa fach yn caniatáu i 500 o orsafoedd radio lleol newydd gael eu lansio.

Ers mis Chwefror, mae Ofcom wedi cynllunio'r tonnau awyr a dyfarnu trwyddedau DAB graddfa fach mewn 25 o ardaloedd ar draws y DU. Gyda'r rownd gyntaf o ddyfarniadau bellach wedi'u cwblhau, mae gan y trwyddedau hyn y potensial i alluogi lansio dros 500 o orsafoedd radio lleol newydd.

Mae rhai o'r cannoedd o orsafoedd newydd sydd ar fin lansio ar DAB graddfa fach yn wasanaethau radio analog masnachol cymunedol a bach presennol. Bydd llawer o'r rhai eraill yn newydd sbon - gan amrywio o wasanaethau cymunedol llawr gwlad i orsafoedd radio bwtîc arbenigol, a gwasanaethau a anelir at grwpiau lleiafrifol a chynulleidfaoedd eraill nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda.

Bydd Ofcom yn dyfarnu trwyddedau DAB graddfa fach pellach yng Ngogledd-orllewin Lloegr a Gogledd-ddwyrain Cymru yn ddiweddarach eleni.

Meddai Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Chynnwys Ar-lein Ofcom: “I wrandawyr mae'r dull arloesol hwn o ddefnyddio'r tonnau awyr yn golygu gorsafoedd radio newydd ac unigryw a gynhyrchir gan bobl o'u hardal, wedi'u teilwra ar gyfer eu cymuned leol. Rydym yn edrych ymlaen at gannoedd o orsafoedd yn mynd ar yr awyr dros y misoedd nesaf.”

Mwy o wybodaeth am rai o'r gorsafoedd newydd…

Yn Newcastle a Gateshead, bydd Tyneside Community Digital (TCD) yn darparu pedair gorsaf radio cymunedol analog leol (Radio Tyneside, Nova Radio, yr orsaf LHDT Pride FM, a'r gwasanaeth Asiaidd Spice FM) y byddant oll yn gallu darlledu ar DAB am y tro cyntaf.

Mae'r rhestr orsafoedd hefyd yn cynnwys gorsaf radio dawns â'i ffocws ar ogledd-orllewin Lloegr, Frisk Radio;  Hindu FM, gorsaf ffydd a leolir yn Newcastle sydd wedi'i hanelu at y gymuned Hindŵaidd; Anxious Minds Radio, gorsaf i ogledd-orllewin Lloegr a fydd yn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a darparu offer hunangymorth ar gyfer ei gwrandawyr; a Toon FM, a fydd yn darparu newyddion a thrafodaeth am bopeth gysylltiedig â Newcastle United.

Meddai Richard Finch, un o gyfarwyddwyr TCD: “Roedd ein cais yn ymwneud â thros flwyddyn o waith caled a fu'n cynnwys gorsafoedd radio cymunedol FM presennol a llu o sianeli newydd - y mae'r mwyafrif ohonynt yn ein hardal leol. Mae gwrandawyr wedi cofleidio radio DAB ac erbyn hyn dyma'r llwyfan fwyaf a ddefnyddir gan bobl.”

“Nid yw'r gwasanaeth yn ymwneud â sianeli sy'n bodoli eisoes yn unig - byddwn yn rhoi gwasanaethau newydd ar yr awyr gan gynnwys canu gwlad, cerddoriaeth dawns a cherddoriaeth yr oes a fu. Nid yw'r mwyafrif o'r gorsafoedd hyn erioed wedi cael eu darlledu yn yr ardal o'r blaen.”

Dyfarnwyd y drwydded Sheffield a Rotherhami Shefcast Digital, consortiwm o'r darlledwyr radio cymunedol lleol Sheffield Live!, Link FM a Redroad FM.

Mae gwasanaethau arfaethedig newydd ar yr amlblecs yn cynnwys Forge Radio (radio i fyfyrwyr o Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Sheffield); Radio ADP (radio cerddoriaeth a sgwrsio i Sheffield gyda ffocws ar y gymuned diaspora Affricanaidd); It’s Folk Radio (sianel canu gwerin o Sheffield); a Mondo Radio (gorsaf cerddoriaeth electronig danddaearol a leolir yn Sheffield).

Meddai Cadeirydd Shefcast Digital, Steve Buckley: “Bydd DAB graddfa fach yn Sheffield a Rotherham yn ehangu'r dewis i wrandawyr, yn ymateb i ddiddordebau lleol ac yn creu ystod ac amrywiaeth o wasanaethau lleol, cymunedol ac arbenigol newydd. I'r nifer mawr o wrandawyr teyrngar ein gorsafoedd radio cymunedol ar FM, bydd yn golygu hefyd bod eu hoff sianel ar gael ar DAB o'r diwedd.”

Ychwanegodd Sangita Basudev, Prif Weithredwr Sheffield Live!: “Ers i ni ddechrau fel yr orsaf radio cymunedol gyntaf i gael ei thrwyddedu yn Sheffield rydyn ni bob amser wedi cefnogi dyheadau pobl eraill i ddatblygu'r dirwedd radio lleol a chymunedol. Trwy ein cynllun cefnogi menter gymdeithasol rydym yn awr yn gweithio gyda gorsafoedd radio lleol ar y rhyngrwyd fel Rother Radio a Gumbo FM i ddod â nhw at DAB, yn ogystal â chreu rhai o'n gwasanaethau newydd ein hunain.”

Yn Dudley a Stourbridge,mae amlblecs graddfa fach wedi cael ei ddyfarnu i'r cwmni lleol, DigiMux. Ymysg y gwasanaethau cynlluniedig mae Radio India Dudley; Gorgeous FM, gorsaf LHDT+ i Birmingham a'r Ardal Ddu; a'r orsaf gwrando esmwyth Skylab Radio.

Meddai cyfarwyddwr technegol DigiMux, Nigel Ball: “Bydd y drwydded graddfa fach i Dudley a Stourbridge yn galluogi gorsafoedd sydd ar-lein yn unig i ddarlledu'n ddaearol am y tro cyntaf.”

Dywedodd Dave Brownhill, cyfarwyddwr Waterfront Media, sy'n rhedeg yr orsaf radio cymunedol leol Black Country Radio “Rydym wrth ein boddau bod Ofcom wedi dyfarnu'r drwydded yma i DigiMux Ltd. Fel partner yn y fenter hon, mae'n golygu y bydd Black Country Radio, ynghyd â'n cynnig newydd Black Country Xtra, ar gael ar DAB ar draws y Wlad Ddu dros y misoedd i ddod.”

Nodiadau i olygyddion

  1. Ers mis Chwefror, mae Ofcom wedi dyfarnu trwyddedau ar gyfer amlblecsau mewn 25 o ardaloedd lleol ledled y DU. Yr amlblecs yw'r cyfrwng a ddefnyddir i drawsyrru gorsafoedd radio digidol DAB. Rhyngddynt, disgwylir y bydd yr amlblecsau hyn yn trawsyrru tua 500 o wasanaethau radio digidol i wrandawyr lleol.
  2. Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi dyfarniadau chwe thrwydded amlblecs radio graddfa fach bellach, sy'n nodi diwedd y rownd drwyddedu gyntaf. Mae'r dyfarniadau wedi cael eu gwneud i'r ymgeiswyr a ganlyn:
    • Alnwick a Morpeth – UK DAB Networks Limited
    • Bradford  – Bradford Digital Media Limited
    • Caerwysg – ExeDAB Limited
    • Ynysoedd Sili - Like DAB Limited
    • Gogledd Birmingham – Switch Radio
    • De Birmingham – South Birmingham Digital Radio Limited
  3. Mae'r rhestr lawn o drwyddedau amlblecs radio graddfa fach a ddyfarnwyd gan Ofcom yn Rownd Un fel a ganlyn: Alnwick a Morpeth (UK DAB Networks); Basingstoke (UK DAB Networks); Bradford (Bradford Digital Media); Caergrawnt (Cambridge Digital Radio); Caerdydd (Cardiff DAB); Clevedon, Avonmouth a Filton (Severnside Digital Radio); Derry/ Londonderry (Foyle DAB); Glasgow (Nation Digital Investments); Dudley a Stourbridge (DigiMux); Dwyrain Bryste, Mangotsfield a Keynsham (Bristol Digital Radio); Caeredin (Edinburgh DAB); Inverclyde (UK DAB Networks); Caerwysg (ExeDAB); Ynysoedd Sili (Like DAB); King’s Lynn (North Norfolk Digital); Leeds (Leeds Digital Media); Newcastle a Gateshead (Tyneside Community Digital); Gogledd Birmingham (Switch Digital); Norwich (Future Digital Norfolk); Caersallog (Muxcast One); Sheffield a Rotherham (Shefcast Digital); De Birmingham (South Birmingham Digital Radio); Tynemouth a South Shields (Mux One); Cymoedd Cymru (GTFM South Wales); a Chaerwynt (UK DAB Networks). Mae gan yr holl ymgeiswyr llwyddiannus 18 mis o ddyddiad dyfarnu'r drwydded i lansio eu hamlblecs.

Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer trwyddedau sy'n cael eu hysbysebu yn Rownd Dau i Ofcom erbyn 5pm ar Medi 1af. Mae rhestr o'r ardaloedd trwydded y mae Ofcom yn bwriadu eu hysbysebu yn Rownd Tri yn ddiweddarach eleni ar gael yma.

Related content